LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Genesis 49
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Genesis

      • Proffwydoliaeth Jacob ar ei wely angau (1-28)

        • Seilo am ddod allan o Jwda (10)

      • Cyfarwyddiadau claddu Jacob (29-32)

      • Marwolaeth Jacob (33)

Genesis 49:3

Troednodiadau

  • *

    Neu “cychwyn fy ngallu i genhedlu.”

Genesis 49:4

Troednodiadau

  • *

    Neu “fe wnest ti fynd i fyny i wely dy dad.”

Genesis 49:6

Troednodiadau

  • *

    Gweler Geirfa.

  • *

    Llyth., “anrhydedd.”

  • *

    Hynny yw, torri llinynau gar.

Genesis 49:10

Troednodiadau

  • *

    Neu “y deyrnwialen.”

  • *

    Sy’n golygu “Yr Un Sydd â’r Hawl Iddo.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Gwybodaeth, tt. 92-93, 97

Genesis 49:20

Troednodiadau

  • *

    Neu “o fwyd.”

Genesis 49:25

Troednodiadau

  • *

    Hynny yw, Joseff.

Genesis 49:29

Troednodiadau

  • *

    Mae hyn yn ymadrodd barddonol ar gyfer marwolaeth.

Genesis 49:33

Troednodiadau

  • *

    Mae hyn yn ymadrodd barddonol ar gyfer marwolaeth.

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
  • 31
  • 32
  • 33
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Genesis 49:1-33

Genesis

49 A galwodd Jacob ei feibion a dweud: “Dewch at eich gilydd er mwyn imi gael dweud wrthoch chi beth fydd yn digwydd ichi yn y dyfodol. 2 Dewch ynghyd a gwrandewch chi feibion Jacob, ie, gwrandewch ar Israel eich tad.

3 “Reuben, ti yw fy nghyntaf-anedig, fy ngrym, ie fy mhlentyn cyntaf un,* yn rhagori mewn urddas a nerth. 4 Am dy fod ti mor afreolus â dyfroedd gwyllt, fyddi di ddim yn well na dy frodyr, oherwydd fe wnest ti gysgu gyda gwraig dy dad.* Bryd hynny, gwnest ti amharchu fy mhriodas. Ie, dyna wnest ti!

5 “Mae Simeon a Lefi yn frodyr. Maen nhw’n ddynion treisgar sy’n defnyddio eu harfau i ladd. 6 O fy enaid,* paid â chadw eu cwmni nhw. Dydw i ddim eisiau i fy enw da* gael ei gysylltu â nhw, oherwydd eu bod nhw wedi lladd dynion yn eu dicter, a gwneud teirw yn gloff* am hwyl. 7 Melltith ar eu dicter am ei fod yn greulon, ac ar eu gwylltineb am ei fod yn llym. Gad imi eu gwasgaru nhw drwy wlad Jacob, a gad imi eu chwalu ar led drwy wlad Israel.

8 “A tithau Jwda, bydd dy frodyr yn dy ganmol di. Bydd dy law ar yddfau dy elynion. Bydd meibion dy dad yn ymgrymu o dy flaen di. 9 Mae Jwda yn llew ifanc. Fy mab, byddi di’n sicr yn bwyta ysglyfaeth ac yn codi i fyny. Mae ef wedi gorwedd i lawr ac wedi gorffwys fel llew, ac fel llew, pwy fyddai’n meiddio ei wylltio? 10 Fydd y wialen* ddim yn gadael Jwda, a bydd ffon y pennaeth yn aros rhwng ei draed nes bydd Seilo* yn dod, a bydd ufudd-dod y bobl yn perthyn iddo ef. 11 Gan glymu ei asyn i winwydden, a’i ebol i winwydden dda iawn, bydd yn golchi ei ddillad mewn gwin, a’i wisg mewn gwaed grawnwin. 12 Bydd ei lygaid yn goch tywyll oherwydd gwin, a bydd ei ddannedd yn wyn oherwydd llaeth.

