LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Samuel 14
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Samuel

      • Buddugoliaeth Jonathan ym Michmas (1-14)

      • Duw yn gyrru gelynion Israel ar ffo (15-23)

      • Llw byrbwyll Saul (24-46)

        • Pobl yn bwyta cig a gwaed ynddo (32-34)

      • Rhyfeloedd Saul; ei deulu (47-52)

1 Samuel 14:12

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Efelychu Eu Ffydd, erthygl 2

1 Samuel 14:13

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Efelychu Eu Ffydd, erthygl 2

1 Samuel 14:14

Troednodiadau

  • *

    Mae hyn yn cyfeirio at hyd cae y gall pâr o deirw ei aredig mewn diwrnod.

1 Samuel 14:24

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Efelychu Eu Ffydd, erthygl 2

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
  • 31
  • 32
  • 33
  • 34
  • 35
  • 36
  • 37
  • 38
  • 39
  • 40
  • 41
  • 42
  • 43
  • 44
  • 45
  • 46
  • 47
  • 48
  • 49
  • 50
  • 51
  • 52
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Samuel 14:1-52

Cyntaf Samuel

14 Un diwrnod dyma Jonathan fab Saul yn dweud wrth y gwas oedd yn cario ei arfau: “Dewch inni groesi drosodd at y garsiwn o Philistiaid sydd ar yr ochr arall.” Ond wnaeth ef ddim dweud wrth ei dad. 2 Roedd Saul yn aros ar gyrion Gibea o dan y goeden bomgranadau ym Migron, ac roedd ’na tua 600 o ddynion gydag ef. 3 (Roedd Aheia fab Ahitub, brawd Ichabod, mab Phineas, mab Eli, offeiriad Jehofa yn Seilo, yn cario’r effod.) A doedd y bobl ddim yn gwybod bod Jonathan wedi mynd. 4 Nawr rhwng y llwybrau roedd Jonathan yn trio eu croesi er mwyn cyrraedd garsiwn y Philistiaid, roedd ’na graig fel dant ar un ochr a chraig fel dant ar yr ochr arall; enw un ohonyn nhw oedd Boses ac enw’r llall oedd Senne. 5 Roedd un o’r creigiau i’r gogledd ac roedd yn sefyll fel colofn yn wynebu Michmas, ac roedd y llall i’r de yn wynebu Geba.

6 Felly dywedodd Jonathan wrth y gwas oedd yn cario ei arfau: “Dewch inni groesi drosodd at y garsiwn o ddynion sydd heb eu henwaedu. Efallai bydd Jehofa yn gweithredu ar ein rhan, oherwydd all dim byd rwystro Jehofa rhag ein hachub ni drwy lawer neu drwy ychydig.” 7 Gyda hynny dywedodd ei was wrtho: “Gwna beth bynnag mae dy galon yn dy gymell di i’w wneud. Tro i ba bynnag gyfeiriad rwyt ti eisiau, a bydda i’n dy ddilyn di.” 8 Yna dywedodd Jonathan: “Byddwn ni’n croesi drosodd at y dynion hynny ac yn gadael iddyn nhw weld ein bod ni yna. 9 Os byddan nhw’n dweud wrthon ni, ‘Safwch yn llonydd nes inni ddod atoch chi!’ byddwn ni’n sefyll lle rydyn ni a pheidio â mynd i fyny atyn nhw. 10 Ond os byddan nhw’n dweud, ‘Dewch i fyny yn ein herbyn ni!’ awn ni i fyny, oherwydd bydd Jehofa yn eu rhoi nhw yn ein dwylo. Dyma fydd ein harwydd.”

11 Yna dyma’r ddau ohonyn nhw yn gadael i’r garsiwn o Philistiaid weld eu bod nhw yna. Dywedodd y Philistiaid: “Edrychwch! Mae’r Hebreaid yn dod allan o’r tyllau maen nhw wedi bod yn cuddio ynddyn nhw.” 12 Felly dywedodd dynion y garsiwn wrth Jonathan a’i was oedd yn cario ei arfau: “Dewch i fyny aton ni, a gwnawn ni ddysgu gwers ichi!” Ar unwaith dywedodd Jonathan wrth ei was: “Dilyna fi, oherwydd bydd Jehofa yn eu rhoi nhw yn llaw Israel.” 13 A dringodd Jonathan i fyny ar ei ddwylo a’i draed, ac roedd ei was y tu ôl iddo; a dechreuodd Jonathan daro’r Philistiaid, ac roedd ei was yn ei ddilyn ac yn lladd unrhyw un oedd yn dal yn fyw. 14 Yn ystod ymosodiad cyntaf Jonathan a’i was, gwnaethon nhw daro i lawr tuag 20 o ddynion o fewn tua hanner hyd acer o dir.*

15 Roedd pawb yn y gwersyll, pawb yn y garsiwn, a hyd yn oed pawb oedd wedi mynd allan i ymosod ar Israel wedi dychryn am eu bywydau. Dechreuodd y ddaear grynu, ac achosodd Duw i’r Philistiaid banicio yn llwyr. 16 Gwelodd gwylwyr Saul yn Gibea yn Benjamin fod y dryswch yn mynd ar led i bob cyfeiriad.

17 Dywedodd Saul wrth y bobl oedd gydag ef: “Cyfrwch y bobl plîs, i weld pwy sydd wedi ein gadael ni.” Unwaith iddyn nhw gyfri’r bobl, gwelson nhw nad oedd Jonathan na’i was yno. 18 Nawr dywedodd Saul wrth Aheia: “Tyrd ag Arch y gwir Dduw yma!” (Oherwydd roedd Arch y gwir Dduw gyda’r Israeliaid ar y pryd.) 19 A thra oedd Saul yn siarad â’r offeiriad, roedd y dryswch yng ngwersyll y Philistiaid yn mynd yn waeth ac yn waeth. Yna dywedodd Saul wrth yr offeiriad: “Stopia beth rwyt ti’n ei wneud.” 20 Daeth Saul a’i ddynion at ei gilydd i fynd allan i’r frwydr, ond gwelson nhw fod y Philistiaid wedi troi eu cleddyfau yn erbyn ei gilydd, ac roedd ’na anhrefn llwyr. 21 Hefyd, dyma’r Hebreaid oedd wedi ochri â’r Philistiaid ynghynt, ac a oedd yng ngwersyll y Philistiaid, yn dod drosodd i Israel o dan arweiniad Saul a Jonathan. 22 Clywodd holl ddynion Israel oedd wedi cuddio yn ardal fynyddig Effraim fod y Philistiaid wedi ffoi, a dyma nhw’n mynd ar eu holau nhw yn y frwydr. 23 Felly achubodd Jehofa Israel ar y diwrnod hwnnw, ac aeth y frwydr mor bell â Beth-afen.

24 Ond roedd dynion Israel wedi blino’n lân y diwrnod hwnnw, oherwydd roedd Saul wedi gwneud iddyn nhw gytuno i’r llw hwn: “Melltith ar y dyn sy’n bwyta unrhyw fwyd cyn iddi nosi a chyn imi ddial ar fy ngelynion!” Felly doedd neb wedi bwyta unrhyw beth.

25 A daeth y milwyr i gyd i mewn i’r goedwig, ac roedd ’na fêl ar y llawr. 26 Pan ddaeth y milwyr i mewn i’r goedwig, gwelson nhw’r mêl yn diferu, ond wnaeth neb ei fwyta, oherwydd roedd ganddyn nhw ofn melltith y llw. 27 Ond doedd Jonathan ddim wedi clywed ei dad yn gwneud i’r bobl dyngu llw, felly estynnodd flaen ei ffon oedd yn ei law a’i dipio i mewn i’r mêl. Pan fwytaodd y mêl, gwnaeth ei lygaid oleuo. 28 Gyda hynny dywedodd un o’r bobl: “Mae dy dad wedi rhoi’r milwyr o dan lw llym, gan ddweud: ‘Melltith ar y dyn sy’n bwyta heddiw!’ Dyna pam mae’r milwyr wedi blino gymaint.” 29 Ond, dywedodd Jonathan: “Mae fy nhad wedi dod â helynt mawr ar y wlad. Edrychwch ar sut mae fy llygaid wedi goleuo am fy mod i wedi blasu ychydig bach o fêl. 30 Petai’r bobl wedi bwyta heddiw o ysbail eu gelynion, yna bydden ni wedi cael buddugoliaeth lawer mwy dros y Philistiaid.”

31 Ar y diwrnod hwnnw gwnaethon nhw barhau i daro’r Philistiaid i lawr o Michmas i Ajalon, a daeth y milwyr yn flinedig iawn. 32 Felly dechreuodd y milwyr ruthro at yr ysbail yn farus, a chymeron nhw ddefaid, gwartheg, a lloeau a’u lladd nhw ar y llawr, a dyma nhw’n bwyta’r cig gyda’r gwaed. 33 Felly dywedodd rhywun wrth Saul: “Edrycha! Mae’r bobl yn pechu yn erbyn Jehofa drwy fwyta’r cig gyda’r gwaed.” A gyda hynny dywedodd: “Rydych chi wedi ymddwyn heb ffydd. Rholiwch garreg fawr ata i ar unwaith.” 34 Yna dywedodd Saul: “Ewch allan ymhlith y bobl a dywedwch wrthyn nhw, ‘Dylai pob un ohonoch chi ddod â’i darw a’i ddafad a’u lladd nhw yn fan hyn ac yna eu bwyta nhw. Peidiwch â phechu yn erbyn Jehofa drwy fwyta cig gyda’r gwaed.’” Felly daeth pob un ohonon nhw â’i darw ei hun y noson honno a’i ladd yno. 35 Ac adeiladodd Saul allor i Jehofa. Dyma oedd yr allor gyntaf gwnaeth ef ei hadeiladu i Jehofa.

