Exodus
35 Yn nes ymlaen, casglodd Moses yr Israeliaid i gyd at ei gilydd a dweud wrthyn nhw: “Dyma’r pethau mae Jehofa wedi gorchymyn i chi eu gwneud: 2 Cewch chi weithio am chwe diwrnod, ond bydd y seithfed diwrnod yn rhywbeth sanctaidd ichi, saboth o orffwys llwyr i Jehofa. Bydd pwy bynnag sy’n gwneud gwaith ar y diwrnod hwnnw yn cael ei roi i farwolaeth. 3 Ni ddylech chi gynnau tân yn unrhyw un o’ch cartrefi ar y Saboth.”
4 Yna dywedodd Moses wrth yr Israeliaid i gyd: “Dyma beth mae Jehofa wedi ei orchymyn, 5 ‘Mae’n rhaid ichi gasglu cyfraniad ar gyfer Jehofa o’ch plith. Gadewch i bawb sydd â chalon hael gyfrannu i Jehofa: aur, arian, copr, 6 edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, lliain main, blew geifr, 7 crwyn hyrddod* wedi eu lliwio’n goch, crwyn morloi, coed acasia, 8 olew ar gyfer y lampau, balm ar gyfer yr olew eneinio a’r arogldarth persawrus, 9 gemau onics, a gemau eraill i’w gosod ar yr effod ac ar y darn o wisg wedi ei brodio sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad.
10 “‘Gadewch i bob gweithiwr medrus yn eich plith ddod a gwneud popeth mae Jehofa wedi ei orchymyn, 11 hynny yw, gwneud y tabernacl a’i babell a’i orchudd, ei fachau a’i fframiau, ei bolion, ei golofnau, a’i sylfeini;* 12 yr Arch a’i pholion, y caead, a’r llen ar gyfer y sgrin; 13 y bwrdd a’i bolion a’i holl offer a’r bara sydd wedi ei gyflwyno i Dduw;* 14 y canhwyllbren ar gyfer golau, a’i offer a’i lampau, a’r olew ar gyfer goleuo; 15 allor yr arogldarth a’i pholion; yr olew eneinio a’r arogldarth persawrus; y sgrin* ar gyfer mynedfa’r tabernacl; 16 allor yr offrymau llosg a’i gratin copr, ei pholion a’i holl offer; y basn a’i stand; 17 y llenni sy’n hongian o amgylch y cwrt, eu colofnau a’u sylfeini;* sgrin* mynedfa’r cwrt; 18 pegiau pabell y tabernacl a phegiau pabell y cwrt a’u rhaffau;* 19 y dillad hardd sydd wedi cael eu gweu ac sydd ar gyfer gwasanaethu yn y cysegr, y dillad sanctaidd ar gyfer Aaron yr offeiriad, a dillad ei feibion ar gyfer gwasanaethu fel offeiriaid.’”
20 Felly aeth yr holl Israeliaid yn ôl i’w pebyll ar ôl bod o flaen Moses. 21 Yna roedd pawb a oedd eisiau rhoi o wirfodd calon yn dod â chyfraniad i Jehofa er mwyn ei ddefnyddio ar gyfer pabell y cyfarfod, ar gyfer ei holl wasanaeth, ac ar gyfer y dillad sanctaidd. 22 Roedd y dynion a’r merched,* pob un â chalon hael, yn dal i ddod â broetshys, clustlysau, modrwyau, a gemwaith eraill, ynghyd â phob math o dlysau aur. Gwnaethon nhw i gyd gyflwyno eu hoffrymau* o aur i Jehofa. 23 Os oedd ganddyn nhw edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, lliain main, blew geifr, crwyn hyrddod* wedi eu lliwio’n goch, neu grwyn morloi, roedden nhw’n eu cyfrannu. 24 Os oedd ganddyn nhw arian neu gopr, roedden nhw’n cyfrannu hynny i Jehofa, ac os oedd ganddyn nhw goed acasia i’w defnyddio ar gyfer unrhyw ran o’r gwaith, roedden nhw’n cyfrannu hynny.
25 Dyma’r holl ferched* a oedd yn gallu troelli edau yn cyfrannu’r hyn roedden nhw wedi ei droelli: edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main. 26 A gwnaeth yr holl ferched* medrus a oedd eisiau cyfrannu o’u calonnau droelli’r blew geifr.
27 A gwnaeth y penaethiaid gyfrannu gemau onics a gemau eraill i’w gosod yn yr effod ac ar y darn o wisg wedi ei brodio sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad, 28 yn ogystal â balm ac olew ar gyfer goleuo ac ar gyfer yr olew eneinio ac ar gyfer yr arogldarth persawrus. 29 Gwnaeth yr holl ddynion a merched* a oedd â chalonnau hael gyfrannu rhywbeth i Jehofa. Rhoddon nhw’r pethau hyn fel offrwm gwirfoddol er mwyn cefnogi’r gwaith roedd Jehofa wedi ei orchymyn drwy Moses.
30 Yna dywedodd Moses wrth yr Israeliaid: “Edrychwch, mae Jehofa wedi dewis Besalel, mab Uri, mab Hur, o lwyth Jwda. 31 Mae Duw wedi ei lenwi â’i ysbryd, gan roi iddo ddoethineb, dealltwriaeth, a gwybodaeth am bob math o grefftwaith, 32 ar gyfer gwneud dyluniadau artistig, ar gyfer gweithio ag aur, arian, a chopr, 33 ar gyfer torri gemau a’u gosod, ac ar gyfer gwneud pob math o bethau artistig allan o bren. 34 Ac mae wedi rhoi’r gallu yn ei galon i ddysgu eraill, ef ac Oholiab fab Ahisamach, o lwyth Dan. 35 Mae wedi eu llenwi â’r gallu i fod yn fedrus wrth wneud holl waith crefftwr, brodiwr, a gwehydd sy’n gwneud pob math o ddefnydd gan ddefnyddio edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main. Bydd y dynion hyn yn gwneud pob math o waith ac yn paratoi pob math o ddyluniadau.