Exodus
38 Fe greodd yr allor ar gyfer offrymau llosg allan o goed acasia. Roedd yn sgwâr, yn bum cufydd* o hyd, yn bum cufydd o led, ac yn dri chufydd o uchder. 2 Wedyn rhoddodd gyrn ar y pedair cornel. Roedd y cyrn yn rhan ohoni. Nesaf gorchuddiodd yr allor â chopr. 3 Ar ôl hynny, fe wnaeth holl offer yr allor, y bwcedi, y rhawiau, y powlenni, y ffyrc, a’r llestri i ddal tân. Fe greodd yr holl offer allan o gopr. 4 Hefyd fe wnaeth ffurfio gratin ar gyfer yr allor, rhwydwaith o gopr, a’i osod o dan ei rhimyn, tuag at ei chanol. 5 Fe wnaeth bedair modrwy a rhoi un ar bob cornel wrth ymyl y gratin copr, er mwyn dal y polion. 6 Ar ôl hynny ffurfiodd y polion allan o goed acasia a’u gorchuddio â chopr. 7 Rhoddodd y polion drwy’r modrwyau ar ochrau’r allor er mwyn ei chario. Gwnaeth yr allor i edrych fel cist wag gan ddefnyddio planciau.
8 Wedyn fe wnaeth greu’r basn a’i stand allan o gopr gan ddefnyddio drychau’r* merched* a oedd yn gwasanaethu wrth fynedfa pabell y cyfarfod.
9 Yna fe greodd y cwrt. Ar gyfer ochr ddeheuol y cwrt, sy’n wynebu’r de, fe greodd y llenni allan o liain main, a oedd yn 100 cufydd o hyd. 10 Roedd ’na 20 colofn ac 20 sylfaen gopr,* ac roedd bachau’r colofnau a’u cysylltwyr* wedi cael eu gwneud allan o arian. 11 Hefyd ar gyfer yr ochr ogleddol, roedd ’na 100 cufydd o lenni yn hongian. Roedd yr 20 colofn a’r 20 sylfaen* wedi cael eu gwneud allan o gopr. Roedd bachau’r colofnau a’u cysylltwyr* wedi cael eu gwneud allan o arian. 12 Ond ar gyfer yr ochr orllewinol, roedd y llenni a oedd yn hongian yn 50 cufydd. Roedd ’na ddeg colofn a deg sylfaen,* ac roedd bachau’r colofnau a’u cysylltwyr* wedi cael eu gwneud allan o arian. 13 Roedd lled yr ochr ddwyreiniol, i gyfeiriad y wawr, yn 50 cufydd. 14 Ar un ochr mynedfa’r cwrt roedd ’na 15 cufydd o lenni yn hongian, gyda thair colofn a thair sylfaen.* 15 Ac ar ochr arall mynedfa’r cwrt roedd ’na 15 cufydd o lenni yn hongian, gyda thair colofn a thair sylfaen.* 16 Roedd yr holl lenni a oedd yn hongian o amgylch y cwrt wedi eu gwneud allan o liain main. 17 Roedd y sylfeini* ar gyfer y colofnau wedi cael eu gwneud allan o gopr, roedd bachau’r colofnau a’u cysylltwyr* wedi cael eu gwneud allan o arian, roedd y topiau wedi cael eu gorchuddio ag arian, ac roedd ’na fachau arian ar gyfer holl golofnau’r cwrt.
18 Roedd sgrin* mynedfa’r cwrt wedi cael ei gweu o edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main. Roedd yn 20 cufydd o hyd ac yn 5 cufydd o uchder, yr un uchder â’r llenni a oedd yn hongian o amgylch y cwrt. 19 Roedd ei phedair colofn a’i phedair sylfaen* wedi cael eu gwneud allan o gopr. Roedd eu bachau a’u cysylltwyr* wedi cael eu gwneud allan o arian, a’u topiau wedi cael eu gorchuddio ag arian. 20 Roedd yr holl begiau ar gyfer y tabernacl ac ar gyfer llenni’r cwrt wedi cael eu gwneud allan o gopr.
21 Dyna restr o’r nwyddau a gafodd eu defnyddio i adeiladu’r tabernacl, tabernacl y Dystiolaeth. Cafodd y rhain eu rhestru yn ôl gorchymyn Moses, cyfrifoldeb y Lefiaid oedd hyn, o dan arweiniad Ithamar fab Aaron yr offeiriad. 22 Dyma Besalel, mab Uri, mab Hur o lwyth Jwda yn gwneud popeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn i Moses. 23 Roedd Oholiab fab Ahisamach o lwyth Dan gydag ef, crefftwr a brodiwr a gwehydd yr edau las, y gwlân porffor, y defnydd ysgarlad, a’r lliain main.
24 Roedd yr holl aur a gafodd ei ddefnyddio ar gyfer holl waith y lle sanctaidd yn gyfartal â swm yr aur ar gyfer yr offrwm chwifio, 29 talent* a 730 sicl* yn ôl sicl y lle sanctaidd.* 25 Ac roedd arian y rhai yn y gynulleidfa a oedd wedi eu cofrestru yn cyfateb i 100 talent a 1,775 sicl yn ôl sicl y lle sanctaidd.* 26 Roedd ’na 603,550 o ddynion a oedd wedi eu cofrestru ac a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn, a daeth pob un ohonyn nhw â hanner sicl yr un, yn ôl sicl y lle sanctaidd.*
27 Roedd y sylfeini* ar gyfer y lle sanctaidd a’r sylfeini* ar gyfer y llen yn gyfartal â 100 talent; 100 sylfaen* yn gyfartal â 100 talent, un dalent ar gyfer pob sylfaen.* 28 Defnyddiodd 1,775 sicl i wneud bachau ar gyfer y colofnau ac i orchuddio eu topiau a’u cysylltu â’i gilydd.
29 Roedd y copr ar gyfer yr offrwm* yn 70 talent a 2,400 sicl. 30 Gyda’r copr hynny fe wnaeth sylfeini* ar gyfer mynedfa pabell y cyfarfod, yr allor gopr a’i gratin copr, holl offer yr allor, 31 y sylfeini* o amgylch y cwrt, sylfeini mynedfa’r cwrt,* holl begiau pabell y tabernacl, a holl begiau’r babell o amgylch y cwrt.