LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Samuel 15
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Samuel

      • Saul yn anufuddhau drwy arbed Agag (1-9)

      • Samuel yn ceryddu Saul (10-23)

        • “Mae ufuddhau yn well nag aberth” (22)

      • Saul yn cael ei wrthod fel brenin (24-29)

      • Samuel yn lladd Agag (30-35)

1 Samuel 15:3

Troednodiadau

  • *

    Neu “Rhaid iti beidio â’u harbed.”

  • *

    Neu “menywod.”

1 Samuel 15:5

Troednodiadau

  • *

    Neu “wadi.”

1 Samuel 15:9

Troednodiadau

  • *

    Neu “gwnaeth Saul a’r bobl ddangos trugaredd tuag at.”

  • *

    Neu “y meheryn.”

1 Samuel 15:11

Troednodiadau

  • *

    Neu “galaru am fy mod i wedi.”

1 Samuel 15:23

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “delwau teraffim,” hynny yw, duwiau’r teulu.

1 Samuel 15:32

Troednodiadau

  • *

    Neu efallai, “aeth Agag ato yn hyderus.”

1 Samuel 15:33

Troednodiadau

  • *

    Neu “i fenywod.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
  • 31
  • 32
  • 33
  • 34
  • 35
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Samuel 15:1-35

Cyntaf Samuel

15 Yna dywedodd Samuel wrth Saul: “Gwnaeth Jehofa fy anfon i dy eneinio di yn frenin ar ei bobl Israel; nawr gwranda ar beth sydd gan Jehofa i’w ddweud. 2 Dyma beth mae Jehofa y lluoedd yn ei ddweud: ‘Bydda i’n dal yr Amaleciaid yn gyfrifol am beth wnaethon nhw i Israel; am ymosod arnyn nhw pan oedden nhw ar eu ffordd i fyny o’r Aifft. 3 Nawr dos, a tharo’r Amaleciaid i lawr, a’u dinistrio nhw a phopeth sydd ganddyn nhw yn llwyr. Rhaid iti beidio â dangos trugaredd tuag atyn* nhw; rhaid iti eu lladd nhw, y dynion a’r merched,* y plant a’r babanod, y teirw a’r defaid, y camelod a’r asynnod.’” 4 Galwodd Saul y fyddin at ei gilydd a chyfri’r dynion yn Telaim: Roedd ’na 200,000 o filwyr a 10,000 o ddynion Jwda.

5 Aeth Saul ymlaen mor bell â dinas Amalec a gosododd filwyr i guddio yn y dyffryn* i ymosod ar yr Amaleciaid. 6 Yna dywedodd Saul wrth y Ceneaid: “Ewch, gadewch yr Amaleciaid, fel na fydda i’n eich ysgubo chi i ffwrdd gyda nhw. Oherwydd gwnaethoch chi ddangos cariad ffyddlon tuag at holl bobl Israel pan ddaethon nhw i fyny allan o’r Aifft.” Felly aeth y Ceneaid allan o blith yr Amaleciaid. 7 Ar ôl hynny, tarodd Saul yr Amaleciaid i lawr o Hafila mor bell â Sur, sydd wrth ymyl yr Aifft. 8 Daliodd Agag, brenin Amalec, yn fyw, ond dinistriodd bawb arall yn llwyr â’r cleddyf. 9 Ond gwnaeth Saul a’r bobl arbed* Agag, yn ogystal â’r gorau a’r tewaf o’r praidd a’r gwartheg, yr hyrddod,* a phopeth oedd yn dda. Doedden nhw ddim eisiau eu dinistrio. Ond gwnaethon nhw ddinistrio yn llwyr bopeth oedd yn dda i ddim a phopeth doedden nhw ddim eisiau.

10 Yna dywedodd Jehofa wrth Samuel: 11 “Rydw i’n difaru* gwneud Saul yn frenin, oherwydd mae ef wedi cefnu arna i, ac wedi stopio fy nilyn i, a dydy ef ddim wedi gwneud fel rydw i wedi dweud.” Dyma Samuel yn ypsetio’n lân, a daliodd ati i erfyn ar Jehofa drwy’r nos. 12 Pan gododd Samuel yn gynnar yn y bore i gyfarfod Saul, dywedodd y bobl wrth Samuel: “Aeth Saul i Garmel, a chododd gofgolofn iddo’i hun yno. Yna trodd a mynd i lawr i Gilgal.” 13 Pan ddaeth Samuel ato o’r diwedd, dywedodd Saul wrtho: “Bendith Jehofa arnat ti! Rydw i wedi gwneud beth ddywedodd Jehofa.” 14 Ond dywedodd Samuel: “Felly pam rydw i’n gallu clywed sŵn defaid a gwartheg?” 15 Atebodd Saul: “Cawson nhw eu cymryd oddi ar yr Amaleciaid, oherwydd gwnaeth y bobl arbed goreuon y praidd a’r gwartheg er mwyn eu haberthu nhw i Jehofa dy Dduw; ond gwnaethon ni ddinistrio’n llwyr bopeth oedd ar ôl.” 16 Gyda hynny, dywedodd Samuel wrth Saul: “Stopia! Gad imi ddweud wrthot ti beth ddywedodd Jehofa wrtho i neithiwr.” Felly atebodd: “Dyweda wrtho i!”

