Exodus
12 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron yng ngwlad yr Aifft: 2 “Dyma fis cyntaf y flwyddyn. 3 Siaradwch â holl gynulleidfa Israel, gan ddweud, ‘Ar ddegfed diwrnod y mis hwn, dylai pob un ohonoch chi gymryd dafad ar gyfer tŷ eich tad, dafad i bob tŷ. 4 Ond os ydy eich teulu yn rhy fach i fwyta’r ddafad gyfan, dylech chi ei rhannu â’ch cymydog agosaf a’i bwyta gyda’ch gilydd. Wrth weithio hyn allan, ystyriwch faint o bobl sydd ’na a faint o’r ddafad y bydd pob un yn ei fwyta. 5 Dylai’r anifail fod yn iach, yn wryw blwydd oed. Cewch chi ddewis o’r hyrddod* ifanc neu o’r geifr. 6 Mae’n rhaid ichi ofalu am yr anifail hyd at y pedwerydd diwrnod ar ddeg* o’r mis hwn, ac mae’n rhaid ichi ei ladd yn y gwyll.* Mae’n rhaid i holl gynulleidfa Israel wneud hyn. 7 Mae’n rhaid ichi gymryd ychydig o’r gwaed a’i daenellu ar ddau bostyn drws pob tŷ ac ar dop ffrâm drws pob tŷ lle byddwch chi’n ei bwyta.
8 “‘Mae’n rhaid ichi fwyta’r cig y noson honno. Dylech chi ei rostio dros y tân a’i fwyta gyda bara croyw a llysiau gwyrdd chwerw. 9 Peidiwch â bwyta unrhyw ran ohono sydd heb ei choginio na’i berwi, ond dylech chi ei rostio dros y tân, y pen ynghyd â’r coesau a’r rhannau mewnol. 10 Ni ddylech chi gadw unrhyw ran ohono tan y bore, ond os oes ’na ran ar ôl yn y bore dylech chi ei llosgi â thân. 11 A dyma sut y dylech chi ei fwyta, gyda’ch belt wedi ei glymu amdanoch chi, eich sandalau am eich traed, a’ch ffon yn eich llaw; a dylech chi ei fwyta ar frys. Pasg Jehofa ydy hyn. 12 Oherwydd bydda i’n pasio trwy wlad yr Aifft ar y noson honno ac yn taro pob cyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft, dynion ac anifeiliaid; a bydda i’n gweithredu barn ar bob un o dduwiau’r Aifft. Jehofa ydw i. 13 Bydd y gwaed yn arwydd ar eich tai; bydda i’n gweld y gwaed ac yn pasio heibio chi, ac ni fydd y pla yn dod arnoch chi pan fydda i’n taro gwlad yr Aifft.
14 “‘Dylech chi goffáu’r diwrnod hwn, a byddwch chi a’ch holl ddisgynyddion yn dathlu’r ŵyl hon i Jehofa bob blwyddyn. Dylai’r dathliad hwn fod yn ddeddf barhaol. 15 Dylech chi fwyta bara croyw am saith diwrnod. Ie, ar y diwrnod cyntaf dylech chi gael gwared ar y surdoes o’ch tai, oherwydd bydd unrhyw un sy’n bwyta rhywbeth sydd a burum ynddo yn ystod y saith diwrnod hynny yn cael ei roi i farwolaeth.* 16 Ar y diwrnod cyntaf byddwch chi’n cynnal cynhadledd sanctaidd, ac ar y seithfed diwrnod, fe fydd ’na gynhadledd sanctaidd arall. Ni ddylai unrhyw waith gael ei wneud ar y dyddiau hynny, heblaw am baratoi’r bwyd sydd ei angen ar bob un ohonoch chi.
17 “‘Mae’n rhaid ichi gadw Gŵyl y Bara Croyw, oherwydd ar yr union ddiwrnod hwn, bydda i’n dod â chi i gyd allan o wlad yr Aifft. Ac mae’n rhaid i chi a’ch holl ddisgynyddion gadw’r diwrnod hwn yn ddeddf barhaol. 18 Yn ystod y mis cyntaf, dylech chi fwyta bara croyw o noswaith y pedwerydd diwrnod ar ddeg* o’r mis, tan noswaith yr unfed diwrnod ar hugain* o’r mis. 19 Ni ddylai unrhyw surdoes fod yn eich tai am saith diwrnod, oherwydd os bydd rhywun yn bwyta rhywbeth sydd a burum ynddo, p’un a yw’n rhywun estron neu’n rhywun a gafodd ei eni’n Israeliad, dylai’r person hwnnw gael ei roi i farwolaeth.* 20 Peidiwch â bwyta unrhyw beth sydd a burum ynddo. Ym mhob un o’ch tai, dylech chi fwyta bara croyw.’”
