LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Samuel 19
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Samuel

      • Saul yn parhau i gasáu Dafydd (1-13)

      • Dafydd yn dianc oddi wrth Saul (14-24)

1 Samuel 19:5

Troednodiadau

  • *

    Neu “enaid.”

1 Samuel 19:11

Troednodiadau

  • *

    Neu “dianc am dy enaid.”

1 Samuel 19:13

Troednodiadau

  • *

    Neu “yr eilun; duw y teulu.”

1 Samuel 19:16

Troednodiadau

  • *

    Neu “yr eilun; duw y teulu.”

1 Samuel 19:24

Troednodiadau

  • *

    Neu “yn gwisgo ychydig o ddillad.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Samuel 19:1-24

Cyntaf Samuel

19 Yn hwyrach ymlaen, soniodd Saul wrth Jonathan ei fab ac wrth ei holl weision am ladd Dafydd. 2 Am fod Jonathan, mab Saul, yn hoff iawn o Dafydd, dywedodd Jonathan wrth Dafydd: “Mae fy nhad Saul eisiau dy ladd di. Plîs gwylia dy hun yn y bore, a dos i rywle diogel a chuddia yno. 3 Gwna i fynd allan a sefyll wrth ymyl fy nhad yn y cae lle byddi di. Gwna i sôn amdanat ti wrth fy nhad, ac os ydw i’n dysgu unrhyw beth, bydda i’n siŵr o ddweud wrthot ti.”

4 Felly dyma Jonathan yn dweud pethau da am Dafydd wrth ei dad Saul. Dywedodd wrtho: “Ddylai’r brenin ddim pechu yn erbyn ei was Dafydd, oherwydd dydy ef ddim wedi pechu yn dy erbyn di, ac mae popeth mae ef wedi ei wneud drostot ti wedi bod o les iti. 5 Mentrodd ei fywyd* i ladd y Philistiad, yna rhoddodd Jehofa fuddugoliaeth fawr i Israel gyfan. Gwnest ti ei weld, ac roeddet ti’n llawen dros ben. Felly pam dylet ti bechu yn erbyn gwaed di-euog drwy ladd Dafydd am ddim rheswm?” 6 Gwrandawodd Saul ar Jonathan, a gwnaeth Saul addo: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, fydd ef ddim yn cael ei ladd.” 7 Yn nes ymlaen, dyma Jonathan yn galw Dafydd a dweud hyn i gyd wrtho. Felly aeth Jonathan â Dafydd at Saul, a pharhaodd i’w wasanaethu fel o’r blaen.

8 Ymhen amser, dechreuodd rhyfel unwaith eto ac aeth Dafydd allan a brwydro yn erbyn y Philistiaid a lladd llawer ohonyn nhw, a gwnaeth gweddill y Philistiaid ffoi oddi wrtho.

9 A daeth ysbryd drwg oddi wrth Jehofa ar Saul pan oedd yn eistedd yn ei dŷ gyda’i waywffon yn ei law, tra oedd Dafydd yn chwarae’r delyn. 10 Dyma Saul yn trio hoelio Dafydd i’r wal gyda’r waywffon, ond gwnaeth Dafydd ei osgoi, ac aeth y waywffon i mewn i’r wal. Dyma Dafydd yn ffoi ac yn dianc y noson honno. 11 Anfonodd Saul negeswyr at dŷ Dafydd i’w wylio ac i’w ladd yn y bore, ond dywedodd Michal, gwraig Dafydd, wrtho: “Os nad wyt ti’n dianc* heno, byddi di’n marw yfory.” 12 Ar unwaith, dyma Michal yn gollwng Dafydd i lawr drwy’r ffenest er mwyn iddo allu rhedeg i ffwrdd a dianc. 13 Cymerodd Michal y ddelw teraffim* a’i rhoi ar y gwely, ac yna rhoddodd hi frethyn o flew gafr lle byddai ei ben fel arfer, a’i gorchuddio gyda dilledyn.

14 Nawr anfonodd Saul negeswyr i gymryd Dafydd, ond dywedodd Michal: “Mae’n sâl.” 15 Felly anfonodd Saul y negeswyr yn ôl i weld Dafydd a dywedodd wrthyn nhw: “Tyrd ag ef yma ar ei wely imi gael ei ladd.” 16 Pan ddaeth y negeswyr i mewn, dyna lle roedd y ddelw teraffim* ar y gwely gyda brethyn o flew gafr lle byddai ei ben fel arfer. 17 Dywedodd Saul wrth Michal: “Pam gwnest ti fy nhwyllo i fel hyn ac anfon fy ngelyn i ffwrdd fel ei fod yn gallu dianc?” Atebodd Michal: “Dywedodd ef wrtho i, ‘Anfona fi i ffwrdd, neu bydda i’n dy ladd di!’”

18 Nawr roedd Dafydd wedi rhedeg i ffwrdd a dianc, ac aeth at Samuel yn Rama. Dywedodd wrtho am bopeth roedd Saul wedi ei wneud iddo. Yna aeth ef a Samuel i ffwrdd ac arhoson nhw yn Naioth. 19 Ymhen amser, cafodd Saul wybod bod Dafydd yn Naioth yn Rama. 20 Ar unwaith, anfonodd Saul negeswyr i ddal Dafydd. Pan welson nhw’r proffwydi hŷn yn proffwydo a Samuel yn sefyll ac yn eu harwain nhw, daeth ysbryd Duw ar negeswyr Saul a dechreuon nhw ymddwyn fel proffwydi hefyd.

21 Pan wnaethon nhw sôn wrth Saul am hyn, anfonodd ef negeswyr eraill ar unwaith, a dechreuon nhwthau ymddwyn fel proffwydi. Felly anfonodd Saul drydydd grŵp o negeswyr, a dechreuon nhwthau ymddwyn fel proffwydi hefyd. 22 Yn y pen draw aeth yntau hefyd i Rama. Unwaith iddo gyrraedd y pydew mawr sydd yn Secu, gofynnodd: “Ble mae Samuel a Dafydd?” Atebon nhw: “Maen nhw yn Naioth yn Rama.” 23 Tra oedd Saul ar ei ffordd i Naioth yn Rama, daeth ysbryd Duw arno ef hefyd, ac wrth iddo gerdded roedd yn ymddwyn fel proffwyd nes iddo gyrraedd Naioth yn Rama. 24 Hefyd tynnodd ei ddillad, a dechreuodd yntau ymddwyn fel proffwyd o flaen Samuel, a gorweddodd yno yn noeth* drwy’r dydd a thrwy’r nos. Dyna pam maen nhw’n dweud: “Ydy Saul hefyd yn un o’r proffwydi?”

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu