Numeri
22 Yna dyma’r Israeliaid yn gadael ac yn gwersylla yn anialwch Moab wrth yr Iorddonen gyferbyn â Jericho. 2 Nawr roedd Balac fab Sippor wedi gweld popeth roedd Israel wedi ei wneud i’r Amoriaid, 3 a dechreuodd y Moabiaid ofni’r Israeliaid, am fod ’na gymaint ohonyn nhw; yn wir roedden nhw wedi codi arswyd ar y Moabiaid. 4 Felly dywedodd y Moabiaid wrth henuriaid Midian: “Nawr bydd y gynulleidfa hon yn llyncu popeth o’n cwmpas ni, yn union fel mae tarw yn llyncu holl laswellt* y cae.”
Balac fab Sippor oedd brenin Moab ar y pryd. 5 Anfonodd Balac negeswyr at Balaam fab Beor yn Pethor, sydd wrth ymyl yr Afon* yn ei famwlad. Anfonodd amdano, gan ddweud: “Edrycha! Mae pobl wedi dod allan o’r Aifft. Edrycha! Maen nhw wedi gorchuddio wyneb y ddaear,* ac maen nhw’n byw yn agos iawn at fy nhiriogaeth. 6 Nawr plîs, tyrd a melltithio’r bobl hyn imi, oherwydd maen nhw’n gryfach na fi. Wedyn efallai galla i eu trechu nhw a’u gyrru nhw allan o’r wlad, oherwydd rydw i’n gwybod yn iawn y daw bendith ar yr un rwyt ti’n ei fendithio, ac y daw melltith ar yr un rwyt ti’n ei felltithio.”
7 Felly teithiodd henuriaid Moab a henuriaid Midian gyda’r tâl ar gyfer dewino yn eu dwylo, a mynd at Balaam a chyfleu neges Balac iddo. 8 Ar hynny, dywedodd wrthyn nhw: “Arhoswch yma heno, a bydda i’n adrodd yn ôl wrthoch chi beth bynnag mae Jehofa’n ei ddweud wrtho i.” Felly arhosodd tywysogion Moab gyda Balaam.
9 Yna daeth Duw at Balaam a dweud: “Pwy ydy’r dynion hyn sydd gyda ti?” 10 Dywedodd Balaam wrth y gwir Dduw: “Mae Balac fab Sippor, brenin Moab, wedi anfon neges ata i, yn dweud: 11 ‘Edrycha! Mae’r bobl sy’n dod allan o’r Aifft yn gorchuddio wyneb y ddaear.* Nawr tyrd i’w melltithio nhw imi. Wedyn efallai bydda i’n gallu brwydro yn eu herbyn nhw a’u gyrru nhw allan.’” 12 Ond dywedodd Duw wrth Balaam: “Paid â mynd gyda nhw, a phaid â melltithio’r bobl, oherwydd rydw i wedi eu bendithio nhw.”
13 Pan gododd Balaam yn y bore, dywedodd wrth dywysogion Balac: “Ewch yn ôl i’ch gwlad, oherwydd mae Jehofa wedi gwrthod gadael imi fynd gyda chi.” 14 Felly gadawodd tywysogion Moab a mynd yn ôl at Balac, a dweud wrtho: “Mae Balaam wedi gwrthod dod gyda ni.”
15 Ond dyma Balac yn anfon tywysogion unwaith eto, yn fwy niferus ac yn fwy anrhydeddus na’r grŵp cyntaf. 16 Daethon nhw at Balaam a dweud wrtho: “Dyma beth mae Balac fab Sippor wedi ei ddweud, ‘Plîs paid â gadael i unrhyw beth dy rwystro di rhag dod ata i, 17 oherwydd bydda i’n dy anrhydeddu di’n fawr, a bydda i’n gwneud unrhyw beth rwyt ti’n ei ddweud wrtho i. Felly tyrd, plîs, a melltithia’r bobl hyn imi.’” 18 Ond atebodd Balaam: “Hyd yn oed petai Balac yn rhoi ei dŷ cyfan imi, yn llawn arian ac aur, allwn i ddim gwneud unrhyw beth, yn fach neu’n fawr, sy’n mynd yn groes i orchymyn Jehofa fy Nuw. 19 Ond plîs arhoswch yma heno hefyd, er mwyn imi ddysgu beth arall bydd Jehofa’n ei ddweud wrtho i.”
20 Yna daeth Duw at Balaam yn ystod y nos a dywedodd wrtho: “Os ydy’r dynion hyn wedi dod i dy nôl di, dos gyda nhw. Ond dylet ti ddweud y geiriau rydw i’n eu rhoi iti yn unig.” 21 Felly cododd Balaam yn y bore a pharatoi* ei asen, a mynd gyda thywysogion Moab.