36 Yn hwyrach ymlaen dywedodd Saul: “Dewch inni fynd i lawr ar ôl y Philistiaid gyda’r nos a’u hysbeilio nhw tan y bore. Wnawn ni ddim gadael i neb oroesi.” I hynny dywedon nhw: “Gwna beth bynnag sy’n dda yn dy olwg di.” Yna dywedodd yr offeiriad: “Dewch inni fynd at y gwir Dduw yn fan hyn.” 37 A gofynnodd Saul wrth Dduw: “A ddylwn i fynd i lawr ar ôl y Philistiaid? A fyddi di’n eu rhoi nhw yn llaw Israel?” Ond wnaeth Duw ddim ei ateb ar y diwrnod hwnnw. 38 Felly dywedodd Saul: “Dewch yma, chi benaethiaid Israel, inni ddarganfod pa bechod sydd wedi cael ei gyflawni heddiw. 39 Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, yr un wnaeth achub Israel, hyd yn oed os mai Jonathan fy mab sydd ar fai, bydd rhaid iddo farw.” Ond wnaeth neb ddweud gair. 40 Yna dywedodd wrth Israel gyfan: “Byddwch chi ar un ochr, a bydda i a fy mab Jonathan ar yr ochr arall.” I hynny dywedon nhw wrth Saul: “Gwna beth bynnag sy’n dda yn dy olwg di.”

41 Yna dywedodd Saul wrth Jehofa: “O Dduw Israel, ateba gyda’r Thummim!” Yna cafodd Jonathan a Saul eu dewis, ac aeth y bobl yn rhydd. 42 Nawr dywedodd Saul: “Taflwch goelbren i benderfynu rhyngo i a fy mab Jonathan.” A chafodd Jonathan ei ddewis. 43 Yna dywedodd Saul wrth Jonathan: “Dyweda wrtho i, beth rwyt ti wedi ei wneud?” Felly dywedodd Jonathan wrtho: “Wnes i ond blasu ychydig bach o fêl oedd ar flaen y ffon oedd yn fy llaw. Dyma fi! Rydw i’n barod i farw!”

44 I hynny dywedodd Saul: “Gad i Dduw fy nghosbi i’n llym os nad wyt ti’n marw, Jonathan.” 45 Ond dywedodd y milwyr wrth Saul: “A ddylai Jonathan farw—yr un ddaeth â buddugoliaeth fawr i Israel? Dydy hynny ddim yn werth meddwl amdano! Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, ni ddylai hyd yn oed un blewyn oddi ar ei ben ddisgyn i’r ddaear, oherwydd Duw wnaeth ei helpu i gyflawni hyn heddiw.” Gyda hynny achubodd y milwyr Jonathan, a wnaeth ef ddim marw.

46 Felly stopiodd Saul fynd ar ôl y Philistiaid ac aeth y Philistiaid yn ôl i’w tiriogaeth eu hunain.

47 Yna dyma Saul yn gwneud y frenhiniaeth yn gadarn dros Israel, a brwydrodd yn erbyn ei holl elynion ar bob ochr, yn erbyn y Moabiaid, yr Ammoniaid, yr Edomiaid, brenhinoedd Soba, a’r Philistiaid, a ble bynnag roedd ef yn mynd roedd yn eu trechu nhw. 48 A brwydrodd yn ddewr a choncro’r Amaleciaid ac achub Israel o law eu gelynion.

49 Meibion Saul oedd Jonathan, Isfi, a Malci-sua. Ac roedd ganddo ddwy ferch; yr hynaf oedd Merab, a’r ieuengaf oedd Michal. 50 Enw gwraig Saul oedd Ahinoam ferch Ahimaas. Enw pennaeth ei fyddin oedd Abner fab Ner, ewythr Saul. 51 Cis oedd tad Saul, ac roedd Ner, tad Abner, yn fab i Abiel.

52 Roedd ’na ryfela ffyrnig yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Saul. Pan fyddai Saul yn gweld unrhyw ddyn cryf neu ddewr, byddai’n ei recriwtio i mewn i’w fyddin.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu