Exodus
13 Siaradodd Jehofa eto â Moses, gan ddweud: 2 “Sancteiddia* bob gwryw cyntaf-anedig ymhlith yr Israeliaid i mi. Mae’r gwryw cyntaf sy’n cael ei eni, p’un a yw’n ddyn neu’n anifail, yn perthyn i mi.”
3 Yna dywedodd Moses wrth y bobl: “Cofiwch y diwrnod hwn pan ddaethoch chi allan o’r Aifft, o wlad eich caethiwed, oherwydd defnyddiodd Jehofa ei law nerthol i ddod â chi allan o fan hyn. Felly ni ddylai unrhyw beth sydd a burum ynddo gael ei fwyta. 4 Rydych chi’n mynd allan ar y diwrnod hwn, ym mis Abib. 5 Pan fydd Jehofa wedi dod â chi i mewn i wlad y Canaaneaid, yr Hethiaid, yr Amoriaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid, gwlad y gwnaeth ef addo i’ch cyndadau y byddai’n ei rhoi ichi, gwlad lle mae llaeth a mêl yn llifo, yna bydd rhaid ichi ddathlu’r digwyddiad hwn yn y mis hwn. 6 Dylech chi fwyta bara croyw am saith diwrnod, ac ar y seithfed diwrnod, fe fydd ’na ŵyl i Jehofa. 7 Dylech chi fwyta bara croyw am y saith diwrnod; ac ni ddylai unrhyw beth sydd a burum ynddo fod gyda chi, ac ni ddylai surdoes fod yn unman o fewn eich holl diriogaeth. 8 Ac mae’n rhaid ichi ddweud wrth eich meibion ar y diwrnod hwnnw, ‘Mae hyn oherwydd beth wnaeth Jehofa drosto i pan ddes i allan o’r Aifft.’ 9 A bydd yr ŵyl hon fel arwydd ysgrifenedig ar eich llaw ac ar eich talcen. Bydd yn eich atgoffa i siarad am gyfraith Jehofa, ac yn eich atgoffa mai Jehofa a wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft â llaw nerthol. 10 Mae’n rhaid ichi gadw’r ddeddf hon ar ei hamser penodedig o flwyddyn i flwyddyn.
11 “Pan fydd Jehofa’n dod â chi i mewn i wlad y Canaaneaid, y wlad bydd ef yn ei rhoi i chi a’ch cyndadau yn ôl ei addewid, 12 bydd rhaid ichi gysegru pob gwryw cyntaf-anedig i Jehofa, yn ogystal â phob gwryw cyntaf-anedig o blith eich anifeiliaid. Mae’r gwrywod yn perthyn i Jehofa. 13 Mae’n rhaid ichi brynu asyn cyntaf-anedig yn ôl gan ddefnyddio dafad, ac os na fyddwch chi’n ei brynu’n ôl, yna bydd rhaid ichi dorri ei wddf. Ac mae’n rhaid ichi brynu yn ôl pob gwryw cyntaf-anedig ymhlith eich meibion.
14 “Os bydd eich meibion yn gofyn ichi yn hwyrach ymlaen, ‘Beth ydy ystyr hyn?’ yna dylech chi ddweud wrthyn nhw, ‘Daeth Jehofa â ni allan o’r Aifft â llaw nerthol. Daeth â ni allan o wlad ein caethiwed. 15 Pan oedd Pharo’n ystyfnig ac yn gwrthod ein hanfon ni i ffwrdd, lladdodd Jehofa bob cyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntaf-anedig pob dyn i gyntaf-anedig pob anifail. Dyna pam rydw i’n aberthu pob gwryw cyntaf-anedig i Jehofa, ac yn prynu yn ôl bob cyntaf-anedig o blith fy meibion.’ 16 Mae’n rhaid i hyn fod fel arwydd ysgrifenedig ar eich llaw ac ar eich talcen, oherwydd daeth Jehofa â ni allan o’r Aifft â llaw nerthol.”
17 Nawr pan oedd Pharo wedi anfon y bobl i ffwrdd, wnaeth Duw ddim eu harwain nhw ar hyd y ffordd sy’n mynd drwy wlad y Philistiaid, er bod hynny’n fyrrach. Oherwydd dywedodd Duw: “Efallai bydd y bobl yn newid eu meddyliau pan fyddan nhw’n wynebu rhyfel a byddan nhw’n mynd yn ôl i’r Aifft.” 18 Felly achosodd Duw i’r bobl fynd y ffordd hiraf sy’n mynd drwy anialwch y Môr Coch. Ond fe aeth yr Israeliaid allan o wlad yr Aifft wedi eu trefnu fel byddin. 19 Hefyd cymerodd Moses esgyrn Joseff gydag ef, gan fod Joseff wedi dweud wrth feibion Israel: “Bydd Duw yn sicr o droi ei sylw atoch chi. Mae’n rhaid ichi addo i mi ar lw y byddwch chi’n cymryd fy esgyrn i o fan hyn bryd hynny.” 20 Gadawon nhw Succoth a gwersylla yn Etham, ar ymyl yr anialwch.
21 Nawr roedd Jehofa’n mynd o’u blaenau nhw yn ystod y dydd mewn colofn o gwmwl er mwyn eu harwain nhw ar hyd y ffordd, ac mewn colofn o dân yn ystod y nos er mwyn rhoi goleuni iddyn nhw, fel eu bod nhw’n gallu teithio yn ystod y dydd a’r nos. 22 Doedd y golofn o gwmwl ddim yn symud oddi wrth y bobl yn ystod y dydd, na’r golofn o dân yn ystod y nos.