22 Ond gwylltiodd Duw am ei fod yn mynd, a safodd angel Jehofa ar y ffordd er mwyn ei rwystro. Roedd Balaam yn teithio ar ei asen, ac roedd dau o’i weision gydag ef. 23 A phan welodd yr asen angel Jehofa yn sefyll yn y ffordd â chleddyf yn ei law, ceisiodd droi oddi ar y ffordd i mewn i gae. Ond dechreuodd Balaam guro’r asen er mwyn gwneud iddi fynd yn ôl ar y ffordd. 24 Yna safodd angel Jehofa ar lwybr cul rhwng dwy winllan, gyda waliau cerrig ar y ddwy ochr. 25 Pan welodd yr asen angel Jehofa, dechreuodd wthio ei hun yn erbyn y wal, gan wasgu troed Balaam yn erbyn y wal, a dechreuodd Balaam ei churo hi unwaith eto.
26 Yna, dyma angel Jehofa yn pasio heibio unwaith eto ac yn sefyll mewn man cul lle doedd ’na ddim modd troi i’r dde nac i’r chwith. 27 Pan welodd yr asen angel Jehofa, gorweddodd i lawr o dan Balaam, felly gwylltiodd Balaam a dechrau curo’r asen eto â’i ffon. 28 Yna dyma Jehofa’n achosi i’r asen siarad, a dywedodd hi wrth Balaam: “Beth rydw i wedi ei wneud iti i haeddu cael fy nghuro dair gwaith gen ti?” 29 Atebodd Balaam: “Am dy fod ti wedi gwneud imi edrych fel ffŵl. Petaswn i ond â chleddyf yn fy llaw, byddwn i’n dy ladd di!” 30 Yna dywedodd yr asen wrth Balaam: “Onid dy asen di ydw i? Yr un rwyt ti wedi teithio arni ar hyd dy fywyd hyd heddiw? Ydw i erioed wedi dy drin di fel hyn o’r blaen?” Atebodd: “Naddo!” 31 Yna agorodd Jehofa lygaid Balaam, fel ei fod yn gallu gweld angel Jehofa yn sefyll ar y ffordd â chleddyf yn ei law. Ar unwaith, plygodd yn isel ac ymgrymu â’i wyneb ar y llawr.
32 Yna dywedodd angel Jehofa wrtho: “Pam gwnest ti guro dy asen dair gwaith fel hyn? Edrycha! Des i fy hun allan i dy rwystro di, oherwydd mae dy daith yn erbyn fy ewyllys i. 33 Roedd yr asen wedi fy ngweld i, ac wedi ceisio troi oddi wrtho i dair gwaith. Meddylia beth fyddai wedi digwydd petai hi heb droi oddi wrtho i! Erbyn hyn, byddwn i wedi dy ladd di a gadael i’r asen fyw.” 34 Dywedodd Balaam wrth angel Jehofa: “Rydw i wedi pechu, oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod mai ti oedd yn sefyll ar y ffordd i fy nghyfarfod i. Nawr os ydy fy nhaith yn ddrwg yn dy olwg, bydda i’n mynd yn ôl.” 35 Ond dywedodd angel Jehofa wrth Balaam: “Dos gyda’r dynion, ond dylet ti ddweud y geiriau rydw i’n eu rhoi iti yn unig.” Felly aeth Balaam yn ei flaen gyda thywysogion Balac.
36 Pan glywodd Balac fod Balaam wedi cyrraedd, aeth allan i’w gyfarfod ar unwaith yn ninas Moab, sydd ar lannau afon Arnon ar ffiniau ei diriogaeth. 37 Dywedodd Balac wrth Balaam: “Oni wnes i anfon amdanat ti? Pam wnest ti ddim dod ata i? A oeddet ti’n meddwl nad oes gen i’r gallu i dy anrhydeddu di’n fawr?” 38 Atebodd Balaam: “Wel, rydw i yma nawr. Ond a fydda i’n cael dweud unrhyw beth? Rydw i ond yn gallu dweud y geiriau mae Duw’n eu rhoi yn fy ngheg.”
39 Felly aeth Balaam gyda Balac, a daethon nhw i Ciriath-husoth. 40 Aberthodd Balac wartheg a defaid a rhoi rhai ohonyn nhw i Balaam a’r tywysogion a oedd gydag ef. 41 Yn y bore, aeth Balac â Balaam i fyny i Bamoth-baal; ac o fan ’na roedd yn gallu gweld y bobl i gyd.