Barnwyr
15 Beth amser wedyn, yn nyddiau’r cynhaeaf gwenith, aeth Samson i weld ei wraig, a daeth â gafr ifanc gydag ef. Dywedodd: “Rydw i eisiau mynd i mewn i weld fy ngwraig yn yr ystafell wely.” Ond wnaeth ei thad ddim gadael iddo fynd i mewn. 2 Dywedodd ei thad: “Roeddwn i’n meddwl, ‘Mae’n rhaid dy fod ti’n ei chasáu hi.’ Felly gwnes i ei rhoi i un o dy weision priodas. Onid ydy ei chwaer iau yn harddach na hi? Plîs cymera hi yn ei lle.” 3 Ond dywedodd Samson: “Y tro yma all y Philistiaid ddim rhoi’r bai arna i am achosi niwed iddyn nhw.”
4 Felly aeth Samson a dal 300 o lwynogod.* Yna cymerodd ffaglau, clymu’r llwynogod gynffon yn gynffon, a rhoi un ffagl rhwng pob pâr o gynffonnau. 5 Yna taniodd y ffaglau ac anfon y llwynogod allan i gaeau gwenith y Philistiaid. Rhoddodd bopeth ar dân, o’r gwenith oedd yn tyfu i’r ysgubau oedd wedi eu clymu, yn ogystal â’r gwinllannoedd a’r coed olewydd.
6 Gofynnodd y Philistiaid: “Pwy wnaeth hyn?” Cawson nhw wybod: “Samson wnaeth hyn, am fod ei dad-yng-nghyfraith, y dyn o Timna, wedi cymryd ei wraig a’i rhoi i un o’i weision priodas.” Gyda hynny aeth y Philistiaid i fyny a’i llosgi hi a’i thad â thân. 7 Yna dywedodd Samson wrthyn nhw: “Os mai dyma sut rydych chi’n ymddwyn, wna i ddim stopio nes imi ddial arnoch chi.” 8 Yna dyma’n eu taro nhw i lawr un ar ôl y llall,* a lladd nifer enfawr ohonyn nhw. Ac wedyn aeth i lawr ac aros mewn ogof yng nghraig Etam.
9 Yn hwyrach ymlaen daeth y Philistiaid i fyny a gwersylla yn Jwda ac roedden nhw’n crwydro o gwmpas Lehi yn barod i ymosod. 10 Yna dywedodd dynion Jwda: “Pam rydych chi wedi dod i fyny yn ein herbyn ni?” a dyma nhw’n ateb: “Rydyn ni wedi dod i fyny i gipio Samson, i wneud iddo ef yn union fel gwnaeth ef i ni.” 11 Felly aeth 3,000 o ddynion Jwda i lawr at yr ogof yng nghraig Etam a dweud wrth Samson: “Onid wyt ti’n gwybod bod y Philistiaid yn rheoli droston ni? Felly pam rwyt ti wedi gwneud hyn inni?” Dywedodd wrthyn nhw: “Gwnes i iddyn nhw fel roedden nhw wedi ei wneud i mi.” 12 Ond dywedon nhw wrtho: “Rydyn ni wedi dod i dy gipio di ac i dy roi di drosodd i’r Philistiaid.” Yna dywedodd Samson: “A wnewch chi addo imi na fyddwch chi’ch hunain yn ceisio fy lladd i?” 13 Yna dywedon nhw wrtho: “Byddwn ni ond yn dy glymu di ac yn dy roi di drosodd iddyn nhw, fyddwn ni ddim yn dy ladd di.”
Felly dyma nhw’n ei glymu â dwy raff newydd ac yn dod ag ef yn ôl o’r graig. 14 Pan gyrhaeddodd ef Lehi, gwaeddodd y Philistiaid yn fuddugol wrth ei weld. Yna daeth ysbryd Jehofa arno a rhoi nerth iddo, a daeth y rhaffau ar ei freichiau fel edau lliain oedd wedi eu llosgi yn y tân, a dyma ei rwymau yn toddi oddi ar ei ddwylo. 15 Nawr daeth o hyd i asgwrn gên asyn;* estynnodd allan a gafael ynddo a’i ddefnyddio i ladd 1,000 o ddynion. 16 Yna dywedodd Samson:
“Gydag asgwrn gên asyn—un pentwr, dau bentwr!
Gydag asgwrn gên asyn gwnes i daro 1,000 o ddynion i lawr.”
17 Unwaith iddo orffen siarad, taflodd yr asgwrn gên i ffwrdd a galw’r lle yn Ramath-lehi.* 18 Yna daeth yn sychedig iawn, a galwodd ar Jehofa a dweud: “Ti roddodd y fuddugoliaeth fawr hon i mi, dy was. Ond ydw i nawr am farw o syched a syrthio i ddwylo’r rhai sydd heb eu henwaedu?” 19 Felly dyma Duw yn agor pant oedd yn Lehi, a dyma ddŵr yn llifo allan ohono. Pan yfodd Samson ohono, daeth ei nerth* yn ôl a chafodd ei adfywio. Dyna pam rhoddodd yr enw En-haccore* arno, sydd yn Lehi hyd heddiw.
20 A gwnaeth ef farnu Israel yn nyddiau’r Philistiaid am 20 mlynedd.