Barnwyr
16 Un tro, aeth Samson i Gasa a gwelodd butain yno, ac aeth i mewn ati. 2 Clywodd pobl Gasa fod Samson yn y ddinas, felly gwnaethon nhw ei amgylchynu ef a chuddio drwy’r nos ym mhorth y ddinas yn barod i ymosod arno. Arhoson nhw’n ddistaw drwy’r nos yn dweud wrthyn nhw eu hunain: “Pan fydd hi’n goleuo gwnawn ni ei ladd.”
3 Ond parhaodd Samson i orwedd yno tan hanner nos. Yna cododd a mynd i gael gafael yn nrysau porth y ddinas, a’r ddau bostyn oedd yn eu dal nhw, a’u tynnu nhw allan ynghyd â’r clo. Rhoddodd nhw ar ei ysgwyddau a’u cario nhw i ben y mynydd sy’n wynebu Hebron.
4 Ar ôl hynny, syrthiodd mewn cariad â dynes* yn Nyffryn* Sorec, a’i henw hi oedd Delila. 5 Felly aeth arglwyddi’r Philistiaid ati a dweud: “Twylla* ef a darganfod o le mae’n cael gymaint o nerth a sut gallwn ni ei goncro, a’i rwymo, a’i drechu. Os gwnei di hyn bydd pob un ohonon ni yn rhoi 1,100 darn o arian iti.”
6 Yn hwyrach ymlaen, dywedodd Delila wrth Samson: “Plîs dyweda wrtho i o le rwyt ti’n cael gymaint o nerth, a sut gall rhywun dy rwymo di a dy drechu di.” 7 Dywedodd Samson wrthi: “Os bydd rhywun yn fy rhwymo â saith llinyn bwa* newydd sydd heb eu sychu, yna bydda i mor wan â dyn cyffredin.” 8 Felly daeth arglwyddi’r Philistiaid â saith llinyn bwa newydd oedd heb eu sychu ati, a dyma hi’n rhwymo Samson â nhw. 9 Nawr, roedd dynion yn cuddio yn yr ystafell fewnol, a galwodd hi arno: “Samson, mae’r Philistiaid yma!” Gyda hynny, gwnaeth ef rwygo llinynnau’r bwa yn hawdd, mor hawdd ag y mae edau* yn torri pan mae’n cyffwrdd â thân. Chawson nhw ddim gwybod cyfrinach ei nerth.
10 Yna dywedodd Delila wrth Samson: “Edrycha! Rwyt ti wedi fy nhwyllo i a dweud celwyddau wrtho i. Nawr dyweda wrtho i, plîs, sut gall rhywun dy rwymo di.” 11 Felly dywedodd ef wrthi: “Os bydd rhywun yn fy rhwymo â rhaffau newydd sydd heb gael eu defnyddio ar gyfer gwaith, bydda i mor wan â dyn cyffredin.” 12 Felly cymerodd Delila raffau newydd a rhwymo Samson â nhw, a gweiddi: “Samson, mae’r Philistiaid yma!” (Unwaith eto, roedd dynion yn cuddio yn yr ystafell fewnol.) Gyda hynny, gwnaeth ef eu rhwygo nhw oddi ar ei freichiau fel edau.
13 Ar ôl hynny, dywedodd Delila wrth Samson: “Hyd yn hyn rwyt ti wedi fy nhwyllo i a dweud celwyddau wrtho i. Dyweda wrtho i sut gall rhywun dy rwymo di.” Yna dywedodd ef wrthi: “Os byddi di’n gweu* saith plethen fy ngwallt gydag edau’r gwŷdd,* bydda i’n colli fy nerth.” 14 Felly dyma hi’n eu dal nhw yn eu lle â phìn gwŷdd a galw arno: “Samson, mae’r Philistiaid yma!” Yna deffrodd o’i gwsg a thynnu’r pìn a’r edau allan o’i wallt.
