Numeri
21 Pan wnaeth brenin Arad, y Canaanead a oedd yn byw yn y Negef, glywed bod Israel wedi dod ar hyd ffordd Atharim, ymosododd ar Israel a chymryd rhai ohonyn nhw’n gaeth. 2 Felly dyma Israel yn tyngu’r llw hwn i Jehofa: “Os gwnei di roi’r bobl hyn yn ein dwylo, yn bendant gwnawn ni ddinistrio eu dinasoedd nhw.” 3 Felly gwrandawodd Jehofa ar Israel, a rhoddodd y Canaaneaid yn eu dwylo, a gwnaethon nhw eu dinistrio nhw a’u dinasoedd yn llwyr. Felly rhoddon nhw’r enw Horma* ar y lle hwnnw.
4 Wrth iddyn nhw barhau ar eu taith o Fynydd Hor, gan fynd ar hyd ffordd y Môr Coch er mwyn osgoi mynd i mewn i wlad Edom, dechreuodd y bobl flino oherwydd y daith. 5 Ac roedd y bobl yn dal i siarad yn erbyn Duw a Moses, gan ddweud: “Pam rydych chi wedi dod â ni i fyny allan o’r Aifft i farw yn yr anialwch yma? Does ’na ddim bwyd na dŵr, ac rydyn ni’n casáu’r bara gwarthus hwn.” 6 Felly anfonodd Jehofa nadroedd* gwenwynig* ymysg y bobl, ac roedden nhw’n parhau i frathu’r bobl, fel bod llawer o Israeliaid yn marw.
7 Felly daeth y bobl at Moses a dweud: “Rydyn ni wedi pechu drwy siarad yn erbyn Jehofa ac yn dy erbyn di. Gweddïa ar Jehofa er mwyn iddo gael gwared ar y nadroedd hyn.” A gweddïodd Moses ar ran y bobl. 8 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Gwna gerflun o neidr wenwynig* a’i rhoi ar bolyn. Yna pan fydd rhywun yn cael ei frathu, bydd rhaid iddo edrych arni er mwyn aros yn fyw.” 9 Ar unwaith gwnaeth Moses neidr gopr a’i rhoi ar y polyn, a phryd bynnag byddai dyn yn edrych ar y neidr gopr ar ôl cael ei frathu gan neidr, byddai’n goroesi.
10 Ar ôl hynny dyma’r Israeliaid yn gadael ac yn gwersylla yn Oboth. 11 Yna gadawon nhw Oboth a gwersylla yn Ie-abarim, yn yr anialwch sy’n wynebu Moab, i gyfeiriad y dwyrain. 12 Gwnaethon nhw adael fan ’na a gwersylla wrth Ddyffryn* Sered. 13 Ar ôl gadael y lle hwnnw gwnaethon nhw wersylla yn ardal Dyffryn Arnon, sydd yn yr anialwch sy’n ymestyn o ffin yr Amoriaid, oherwydd Dyffryn Arnon yw ffin Moab, rhwng Moab a’r Amoriaid. 14 Dyna pam mae Llyfr Rhyfeloedd Jehofa yn sôn am “Waheb yn Suffa a dyffrynnoedd* Arnon, 15 ac mae llethrau’r dyffrynnoedd* yn ymestyn i lawr tuag at safle Ar, ac yn mynd ar hyd ffin Moab.”
16 Nesaf aethon nhw yn eu blaenau i Beer. Dyma’r ffynnon y soniodd Jehofa amdani wrth Moses pan ddywedodd: “Casgla’r bobl, ac fe wna i roi dŵr iddyn nhw.”
17 Bryd hynny, canodd Israel y gân hon:
“Ffrydia,* O ffynnon!—Canwch iddi!
18 Y ffynnon a gafodd ei chloddio gan benaethiaid y bobl,
Yr un gwnaeth y tywysogion ei hagor,
 ffon pennaeth ac â’u ffyn eu hunain.”