13 “Bydd Sabulon yn byw ar lan y môr, wrth y lan lle mae’r llongau yn angori, a bydd ei ffin bellaf yn mynd i gyfeiriad Sidon.

14 “Mae Issachar yn asyn cryf sy’n gorwedd i lawr i orffwys o dan faich y ddau fag ar ei gefn. 15 A bydd yn gweld ei fod yn lle da i orffwys am fod y wlad yn hardd. Bydd yn plygu ei ysgwydd i gario’r baich a bydd yn cael ei orfodi i weithio’n galed fel caethwas.

16 “Bydd Dan yn barnu ei bobl fel un o lwythau Israel. 17 Gad i Dan fod yn sarff ar ochr y ffordd, yn neidr beryglus ar ochr y llwybr, sy’n brathu sodlau’r ceffyl fel bod ei farchog yn syrthio’n ôl. 18 Bydda i’n disgwyl nes byddi di, O Jehofa, yn fy achub i.

19 “Ynglŷn â Gad, bydd grŵp o ladron yn ymosod arno, ond bydd ef yn ymosod arnyn nhw yn dynn ar eu sodlau.

20 “Bydd gan Aser ddigonedd o fara,* a bydd ef yn darparu bwyd sy’n ddigon da i frenhinoedd.

21 “Mae Nafftali yn ewig fain. Mae’n dweud geiriau tlws.

22 “Mae Joseff yn gangen sy’n tyfu ar goeden ffrwythlon, coeden ffrwythlon wrth ymyl ffynnon, a’i changhennau yn estyn dros y wal. 23 Ond daliodd y bwasaethwyr ati i ymosod arno, a saethu tuag ato, a dal dig yn ei erbyn. 24 Ond er hynny, arhosodd ei fwa yn ei le, ac arhosodd ei ddwylo yn gryf ac yn chwim. Roedd hyn oherwydd yr un nerthol sy’n helpu Jacob, y bugail, craig Israel. 25 Mae’n* dod oddi wrth Dduw dy dad, yr un fydd yn dy helpu di, ac mae ef gyda’r Hollalluog, yr un fydd yn dy fendithio di â bendithion y nefoedd uchod, â bendithion dyfnderoedd y môr, ac â bendithion y bronnau a’r groth. 26 Bydd bendithion dy dad yn fwy rhagorol na bendithion y mynyddoedd tragwyddol, a phrydferthwch y bryniau sy’n para am byth. Byddan nhw’n aros ar ben Joseff, ar gorun yr un a gafodd ei ddewis o blith ei frodyr.

27 “Bydd Benjamin yn parhau i rwygo ei elynion fel blaidd. Yn y bore bydd yn bwyta ei ysglyfaeth, a gyda’r nos bydd yn rhannu’r ysbail.”

28 Daeth 12 llwyth Israel allan o’r rhain, a dyma ddywedodd eu tad wrthyn nhw wrth iddo eu bendithio. Rhoddodd fendith briodol i bob un ohonyn nhw.

29 Ar ôl hynny, rhoddodd y gorchmynion hyn iddyn nhw: “Rydw i’n cael fy nghasglu at fy mhobl.* Claddwch fi gyda fy nghyndadau yn yr ogof sydd yng nghae Effron yr Hethiad, 30 yr ogof yng nghae Machpela o flaen Mamre yng ngwlad Canaan, y cae a brynodd Abraham oddi wrth Effron yr Hethiad fel rhywle i gladdu ei feirw. 31 Dyna lle gwnaethon nhw gladdu Abraham a’i wraig Sara. Dyna lle gwnaethon nhw gladdu Isaac a’i wraig Rebeca, a dyna lle gwnes i gladdu Lea. 32 Cafodd y cae a’r ogof sydd ynddo eu prynu oddi wrth feibion Heth.”

33 Felly, gorffennodd Jacob roi’r cyfarwyddiadau hyn i’w feibion. Yna gorweddodd i lawr ar y gwely, cymerodd ei anadl olaf, a chafodd ei gasglu at ei bobl.*

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu