LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Samuel 23
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Samuel

      • Geiriau olaf Dafydd (1-7)

      • Milwyr dewr Dafydd yn gwneud pethau mawr (8-39)

2 Samuel 23:1

Troednodiadau

  • *

    Neu “Yr un hyfryd yng nghaneuon Israel.”

2 Samuel 23:4

Troednodiadau

  • *

    Neu “i borfa.”

2 Samuel 23:13

Troednodiadau

  • *

    Neu “yng Ngwastatir Isel.”

2 Samuel 23:16

Troednodiadau

  • *

    Neu “arllwys.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Cariad Duw, t. 77

2 Samuel 23:17

Troednodiadau

  • *

    Neu “eu heneidiau?”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Cariad Duw, t. 77

2 Samuel 23:20

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “yn fab i ddyn dewr.”

2 Samuel 23:30

Troednodiadau

  • *

    Neu “wadïau.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
  • 31
  • 32
  • 33
  • 34
  • 35
  • 36
  • 37
  • 38
  • 39
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Samuel 23:1-39

Ail Samuel

23 Dyma eiriau olaf Dafydd:

“Geiriau Dafydd fab Jesse,

A geiriau’r dyn gafodd ei godi’n uchel,

Un eneiniog Duw Jacob,

Canwr hyfryd caneuon Israel.*

 2 Siaradodd ysbryd Jehofa drwyddo i;

Roedd ei air ar fy nhafod.

 3 Siaradodd Duw Israel;

Dywedodd Craig Israel wrtho i:

‘Pan fydd rhywun cyfiawn yn rheoli dros ddynolryw,

Ac yn ofni Duw wrth reoli,

 4 Yna bydd ei deyrnasiad yn debyg i oleuni’r bore pan fydd yr haul yn disgleirio,

Fel bore heb gymylau.

Bydd yn debyg i’r golau ar ôl y glaw,

Sy’n gwneud i laswellt* dyfu o’r ddaear.’

 5 Onid yw fy nhŷ fel ’na o flaen Duw?

Oherwydd mae ef wedi gwneud cyfamod tragwyddol â mi,

Sydd wedi ei sefydlu’n gadarn ac wedi ei drefnu i’r manylyn lleiaf.

Mae’r cyfamod yn golygu llawenydd ac achubiaeth imi,

Onid dyna pam mae’n gwneud iddo ffynnu?

 6 Ond mae dynion diwerth i gyd yn cael eu taflu i ffwrdd fel drain,

Drain sydd ddim yn gallu cael eu cymryd i ffwrdd â dwylo.

 7 Pan fydd dyn yn gafael ynddyn nhw,

Dylai gael ei arfogi â haearn a gwaywffon,

A dylen nhw gael eu llosgi â thân yn y fan a’r lle.”

8 Dyma enwau milwyr dewr Dafydd: Joseb-bassebeth, un o’r Hachmoniaid, pennaeth y tri. Un tro, defnyddiodd ei waywffon i ladd 800 o ddynion. 9 Nesaf ato roedd Eleasar, mab Dodo, mab Ahohi, a oedd ymhlith y tri milwr dewr a oedd gyda Dafydd pan wnaethon nhw herio’r Philistiaid. Roedden nhw wedi casglu at ei gilydd yno ar gyfer y frwydr, a phan giliodd dynion Israel yn ôl, 10 safodd ei dir a pharhau i daro’r Philistiaid i lawr nes bod ei fraich wedi blino, a’i fysedd wedi cloi am ei fod yn gafael yn y cleddyf mor dynn. Felly daeth Jehofa â buddugoliaeth fawr ar y diwrnod hwnnw; a gwnaeth y bobl ei ddilyn i fynd i ysbeilio’r rhai oedd wedi marw.

11 Nesaf at hwnnw roedd Samma fab Age yr Harariad. Daeth y Philistiaid at ei gilydd yn Lehi, lle roedd ’na ddarn o dir yn llawn ffacbys; a gwnaeth y bobl ffoi oherwydd y Philistiaid. 12 Ond safodd Samma ynghanol y cae a’i amddiffyn a pharhaodd i daro’r Philistiaid i lawr fel bod Jehofa yn ennill buddugoliaeth fawr.