15 Yna dywedodd hi wrtho: “Sut gelli di ddweud, ‘Rydw i’n dy garu di,’ pan dwyt ti ddim yn fy nhrystio i? Dair gwaith rwyt ti wedi fy nhwyllo i a heb ddweud wrtho i o le rwyt ti’n cael gymaint o nerth.” 16 Am ei bod hi’n dal ati i swnian ddydd ar ôl dydd ac yn rhoi pwysau arno, roedd ef wedi cael llond bol. 17 Felly, o’r diwedd, agorodd ei galon iddi gan ddweud: “Dydw i erioed wedi torri fy ngwallt, oherwydd rydw i wedi bod yn Nasiread i Dduw ers imi gael fy ngeni. Petaswn i’n siafio fy mhen, byddai fy nerth yn fy ngadael i, a byddwn i’n wan fel pob dyn arall.”
18 Pan welodd Delila ei fod wedi agor ei galon iddi, galwodd hi arglwyddi’r Philistiaid ar unwaith gan ddweud: “Dewch yma, oherwydd y tro yma mae ef wir wedi agor ei galon imi.” Felly daeth arglwyddi’r Philistiaid ati, gan ddod â’r arian gyda nhw. 19 Gwnaeth hi ei suo i gysgu gyda’i ben ar ei phennau gliniau; yna gofynnodd hi i ddyn siafio’r saith plethen oddi ar ei ben. Drwy wneud hynny, dyma hi’n ei wneud yn wan am fod ei nerth yn ei adael. 20 Yna, galwodd hi allan: “Samson, mae’r Philistiaid yma!” Deffrodd o’i gwsg a dweud: “Gwna i fynd allan fel o’r blaen a rhyddhau fy hun.” Ond doedd ef ddim yn gwybod bod Jehofa wedi ei adael. 21 Felly gwnaeth y Philistiaid ei ddal a thynnu ei lygaid allan. Yna daethon nhw ag ef i lawr i Gasa a’i rwymo â chyffion copr, a gwnaethon nhw ei orfodi i falu grawn yn y carchar. 22 Ond dechreuodd gwallt ei ben dyfu yn ôl eto ar ôl iddo gael ei siafio.
23 Daeth arglwyddi’r Philistiaid at ei gilydd i offrymu llawer o aberthau i’w duw Dagon ac i ddathlu oherwydd roedden nhw’n dweud: “Mae ein duw wedi rhoi ein gelyn Samson yn ein dwylo!” 24 Pan welodd y bobl ef, gwnaethon nhw foli eu duw a dweud: “Mae ein duw wedi rhoi ein gelyn yn ein llaw, yr un wnaeth ddifa ein gwlad a lladd cymaint ohonon ni.”
25 Am eu bod nhw mewn hwyliau da, dywedon nhw: “Dewch â Samson allan inni gael bach o hwyl.” Felly, dyma nhw’n galw Samson allan o’r carchar er mwyn iddyn nhw wneud hwyl am ei ben; dyma nhw’n ei osod i sefyll rhwng y colofnau. 26 Yna dywedodd Samson wrth y bachgen oedd yn dal ei law: “Gad imi deimlo’r colofnau sy’n dal y tŷ i fyny er mwyn imi bwyso arnyn nhw.” 27 (Fel mae’n digwydd, roedd y tŷ yn llawn dynion a merched.* Roedd holl arglwyddi’r Philistiaid yno, ac ar y to roedd ’na tua 3,000 o ddynion a merched* yn gwylio ac yn chwerthin am ben Samson.)
28 Yna galwodd Samson ar Jehofa: “Sofran Arglwydd Jehofa, cofia amdana i, plîs, a rho nerth imi, plîs, dim ond un waith eto O Dduw, a gad imi ddial ar y Philistiaid am o leiaf un o fy nau lygad.”
29 Yna, dyma Samson yn ei sadio ei hun rhwng y ddwy golofn ganol oedd yn dal y tŷ i fyny a phwysodd arnyn nhw gyda’i law dde ar un a’i law chwith ar y llall. 30 Gwaeddodd Samson: “Gad imi farw gyda’r Philistiaid!” Yna gwthiodd â’i holl nerth, a chwympodd y tŷ ar ben yr arglwyddi a’r holl bobl oedd ynddo. Felly lladdodd fwy wrth iddo farw nag yr oedd ef wedi eu lladd yn ystod ei fywyd.
31 Yn nes ymlaen, daeth ei frodyr a theulu cyfan ei dad i lawr i fynd ag ef yn ôl. Daethon nhw ag ef i fyny a’i gladdu rhwng Sora ac Estaol ym meddrod Manoa ei dad. Roedd ef wedi barnu Israel am 20 mlynedd.