Yna aethon nhw o’r anialwch ymlaen i Mattana, 19 o Mattana ymlaen i Nahaliel, ac o Nahaliel ymlaen i Bamoth. 20 Aethon nhw yn eu blaenau o Bamoth i’r dyffryn sydd yn nhiriogaeth Moab, i fyny yn ardal fynyddig Pisga, sy’n edrych i lawr dros Jesimon.*
21 Yna anfonodd Israel negeswyr at Sihon, brenin yr Amoriaid, yn dweud: 22 “Plîs gad inni deithio drwy dy wlad. Fyddwn ni ddim yn troi i mewn i unrhyw gae na gwinllan nac yn yfed dŵr unrhyw ffynnon. Byddwn ni’n martsio* ar Briffordd y Brenin nes inni adael dy diriogaeth.” 23 Ond ni wnaeth Sihon ganiatáu i Israel deithio drwy ei diriogaeth. Yn hytrach, casglodd Sihon ei bobl i gyd at ei gilydd a mynd allan yn erbyn Israel yn yr anialwch, a daethon nhw at Jahas a dechrau ymladd ag Israel. 24 Ond gwnaeth Israel ei drechu â’r cleddyf, a chymryd ei wlad o Ddyffryn Arnon i Ddyffryn Jabboc, yn agos i diriogaeth yr Ammoniaid, ond nid ymhellach na Jaser, oherwydd mae Jaser ar ffin tiriogaeth yr Ammoniaid.
25 Felly cymerodd Israel y dinasoedd hyn i gyd, a dechreuon nhw fyw yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, yn Hesbon a’i threfi cyfagos i gyd. 26 Oherwydd Hesbon oedd dinas Sihon, brenin yr Amoriaid, a oedd wedi brwydro â brenin Moab a chymryd ei holl diriogaeth oddi arno mor bell â Dyffryn Arnon. 27 Dyna sut dechreuodd y dywediad sarhaus adnabyddus hwn:
“Dewch i Hesbon.
Gadewch i ddinas Sihon gael ei hadeiladu a’i sefydlu’n gadarn.
28 Oherwydd daeth tân allan o Hesbon, fflam o dref Sihon.
Mae wedi llosgi Ar ym Moab, ac arglwyddi ucheldir Dyffryn Arnon.
29 Gwae di, Moab! Byddwch chi’n cael eich dinistrio, O bobl Cemos!
Mae’n gwneud ei feibion yn ffoaduriaid, a’i ferched yn gaethion i Sihon, brenin yr Amoriaid.
30 Dewch inni saethu atyn nhw;
Bydd Hesbon yn cael ei dinistrio mor bell â Dibon;
Dewch inni ei difa mor bell â Noffa;
Bydd tân yn lledaenu mor bell â Medeba.”
31 Felly dechreuodd Israel fyw yng ngwlad yr Amoriaid. 32 Yna anfonodd Moses rai dynion i ysbïo ar Jaser. Gwnaethon nhw gipio ei threfi cyfagos a gyrru allan yr Amoriaid a oedd yno. 33 Wedyn dyma nhw’n troi ac yn mynd i fyny ar hyd Ffordd Basan. A daeth Og, brenin Basan, allan gyda’i bobl i gyd er mwyn brwydro yn eu herbyn nhw yn Edrei. 34 Dywedodd Jehofa wrth Moses: “Paid â’i ofni, oherwydd bydda i’n ei roi ef a’i bobl i gyd a’i wlad yn dy ddwylo, a byddi di’n gwneud iddo ef fel y gwnest ti i Sihon, brenin yr Amoriaid, a oedd yn byw yn Hesbon.” 35 Felly roedden nhw’n parhau i’w daro i lawr, ynghyd â’i feibion a’i holl bobl, nes eu bod nhw i gyd wedi marw, a gwnaethon nhw feddiannu ei wlad.