Exodus
4 Fodd bynnag, atebodd Moses: “Ond beth os nad ydyn nhw’n fy nghredu i nac yn gwrando ar fy llais, oherwydd byddan nhw’n dweud, ‘Ni wnaeth Jehofa ymddangos iti.’” 2 Yna dywedodd Jehofa wrtho: “Beth sydd yn dy law?” Atebodd: “Ffon.” 3 Dywedodd ef: “Tafla hi ar y llawr.” Felly dyma’n ei thaflu ar y llawr, ac fe drodd yn neidr;* a rhedodd Moses i ffwrdd oddi wrthi. 4 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses: “Estynna dy law a gafael yn ei chynffon.” Felly estynnodd ei law a gafael ynddi, ac fe drodd yn ffon yn ei law. 5 Yna dywedodd Duw: “Gwna hyn er mwyn iddyn nhw gredu bod Jehofa, Duw eu cyndadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob, wedi ymddangos iti.”
6 Dywedodd Jehofa wrtho unwaith eto: “Plîs, rho dy law yn dy gôt.” Felly fe roddodd ei law yn ei gôt. Pan dynnodd ei law allan, roedd wedi cael ei tharo â’r gwahanglwyf ac yn wyn fel eira! 7 Yna dywedodd: “Rho dy law yn ôl yn dy gôt.” Felly rhoddodd ei law yn ôl yn ei gôt. Pan dynnodd ei law allan o’r gôt, roedd yn iach fel gweddill ei groen! 8 Dywedodd: “Os nad ydyn nhw’n dy gredu di nac yn talu sylw i’r arwydd cyntaf, yna byddan nhw’n sicr o dalu sylw i’r arwydd nesaf. 9 Ond eto, os nad ydyn nhw’n credu’r ddau arwydd hyn ac yn gwrthod gwrando ar dy lais, cymera ychydig o ddŵr o Afon Nîl a’i dywallt* ar y tir sych, a bydd y dŵr byddi di’n ei gymryd o’r afon yn troi’n waed ar y tir sych.”
10 Nawr dywedodd Moses wrth Jehofa: “Esgusoda fi, Jehofa, ond dydw i erioed wedi siarad yn rhugl, nid yn y gorffennol nac ers iti siarad â dy was. Rydw i’n siarad yn araf a dydw i ddim yn gwybod sut i fy mynegi fy hun yn dda.” 11 Dywedodd Jehofa wrtho: “Pwy a roddodd y gallu i ddyn siarad, neu pwy sy’n ei wneud yn fud, yn fyddar, yn rhywun sy’n gweld yn dda, neu’n ddall? Onid fi, Jehofa? 12 Felly dos nawr, ac fe fydda i gyda ti wrth iti siarad, a bydda i’n dy ddysgu di beth dylet ti ei ddweud.” 13 Ond dywedodd Moses: “Esgusoda fi, Jehofa, plîs anfona rywun arall, pwy bynnag rwyt ti eisiau.” 14 Yna gwnaeth Jehofa wylltio’n lân â Moses, ond dywedodd: “Beth am dy frawd Aaron, y Lefiad? Rydw i’n gwybod ei fod yn gallu siarad yn dda iawn. Ac mae ef nawr ar ei ffordd yma i dy gyfarfod di. Pan fydd yn dy weld di, bydd ei galon yn llawenhau. 15 Felly mae’n rhaid iti siarad ag ef a sôn wrtho am beth i’w ddweud, ac fe fydda i gyda’r ddau ohonoch chi wrth ichi siarad, a bydda i’n eich dysgu chi beth i’w wneud. 16 Bydd ef yn siarad â’r bobl drostot ti, a bydd ef yn siarad ar dy ran di, a byddi di’n sôn wrtho am beth mae Duw’n ei ddweud.* 17 A byddi di’n cymryd y ffon yma yn dy law ac yn gwneud y gwyrthiau hynny â hi.”
18 Felly aeth Moses yn ôl at ei dad-yng-nghyfraith, Jethro, a dweud wrtho: “Plîs, rydw i eisiau mynd yn ôl at fy mrodyr sydd yn yr Aifft i weld a ydyn nhw’n dal yn fyw.” Dywedodd Jethro wrth Moses: “Dos mewn heddwch.” 19 Ar ôl hynny dywedodd Jehofa wrth Moses ym Midian: “Dos yn ôl i’r Aifft, oherwydd mae’r holl ddynion a oedd yn ceisio dy ladd di wedi marw.”
20 Yna cymerodd Moses ei wraig a’i feibion a’u rhoi nhw ar gefn asyn, a dyma’n cychwyn ar ei daith yn ôl i wlad yr Aifft. Ar ben hynny, cymerodd Moses ffon y gwir Dduw yn ei law. 21 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Ar ôl iti fynd yn ôl i’r Aifft, gwna’n siŵr dy fod ti’n gwneud yr holl wyrthiau rydw i wedi rhoi’r gallu iti eu gwneud o flaen Pharo. Ond bydda i’n gadael i’w galon droi’n ystyfnig, ac ni fydd yn gadael i’r bobl fynd. 22 Mae’n rhaid iti ddweud wrth Pharo, ‘Dyma beth mae Jehofa’n ei ddweud: “Israel yw fy mab, fy nghyntaf-anedig. 23 Rydw i’n dweud wrthot ti, anfona fy mab i ffwrdd er mwyn iddo allu fy ngwasanaethu i. Ond os wyt ti’n gwrthod ei anfon i ffwrdd, rydw i’n mynd i ladd dy fab dithau, dy gyntaf-anedig di.”’”
24 Nawr ar y ffordd, pan oedden nhw wedi stopio i orffwys, gwnaeth Jehofa ei gyfarfod a cheisio ei ladd. 25 Yn y diwedd, cymerodd Sippora ddarn o fflint* ac enwaedu ei mab ac achosi i’w flaengroen gyffwrdd â’i draed a dweud: “Mae hyn oherwydd dy fod ti’n briodfab imi drwy waed.” 26 Felly dyma Ef yn gadael iddo fynd. Dywedodd hi, “priodfab drwy waed,” oherwydd yr enwaediad.
27 Yna dywedodd Jehofa wrth Aaron: “Dos i mewn i’r anialwch i gyfarfod Moses.” Felly fe aeth i’w gyfarfod wrth fynydd y gwir Dduw a’i gyfarch â chusan. 28 A dyma Moses yn sôn wrth Aaron am holl eiriau Jehofa ac am yr holl arwyddion roedd Ef wedi gorchymyn iddo eu gwneud. 29 Ar ôl hynny fe aeth Moses ac Aaron i gasglu henuriaid Israel i gyd. 30 Dyma Aaron yn sôn wrthyn nhw am yr holl eiriau roedd Jehofa wedi eu dweud wrth Moses, a dyma’n gwneud y gwyrthiau o flaen llygaid y bobl. 31 Ar hynny, gwnaeth y bobl gredu. Pan glywson nhw fod Jehofa wedi rhoi ei sylw i’r Israeliaid a’i fod wedi gweld eu dioddefaint, gwnaethon nhw blygu i lawr ac ymgrymu.