Exodus
2 Tua’r adeg honno, gwnaeth un o ddisgynyddion Lefi briodi un o ferched Lefi. 2 A dyma’r ddynes* yn beichiogi ac yn geni mab. Pan welodd hi pa mor hardd oedd ef, dyma hi’n ei guddio am dri mis. 3 Pan nad oedd yn bosib ei guddio bellach, cymerodd hi fasged* bapyrws a’i gorchuddio â bitwmen a thar a rhoddodd hi’r plentyn ynddi a’i gosod ymhlith y corsennau ar lan Afon Nîl. 4 Ond roedd chwaer y plentyn yn sefyll yn y pellter i weld beth fyddai’n digwydd iddo.
5 Pan ddaeth merch Pharo i lawr i ymolchi yn y Nîl, roedd ei morynion yn cerdded wrth ochr y Nîl. A dyma hi’n gweld y fasged yng nghanol y corsennau ac ar unwaith anfonodd hi ei chaethferch i’w nôl. 6 Ar ôl iddi ei hagor, gwelodd hi’r plentyn, ac roedd y bachgen yn crio. Roedd hi’n teimlo tosturi drosto, ond dywedodd hi: “Un o blant yr Hebreaid ydy hwn.” 7 Yna dywedodd chwaer y plentyn wrth ferch Pharo: “A ddylwn i fynd a galw am un o’r merched* Hebreig i fagu’r plentyn drostot ti?” 8 Dywedodd merch Pharo wrthi: “Dos!” Ar unwaith, aeth y ferch a galw am fam y plentyn. 9 Yna dywedodd merch Pharo wrthi: “Cymera’r plentyn hwn gyda ti a’i fagu drosto i, ac fe wna i dy dalu di.” Felly dyma’r ddynes* yn cymryd y plentyn ac yn ei fagu. 10 Pan oedd y plentyn yn hŷn, aeth hi ag ef at ferch Pharo, ac fe ddaeth yn fab iddi. Dyma hi’n ei alw’n Moses,* a dywedodd: “Mae hyn oherwydd fy mod i wedi ei dynnu allan o’r dŵr.”
11 Nawr, yn y dyddiau hynny, ar ôl i Moses dyfu i fyny,** fe aeth allan at ei frodyr i weld y beichiau roedden nhw’n eu cario, a gwelodd un o’r Eifftiaid yn curo un o’r Hebreaid, un o’i frodyr. 12 Felly edrychodd o gwmpas, a heb weld neb, dyma’n lladd yr Eifftiwr a’i guddio yn y tywod.
13 Ond fe aeth allan y diwrnod wedyn, ac roedd ’na ddau Hebread yn ymladd â’i gilydd. Felly dywedodd wrth yr un a oedd ar fai: “Pam rwyt ti’n taro dy gymydog?” 14 Ar hynny dywedodd: “Pwy wnaeth dy benodi di yn dywysog ac yn farnwr droston ni? Wyt ti’n bwriadu fy lladd i yn union fel gwnest ti ladd yr Eifftiwr?” Roedd Moses nawr yn ofnus a dywedodd: “Yn wir, mae pobl wedi dod i wybod am beth ddigwyddodd!”
15 Yna clywodd Pharo am y peth, a dyma’n ceisio lladd Moses; ond rhedodd Moses i ffwrdd oddi wrth Pharo ac fe aeth i fyw yng ngwlad Midian, ac eisteddodd i lawr wrth ymyl ffynnon. 16 Nawr roedd gan offeiriad Midian saith merch, a daeth y rhain i godi dŵr a llenwi’r cafnau er mwyn rhoi dŵr i braidd eu tad. 17 Ond fel arfer, daeth y bugeiliaid a’u gyrru nhw i ffwrdd. Ar hynny cododd Moses a helpu’r* merched* a rhoddodd ddŵr i’w praidd. 18 Pan aethon nhw adref at eu tad Reuel,* dywedodd ef: “Pam rydych chi wedi dod adref mor fuan heddiw?” 19 Atebon nhw: “Gwnaeth un o’r Eifftiaid ein hachub ni rhag y bugeiliaid, ac fe wnaeth ef hyd yn oed godi dŵr inni a rhoi dŵr i’r praidd.” 20 Dywedodd ef wrth ei ferched: “Ond ble mae ef? Pam gwnaethoch chi ei adael ar ôl? Galwch ef, er mwyn iddo fwyta gyda ni.” 21 Ar ôl hynny cytunodd Moses i aros gyda’r dyn, a rhoddodd ef ei ferch Sippora yn wraig i Moses. 22 Yn nes ymlaen, cafodd hi fab, a dyma Moses yn ei alw’n Gersom,* oherwydd dywedodd, “Rydw i’n estronwr mewn gwlad estron.”
23 Ar ôl amser hir, bu farw brenin yr Aifft, ond roedd yr Israeliaid yn dal i riddfan ac i weiddi oherwydd y caethiwed, ac roedden nhw’n dal i alw ar y gwir Dduw am help. 24 Mewn amser, clywodd Duw eu griddfan, a chofiodd Duw ei gyfamod ag Abraham, Isaac, a Jacob. 25 Felly edrychodd Duw ar yr Israeliaid; a chymerodd Duw sylw ohonyn nhw.