Numeri
19 Siaradodd Jehofa â Moses ac Aaron unwaith eto, gan ddweud: 2 “Dyma un o ddeddfau’r gyfraith a orchmynnodd Jehofa, ‘Dyweda wrth yr Israeliaid am ddod â buwch goch atat ti, un iach heb unrhyw nam arni ac sydd heb fod o dan iau. 3 Dylech chi ei rhoi i Eleasar yr offeiriad, a bydd ef yn mynd â hi y tu allan i’r gwersyll, a bydd hi’n cael ei lladd o’i flaen. 4 Yna gan ddefnyddio ei fys, bydd Eleasar yr offeiriad yn cymryd peth o’i gwaed ac yn ei daenellu saith gwaith i gyfeiriad mynedfa pabell y cyfarfod. 5 Yna bydd y fuwch yn cael ei llosgi o flaen ei lygaid. Bydd ei chroen, ei chnawd, a’i gwaed, yn ogystal â’i charthion* yn cael eu llosgi. 6 A bydd yr offeiriad yn cymryd coed cedrwydd, isop, a defnydd ysgarlad ac yn eu taflu nhw i ganol y tân sy’n llosgi’r fuwch. 7 Yna bydd yr offeiriad yn golchi ei ddillad ac yn ymolchi mewn dŵr, ac wedyn bydd yn cael dod i mewn i’r gwersyll; ond bydd ef yn aflan nes i’r haul fachlud.
8 “‘Bydd yr un a losgodd y fuwch yn golchi ei ddillad mewn dŵr ac yn ymolchi mewn dŵr, a bydd ef yn aflan nes i’r haul fachlud.
9 “‘Dylai dyn glân gasglu lludw’r fuwch a’i roi y tu allan i’r gwersyll mewn lle glân, a dylai cynulleidfa’r Israeliaid ei gadw er mwyn paratoi dŵr a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer puro. Mae’n offrwm dros bechod. 10 Bydd yr un sy’n casglu lludw’r fuwch yn golchi ei ddillad, a bydd ef yn aflan nes i’r haul fachlud.
“‘Bydd hyn yn ddeddf barhaol i’r Israeliaid ac i’r estroniaid sy’n byw yn eu plith. 11 Bydd unrhyw un sy’n cyffwrdd â pherson marw yn aflan am saith diwrnod. 12 Dylai ef ei buro ei hun â’r dŵr ar y trydydd diwrnod, ac ar y seithfed diwrnod bydd yn lân. Ond os nad yw’n ei buro ei hun ar y trydydd diwrnod, ni fydd yn lân ar y seithfed diwrnod. 13 Mae unrhyw un sy’n cyffwrdd â chorff person marw ac sydd ddim yn ei buro ei hun wedi halogi tabernacl Jehofa, ac mae’n rhaid i’r person hwnnw gael ei roi i farwolaeth.* Gan nad ydy’r dŵr sy’n puro wedi cael ei daenellu arno, bydd yn parhau i fod yn aflan.
14 “‘Dyma’r gyfraith ynglŷn â phan fydd dyn yn marw mewn pabell: Bydd unrhyw un sy’n mynd i mewn i’r babell, ac unrhyw un a oedd eisoes yn y babell, yn aflan am saith diwrnod. 15 Bydd pob llestr sy’n agored, heb unrhyw gaead wedi ei glymu arno, yn aflan. 16 Bydd pwy bynnag sydd yn y caeau agored sy’n cyffwrdd â rhywun a gafodd ei ladd â’r cleddyf, neu sy’n cyffwrdd â chorff marw neu ag asgwrn dyn neu â bedd yn aflan am saith diwrnod. 17 Er mwyn puro’r person aflan, dylai peth o ludw’r offrwm dros bechod a gafodd ei losgi gael ei gymryd a’i roi mewn llestr cyn tywallt* dŵr ffres arno. 18 Yna bydd dyn glân yn rhoi isop yn y dŵr ac yn ei ddefnyddio i daenellu’r dŵr ar y babell ac ar yr holl lestri ac ar y bobl a oedd yno. Bydd yn gwneud yr un fath gyda’r person a wnaeth gyffwrdd â’r un a gafodd ei ladd, neu â’r asgwrn, neu â’r corff marw, neu â’r bedd. 19 Bydd y person glân yn ei daenellu ar yr un aflan ar y trydydd diwrnod ac ar y seithfed diwrnod, a bydd yr un aflan yn cael ei buro o’i bechod ar y seithfed diwrnod. Yna dylai olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr, a bydd ef yn lân unwaith i’r haul fachlud.
20 “‘Ond ynglŷn â’r dyn sy’n aflan ac sy’n gwrthod ei buro ei hun, bydd rhaid iddo gael ei roi i farwolaeth,* am ei fod wedi halogi cysegr Jehofa. Ni chafodd y dŵr sy’n puro ei daenellu arno, felly mae ef yn aflan.
21 “‘Bydd hyn yn ddeddf barhaol iddyn nhw: Dylai’r un sy’n taenellu’r dŵr sy’n puro olchi ei ddillad, a bydd yr un sy’n cyffwrdd â’r dŵr sy’n puro yn aflan nes i’r haul fachlud. 22 Bydd unrhyw beth mae’r un aflan yn ei gyffwrdd yn dod yn aflan, a bydd unrhyw un sy’n cyffwrdd â’r pethau hynny yn aflan nes i’r haul fachlud.’”