13 Aeth tri o’r 30 pennaeth i lawr at Dafydd yn ystod y cynhaeaf i ogof Adulam, ac roedd y Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn* Reffaim. 14 Bryd hynny, roedd Dafydd yn y lloches ac roedd garsiwn o Philistiaid ym Methlehem. 15 A dywedodd Dafydd: “Byddwn i wrth fy modd yn cael yfed dŵr o’r ffynnon sydd wrth ymyl giât Bethlehem!” 16 Gyda hynny, dyma’r tri milwr dewr yn gwthio eu ffordd i mewn i wersyll y Philistiaid ac yn codi dŵr o’r ffynnon wrth ymyl giât Bethlehem, a daethon nhw â’r dŵr at Dafydd. Ond gwrthododd yfed y dŵr a dyma’n ei dywallt* ar y llawr o flaen Jehofa. 17 Dywedodd: “O Jehofa, alla i ddim hyd yn oed meddwl am wneud hyn! A ddylwn i yfed gwaed y dynion a wnaeth fentro eu bywydau?”* Felly gwrthododd ei yfed. Dyma’r pethau a wnaeth ei dri milwr dewr.

18 Roedd Abisai, brawd Joab fab Seruia yn bennaeth ar dri arall; defnyddiodd ei gleddyf i ladd 300 o ddynion, ac roedd yn enwog fel y tri chyntaf. 19 Er mai ef oedd y mwyaf adnabyddus o’r tri milwr dewr, ac ef oedd eu pennaeth, doedd ef ddim cystal â’r tri chyntaf.

20 Roedd Benaia fab Jehoiada yn ddyn dewr* a oedd wedi gwneud pethau mawr yn Cabseel. Tarodd ddau fab Ariel o Moab i lawr, ac aeth i mewn i bydew dŵr ar ddiwrnod o eira a lladd llew. 21 Gwnaeth ef hefyd daro i lawr Eifftiwr a oedd yn gawr o ddyn. Er bod gan yr Eifftiwr waywffon yn ei law, aeth yn ei erbyn â ffon a chipio’r waywffon o law yr Eifftiwr a’i ladd â’i waywffon ei hun. 22 Dyma wnaeth Benaia fab Jehoiada, ac roedd yn enwog fel y tri milwr dewr. 23 Er ei fod yn fwy adnabyddus na gweddill y tri deg, doedd ef ddim cystal â’r tri chyntaf. Ond gwnaeth Dafydd ei benodi i fod yn bennaeth ar ei warchodlu ei hun.

24 Roedd y tri deg milwr dewr yn cynnwys Asahel brawd Joab, Elhanan brawd Dodo o Fethlehem, 25 Samma o Harod, Elica o Harod, 26 Heles y Paltiad, Ira fab Icces y Tecoiad, 27 Abi-eser o Anathoth, Mebunnai yr Husathiad, 28 Salmon fab Ahoa, Maharai o Netoffa, 29 Heleb fab Baana o Netoffa, Itai fab Ribai o Gibea yn Benjamin, 30 Benaia o Pirathon, Hidai o ddyffrynnoedd* Gaas, 31 Abi-albon o Beth-araba, Asmafeth o Bahurim, 32 Eliahba o Saalbim, meibion Jasen, Jonathan, 33 Samma yr Harariad, Ahiam fab Sarar yr Harariad, 34 Eliffelet fab Ahasbai fab y Maachathiad, Eliam fab Ahitoffel y Giloniad, 35 Hesro o Garmel, Paarai o Arab, 36 Igal fab Nathan o Soba, Bani y Gadiad, 37 Selec yr Ammoniad, Naharai o Beeroth, gwas arfau Joab fab Seruia, 38 Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad, 39 ac Ureia yr Hethiad—37 i gyd.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu