Yn Ôl Ioan
8 12 Yna siaradodd Iesu â nhw eto, gan ddweud: “Fi ydy goleuni’r byd. Bydd pwy bynnag sy’n fy nilyn i byth yn cerdded mewn tywyllwch, ond fe fydd ganddo oleuni’r bywyd.” 13 Felly dywedodd y Phariseaid wrtho: “Rwyt ti’n tystiolaethu amdanat ti dy hun; dydy dy dystiolaeth ddim yn wir.” 14 Atebodd Iesu nhw: “Hyd yn oed os ydw i’n tystiolaethu amdana i fy hun, mae fy nhystiolaeth yn wir, oherwydd fy mod i’n gwybod o le y des i ac i le rydw i’n mynd. Ond dydych chi ddim yn gwybod o le y des i nac i le rydw i’n mynd. 15 Rydych chi’n barnu yn ôl y cnawd;* dydw i ddim yn barnu unrhyw ddyn o gwbl. 16 Ac eto, hyd yn oed os ydw i’n barnu, mae fy marnedigaeth yn gyfiawn, oherwydd dydw i ddim ar fy mhen fy hun, ond mae’r Tad a wnaeth fy anfon i gyda mi. 17 Hefyd, yn eich Cyfraith eich hunain y mae’n ysgrifenedig: ‘Mae tystiolaeth dau ddyn yn wir.’ 18 Fi ydy’r un sy’n tystiolaethu amdana i fy hun, ac mae’r Tad a wnaeth fy anfon i yn tystiolaethu amdana i.” 19 Yna dywedon nhw wrtho: “Lle mae dy Dad?” Atebodd Iesu: “Dydych chi ddim yn fy adnabod i nac ychwaith fy Nhad. Petasech chi’n fy adnabod i, fe fyddech chi’n adnabod fy Nhad hefyd.” 20 Siaradodd y geiriau hyn yn y trysordy tra oedd yn dysgu yn y deml. Ond wnaeth neb afael ynddo, oherwydd doedd ei awr ddim wedi dod eto.
21 Felly dywedodd ef wrthyn nhw eto: “Rydw i’n mynd i ffwrdd, ac fe fyddwch chi’n chwilio amdana i, ac eto fe fyddwch chi’n marw yn eich pechod. Lle rydw i’n mynd, dydych chi ddim yn gallu dod.” 22 Yna dechreuodd yr Iddewon ddweud: “Ydy ef yn mynd i’w ladd ei hun? Gan ei fod yn dweud, ‘Lle rydw i’n mynd, dydych chi ddim yn gallu dod.’” 23 Aeth yn ei flaen i ddweud wrthyn nhw: “Rydych chi’n dod oddi isod; rydw i’n dod oddi uchod. Rydych chi’n dod o’r byd hwn; dydw i ddim yn dod o’r byd hwn. 24 Dyna pam rydw i’n dweud wrthoch chi: Fe fyddwch chi’n marw yn eich pechodau. Oherwydd os nad ydych chi’n credu mai fi ydy’r un, fe fyddwch chi’n marw yn eich pechodau.” 25 Felly dechreuon nhw ddweud wrtho: “Pwy wyt ti?” Atebodd Iesu nhw: “Pam rydw i hyd yn oed yn siarad â chi o gwbl? 26 Mae gen i lawer o bethau i’w dweud amdanoch chi ac mae gen i lawer o faterion i’w barnu. Mewn gwirionedd, mae’r Un a wnaeth fy anfon i yn onest, ac rydw i’n cyhoeddi i’r byd yr union bethau rydw i wedi eu clywed ganddo.” 27 Wnaethon nhw ddim deall ei fod yn siarad â nhw am y Tad. 28 Yna dywedodd Iesu: “Ar ôl ichi godi Mab y dyn, yna fe fyddwch chi’n gwybod mai fi ydy ef ac nad ydw i’n gwneud unrhyw beth ar fy liwt fy hun; ond rydw i’n siarad y pethau hyn yn union fel mae’r Tad wedi eu dysgu imi. 29 Ac mae’r Un a wnaeth fy anfon i gyda mi; ni wnaeth ef fy ngadael i ar fy mhen fy hun, oherwydd rydw i bob amser yn gwneud y pethau sy’n ei blesio.” 30 Tra oedd yn dweud y pethau hyn, fe wnaeth llawer o bobl roi ffydd ynddo.