17 Aeth Samuel ymlaen i ddweud: “Onid oeddet ti’n meddwl nad oeddet ti’n bwysig pan gest ti dy wneud yn bennaeth ar lwythau Israel a phan wnaeth Jehofa dy eneinio di yn frenin ar Israel? 18 Yn hwyrach ymlaen, gwnaeth Jehofa dy anfon di allan gan ddweud, ‘Dos, a dinistria’r Amaleciaid pechadurus yn llwyr. Brwydra yn eu herbyn nhw nes iti eu lladd nhw i gyd.’ 19 Pam na wnest ti ufuddhau i lais Jehofa? Yn hytrach gwnest ti frysio at yr ysbail yn farus a gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa!”

20 Ond dywedodd Saul wrth Samuel: “Ond rydw i wedi ufuddhau i lais Jehofa! Rydw i wedi cwblhau’r aseiniad roddodd Jehofa imi, a des i ag Agag, brenin Amalec, yn ei ôl, ac rydw i wedi dinistrio’r Amaleciaid yn llwyr. 21 Ond cymerodd y bobl y defaid a’r gwartheg o’r ysbail, y gorau o’r hyn roedd i fod i gael ei ddinistrio, er mwyn eu haberthu i Jehofa dy Dduw yn Gilgal.”

22 Yna dywedodd Samuel: “Beth sy’n plesio Jehofa yn fwy—gwneud offrymau llosg ac aberthau, neu wrando ar lais Jehofa? Yn sicr, mae ufuddhau yn well nag aberth, ac mae gwrando’n astud yn well na braster hyrddod; 23 oherwydd mae gwrthryfela mor ddrwg â dewino, ac mae bwrw ymlaen yn hy mor ddrwg â defnyddio hud a lledrith ac addoli eilunod.* Am dy fod ti wedi gwrthod gair Jehofa, mae ef wedi dy wrthod di rhag bod yn frenin.”

24 Yna dywedodd Saul wrth Samuel: “Rydw i wedi pechu drwy fynd y tu hwnt i orchymyn Jehofa a dy eiriau di, oherwydd roeddwn i’n ofni’r bobl a gwnes i wrando ar beth ddywedon nhw. 25 Ac nawr, plîs, maddeua imi am fy mhechod, a thyrd yn ôl gyda mi er mwyn imi gael ymgrymu i Jehofa.” 26 Ond dywedodd Samuel wrth Saul: “Wna i ddim dod yn ôl gyda ti, oherwydd rwyt ti wedi gwrthod gair Jehofa, ac mae Jehofa wedi dy wrthod di rhag parhau fel brenin ar Israel.” 27 Fel roedd Samuel yn troi i adael, gafaelodd Saul yn ymyl ei gôt ddilewys, ond rhwygodd y gôt. 28 Gyda hynny, dywedodd Samuel wrtho: “Mae Jehofa wedi rhwygo teyrnas Israel oddi arnat ti heddiw, a bydd ef yn ei rhoi i ddyn sy’n well na ti. 29 Ar ben hynny, ni fydd yr un o eiriau Ardderchocaf Israel yn methu, a fydd ef ddim yn newid ei feddwl, oherwydd dydy Ef ddim fel dyn sy’n newid ei feddwl.”

30 Gyda hynny dywedodd: “Rydw i wedi pechu. Ond plîs, anrhydedda fi o flaen henuriaid fy mhobl ac o flaen Israel. Tyrd yn ôl gyda mi a bydda i’n ymgrymu i Jehofa dy Dduw.” 31 Felly aeth Samuel yn ôl gyda Saul ac ymgrymodd Saul i Jehofa. 32 A dywedodd Samuel: “Dewch ag Agag, brenin Amalec, ata i.” Yna aeth Agag ato er ei fod yn gyndyn o wneud hynny* oherwydd roedd wedi bod yn dweud wrtho’i hun: ‘Fydda i ddim yn cael fy lladd erbyn hyn mae’n debyg.’ 33 Ond dywedodd Samuel: “Yn union fel mae dy gleddyf wedi gwneud i ferched* golli eu plant, felly hefyd bydd dy fam di heb unrhyw blant.” Gyda hynny, dyma Samuel yn hacio Agag yn ddarnau o flaen Jehofa yn Gilgal.

34 Nawr aeth Samuel i Rama, ac aeth Saul i fyny i’w dŷ yn Gibea. 35 Wnaeth Samuel ddim gweld Saul byth eto, oherwydd dechreuodd Samuel alaru dros Saul. Ac roedd Jehofa yn difaru ei fod wedi gwneud Saul yn frenin ar Israel.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu