Yn Ôl Ioan
7 Ar ôl hyn, parhaodd Iesu i deithio* o gwmpas yng Ngalilea, oherwydd doedd ef ddim eisiau gwneud hynny yn Jwdea gan fod yr Iddewon yn ceisio ei ladd. 2 Fodd bynnag, roedd Gŵyl Tabernaclau* yr Iddewon yn agos. 3 Felly dywedodd ei frodyr wrtho: “Dos oddi yma i mewn i Jwdea, er mwyn i dy ddisgyblion hefyd weld y gweithredoedd rwyt ti’n eu gwneud. 4 Oherwydd does neb yn gwneud unrhyw beth yn ddistaw bach pan fydd eisiau cael ei adnabod yn gyhoeddus. Os wyt ti’n gwneud y pethau hyn, gwna dy hun yn amlwg i’r byd.” 5 Yn wir, doedd ei frodyr ddim yn ymarfer ffydd ynddo. 6 Felly dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Dydy fy amser i ddim wedi dod eto, ond mae unrhyw amser yn addas i chi. 7 Does gan y byd ddim rheswm i’ch casáu chi, ond mae’n fy nghasáu i, oherwydd rydw i’n tystiolaethu amdano fod ei weithredoedd yn ddrwg. 8 Ewch chi i fyny i’r ŵyl; dydw i ddim eto yn mynd i’r ŵyl hon, oherwydd dydy fy amser ddim wedi dod.” 9 Felly ar ôl iddo ddweud y pethau hyn wrthyn nhw, arhosodd yng Ngalilea.
10 Ond ar ôl i’w frodyr fynd i fyny i’r ŵyl, fe aeth yntau hefyd, nid yn agored ond yn ddistaw bach. 11 Felly dechreuodd yr Iddewon chwilio amdano yn yr ŵyl a dweud: “Lle mae’r dyn hwnnw?” 12 Ac roedd ’na lot o sibrwd amdano ymhlith y tyrfaoedd. Byddai rhai yn dweud: “Mae’n ddyn da.” Byddai eraill yn dweud: “Nac ydy. Mae’n camarwain y dyrfa.” 13 Wrth gwrs, doedd neb yn siarad amdano yn gyhoeddus oherwydd eu bod nhw’n ofni’r Iddewon.
14 Hanner ffordd drwy’r ŵyl, aeth Iesu i mewn i’r deml a dechrau dysgu. 15 Ac roedd yr Iddewon wedi rhyfeddu, gan ddweud: “Sut mae gan y dyn yma gymaint o wybodaeth am yr Ysgrythurau* ac yntau heb astudio yn yr ysgolion?”* 16 Atebodd Iesu drwy ddweud: “Dydy’r hyn rydw i’n ei ddysgu ddim yn perthyn i mi, ond mae’n perthyn i’r un a wnaeth fy anfon i. 17 Os oes rhywun eisiau gwneud ei ewyllys Ef, fe fydd yn gwybod a ydy’r ddysgeidiaeth yn dod o Dduw neu a ydw i’n siarad am fy syniadau fy hun. 18 Mae pwy bynnag sy’n siarad am ei syniadau ei hun yn ceisio ei ogoniant ei hun; ond pwy bynnag sy’n ceisio gogoniant yr un a wnaeth ei anfon, mae’r un hwnnw’n onest a does ’na ddim anghyfiawnder ynddo. 19 Rhoddodd Moses y Gyfraith ichi. Ond does yr un ohonoch chi’n dilyn y Gyfraith. Pam rydych chi’n ceisio fy lladd i?” 20 Atebodd y dyrfa: “Mae ’na gythraul ynot ti. Pwy sy’n ceisio dy ladd di?” 21 Atebodd Iesu nhw: “Un weithred wnes i, ac rydych chi i gyd yn rhyfeddu. 22 Am y rheswm hwn rhoddodd Moses y ddeddf o enwaedu ichi—nid bod enwaedu wedi dod o Moses, ond mae wedi dod o’r cyndadau—ac rydych chi’n enwaedu dyn ar y Saboth. 23 Os ydy dyn yn cael ei enwaedu ar y Saboth er mwyn peidio â thorri Cyfraith Moses, ydych chi wedi gwylltio’n gandryll oherwydd y gwnes i iacháu dyn yn llwyr ar y Saboth? 24 Stopiwch farnu yn ôl yr hyn sydd ar y tu allan, ond barnwch yn gyfiawn.”
25 Yna, dyma rai o drigolion Jerwsalem yn dechrau dweud: “Onid hwn ydy’r dyn maen nhw’n ceisio ei ladd? 26 Ac eto edrychwch! mae’n siarad yn gyhoeddus, a dydyn nhw ddim yn dweud dim byd wrtho. Ydy’r rheolwyr wedi dod i wybod yn bendant mai hwn ydy’r Crist? 27 I’r gwrthwyneb, rydyn ni’n gwybod o le mae’r dyn hwn yn dod; ond pan ddaw’r Crist, fydd neb yn gwybod o le mae’n dod.” 28 Yna, tra oedd Iesu’n dysgu yn y deml, fe waeddodd: “Rydych chi’n fy adnabod i ac yn gwybod o le rydw i’n dod. A dydw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun, ond mae’r Un a wnaeth fy anfon i yn real, a dydych chi ddim yn ei adnabod ef. 29 Rydw i’n ei adnabod, oherwydd rydw i’n ei gynrychioli, a’r Un hwnnw wnaeth fy anfon i.” 30 Felly dyma nhw’n ceisio cael gafael ynddo, ond ni wnaeth neb osod ei law arno, oherwydd doedd ei awr ddim wedi dod eto. 31 Er hynny, rhoddodd llawer o’r dyrfa ffydd ynddo, ac roedden nhw’n dweud: “Pan ddaw’r Crist, a fydd yn gwneud mwy o arwyddion na’r dyn yma?”
32 Clywodd y Phariseaid y dyrfa yn grwgnach amdano, a dyma’r prif offeiriaid a’r Phariseaid yn anfon swyddogion i’w arestio. 33 Yna dywedodd Iesu: “Bydda i gyda chi am ychydig mwy o amser cyn imi fynd at yr Un a wnaeth fy anfon i. 34 Byddwch chi’n chwilio amdana i, ond fyddwch chi ddim yn dod o hyd imi, a dydych chi ddim yn gallu dod i le rydw i.” 35 Felly, dywedodd yr Iddewon ymhlith ei gilydd: “Lle mae’r dyn yma’n bwriadu mynd, fel na fyddwn ni’n gallu dod o hyd iddo? Ydy ef yn bwriadu mynd at yr Iddewon sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid a dysgu’r Groegiaid? 36 Beth mae’n ei feddwl wrth ddweud, ‘Byddwch chi’n chwilio amdana i, ond fyddwch chi ddim yn dod o hyd imi, a dydych chi ddim yn gallu dod i le rydw i’?”
37 Ar y diwrnod olaf, dydd mawr yr ŵyl, dyma Iesu’n sefyll i fyny ac yn gweiddi: “Os oes syched ar rywun, gadewch iddo ddod ata i ac yfed. 38 Pwy bynnag sy’n rhoi ffydd yno i, yn union fel mae’r ysgrythur yn dweud: ‘O waelod ei galon bydd ffrydiau o ddŵr bywiol yn llifo.’” 39 Ond, dywedodd hyn am yr ysbryd roedd y rhai a oedd yn rhoi ffydd ynddo ar fin ei dderbyn; oherwydd hyd yma doedd ’na ddim ysbryd, gan nad oedd Iesu wedi cael ei ogoneddu eto. 40 Gwnaeth rhai yn y dyrfa a glywodd y geiriau hyn ddechrau dweud: “Yn wir, y Proffwyd ydy hwn.” 41 Roedd eraill yn dweud: “Hwn ydy’r Crist.” Ond roedd rhai yn dweud: “Dydy’r Crist ddim yn dod o Galilea, nac ydy? 42 Onid ydy’r ysgrythur yn dweud bod y Crist yn dod o ddisgynyddion Dafydd ac o Fethlehem, y pentref lle cafodd Dafydd ei eni a’i fagu?” 43 Felly roedd ’na anghytuno amdano ymhlith y dyrfa. 44 Ond, roedd rhai ohonyn nhw eisiau ei arestio, ond ni wnaeth neb osod ei ddwylo arno.
45 Yna aeth y swyddogion yn ôl at y prif offeiriaid a’r Phariseaid, a dyma’r rheini yn dweud wrthyn nhw: “Pam na wnaethoch chi ddod ag ef i mewn?” 46 Atebodd y swyddogion: “Does neb erioed wedi siarad fel hyn.” 47 Yna atebodd y Phariseaid: “Ydych chi wedi cael eich camarwain hefyd? 48 Does yr un o’r rheolwyr na’r Phariseaid wedi rhoi ffydd ynddo. 49 Ond mae’r dyrfa yma sydd ddim yn gwybod am y Gyfraith o dan felltith.” 50 Dyma Nicodemus, a oedd wedi mynd ato o’r blaen, ac a oedd yn un ohonyn nhw, yn dweud wrthyn nhw: 51 “Ydy ein Cyfraith ni yn barnu dyn heb glywed ganddo yn gyntaf a heb ddysgu beth mae’n ei wneud?” 52 Atebon nhw drwy ddweud wrtho: “Wyt ti’n dod o Galilea hefyd? Chwilia’r ysgrythurau a byddi di’n gweld does yr un proffwyd yn mynd i gael ei godi allan o Galilea.”*