31 Yna aeth Iesu yn ei flaen i ddweud wrth yr Iddewon a oedd wedi credu ynddo: “Os gwnewch chi aros yn fy ngair, rydych chi’n wir yn ddisgyblion imi, 32 a byddwch chi’n gwybod y gwir, ac fe fydd y gwir yn eich rhyddhau chi.” 33 Yna atebon nhw ef: “Disgynyddion Abraham ydyn ni a dydyn ni erioed wedi bod yn gaethweision i neb. Sut rwyt ti’n gallu dweud, ‘Byddwch chi’n cael eich rhyddhau’?” 34 Atebodd Iesu nhw: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, mae pob un sy’n cyflawni pechod yn gaethwas i bechod. 35 Ar ben hynny, dydy’r caethwas ddim yn aros yn y tŷ am byth; mae’r mab yn aros am byth. 36 Felly os ydy’r Mab yn eich rhyddhau chi, fe fyddwch chi’n wir yn rhydd. 37 Rydw i’n gwybod eich bod chi’n ddisgynyddion i Abraham. Ond rydych chi’n ceisio fy lladd i, oherwydd dydych chi ddim yn derbyn fy nysgeidiaeth. 38 Rydw i’n siarad am y pethau rydw i wedi eu gweld tra oeddwn i gyda fy Nhad, ond rydych chi’n gwneud y pethau a glywsoch chi gan eich tad chithau.” 39 Atebon nhw drwy ddweud wrtho: “Abraham ydy ein tad ni.” Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Petasech chi’n blant i Abraham, fe fyddech chi’n gwneud gweithredoedd Abraham. 40 Ond nawr rydych chi’n ceisio fy lladd i, dyn sydd wedi dweud wrthoch chi’r gwir a glywais i gan Dduw. Wnaeth Abraham ddim gwneud hyn. 41 Rydych chi’n gwneud gweithredoedd eich tad.” Dywedon nhw wrtho: “Nid trwy anfoesoldeb* y cawson ni ein geni; un Tad sydd gynnon ni, sef Duw.”
42 Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Petai Duw yn Dad i chi, fe fyddech chi’n fy ngharu i, oherwydd fy mod i wedi dod oddi wrth Dduw ac rydw i yma. Dydw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun, ond gwnaeth yr Un hwnnw fy anfon i. 43 Pam nad ydych chi’n deall yr hyn rydw i’n ei ddweud? Oherwydd dydych chi ddim yn gallu gwrando ar fy ngair. 44 Rydych chi’n dod o’ch tad y Diafol, ac rydych chi’n dymuno cyflawni chwantau eich tad. Llofrudd oedd hwnnw o’r cychwyn,* ac ni wnaeth sefyll yn gadarn yn y gwir, oherwydd dydy’r gwir ddim ynddo. Pan fydd yn dweud celwydd, mae’n siarad yn unol â’i natur ei hun, oherwydd ei fod yn gelwyddog ac yn dad i gelwydd. 45 Ond oherwydd fy mod i, ar y llaw arall, yn dweud y gwir wrthoch chi, dydych chi ddim yn fy nghredu i. 46 Pwy ohonoch chi sy’n fy marnu’n euog o bechu? Os ydw i’n dweud y gwir, pam dydych chi ddim yn fy nghredu i? 47 Mae’r sawl sy’n dod o Dduw yn gwrando ar eiriau Duw. Dyma pam dydych chi ddim yn gwrando, oherwydd dydych chi ddim yn dod o Dduw.”
48 Atebodd yr Iddewon ef: “Onid ydyn ni’n iawn i ddweud, ‘Samariad wyt ti, ac mae gen ti gythraul ynot ti’?” 49 Atebodd Iesu: “Does gen i ddim cythraul yno i, ond rydw i’n parchu fy Nhad, ac rydych chithau’n fy amharchu i. 50 Ond dydw i ddim yn ceisio gogoniant i mi fy hun; mae ’na Un sy’n ceisio ac sy’n barnu. 51 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, os ydy rhywun yn cadw fy ngair i, ni fydd ef byth yn gweld marwolaeth o gwbl.” 52 Dywedodd yr Iddewon wrtho: “Rydyn ni nawr yn gwybod bod gen ti gythraul ynot ti. Bu farw Abraham, a’r proffwydi hefyd, ond rwyt ti’n dweud, ‘Os ydy rhywun yn cadw fy ngair, ni fydd ef byth yn blasu marwolaeth o gwbl.’ 53 Wyt ti’n fwy na’n tad Abraham a fu farw? Bu farw’r proffwydi hefyd. Pwy wyt ti’n meddwl wyt ti?” 54 Atebodd Iesu: “Os ydw i’n fy ngogoneddu fy hun, mae fy ngogoniant yn ddim byd. Fy Nhad sy’n fy ngogoneddu i, yr un rydych chi’n dweud ydy eich Duw. 55 Dydych chi ddim wedi ei adnabod ef, ond rydw i’n ei adnabod ef. A phetawn i wedi dweud nad ydw i’n ei adnabod ef, fe fyddwn i’n gelwyddog, fel chi. Ond rydw i yn ei adnabod ef ac yn cadw ei air. 56 Gwnaeth Abraham eich tad lawenhau’n fawr iawn wrth feddwl am weld fy nydd, ac fe wnaeth ei weld a llawenhau.” 57 Yna dywedodd yr Iddewon wrtho: “Dwyt ti ddim yn 50 oed eto, ac rwyt ti wedi gweld Abraham?” 58 Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, cyn i Abraham fodoli, roeddwn i’n bodoli.” 59 Felly codon nhw gerrig i’w taflu ato, ond cuddiodd Iesu a mynd allan o’r deml.