21 Ar unwaith dyma Moses yn galw holl henuriaid Israel ac yn dweud wrthyn nhw: “Ewch a dewiswch anifail ifanc* ar gyfer pob un o’ch teuluoedd, a lladdwch aberth y Pasg. 22 Yna mae’n rhaid ichi roi llond llaw o isop yn y gwaed sydd yn y bowlen, a’i daenellu ar dop ffrâm y drws a dau bostyn y drws; ac ni ddylai’r un ohonoch chi adael ei dŷ tan y bore. 23 Yna pan fydd Jehofa’n mynd trwy’r Aifft ac yn taro’r Eifftiaid â’r pla ac yn gweld y gwaed ar dop ffrâm y drws ac ar ddau bostyn y drws, bydd Jehofa yn sicr yn pasio heibio’r fynedfa, ac ni fydd yn caniatáu i’r pla marwol fynd i mewn i’ch tai.
24 “Mae’n rhaid ichi ddathlu’r digwyddiad hwn. Mae’n ddeddf barhaol i chi ac i’ch meibion. 25 A phan fyddwch chi’n dod i mewn i’r wlad mae Jehofa wedi addo ei rhoi ichi, mae’n rhaid ichi ddathlu’r digwyddiad hwn. 26 A phan fydd eich meibion yn gofyn ichi, ‘Beth mae’r dathliad hwn yn ei olygu ichi?’ 27 Mae’n rhaid ichi ddweud, ‘Aberth y Pasg ydy hwn i Jehofa, a wnaeth basio heibio tai’r Israeliaid yn yr Aifft pan wnaeth ef daro’r Eifftiaid â phla, ond fe wnaeth arbed ein tai ni.’”
Yna dyma’r bobl yn plygu i lawr ac yn ymgrymu. 28 Felly aeth yr Israeliaid a gwneud yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses ac Aaron. Gwnaethon nhw yn union felly.
29 Yna am hanner nos, tarodd Jehofa bob cyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntaf-anedig Pharo, a oedd yn eistedd ar ei orsedd, i gyntaf-anedig y carcharor yn ei gell, a phob cyntaf-anedig yr anifeiliaid. 30 Cododd Pharo y noson honno ynghyd â’i holl weision a phob un o’r Eifftiaid eraill ac roedd crio mawr ymhlith yr Eifftiaid, oherwydd doedd ’na ddim un tŷ lle nad oedd rhywun wedi marw. 31 Ar unwaith dyma’n galw Moses ac Aaron ynghanol y nos a dweud: “Codwch, ewch allan o blith fy mhobl, chi a’r Israeliaid eraill. Ewch a gwasanaethwch Jehofa, yn union fel rydych chi wedi dweud. 32 Cymerwch hefyd eich preiddiau a’ch gwartheg, ac ewch, yn union fel rydych chi wedi dweud. Ond mae’n rhaid ichi fy mendithio i hefyd.”
33 A dechreuodd yr Eifftiaid erfyn ar y bobl i adael y wlad yn gyflym “oherwydd,” medden nhw, “rydyn ni i gyd cystal â bod yn farw!” 34 Felly cariodd y bobl eu toes heb furum, gyda’u powlenni tylino wedi eu lapio yn eu dillad ar eu hysgwyddau. 35 Gwnaeth yr Israeliaid beth roedd Moses wedi ei ddweud wrthyn nhw a gofynnon nhw i’r Eifftiaid am bethau a oedd wedi eu gwneud o arian ac aur ynghyd â dillad. 36 Achosodd Jehofa i’r Eifftiaid edrych yn ffafriol ar y bobl, fel eu bod nhw’n rhoi iddyn nhw beth roedden nhw wedi ei ofyn amdano, a gwnaethon nhw ysbeilio’r Eifftiaid.
37 Yna dyma’r Israeliaid yn gadael Rameses am Succoth, tua 600,000 o ddynion yn cerdded, yn ogystal â phlant. 38 Hefyd aeth tyrfa o bob math o bobl* gyda nhw, ynghyd â phreiddiau a gwartheg, nifer mawr o anifeiliaid. 39 Dechreuon nhw ddefnyddio’r toes roedden nhw wedi dod gyda nhw o’r Aifft i bobi torthau crwn o fara croyw. Doedd ’na ddim burum yn y bara, oherwydd roedden nhw wedi cael eu gyrru allan o’r Aifft mor sydyn fel nad oedden nhw wedi paratoi bwyd iddyn nhw eu hunain.
40 Erbyn iddyn nhw adael yr Aifft, roedd yr Israeliaid wedi bod yn byw fel estroniaid am 430 o flynyddoedd. 41 Ar ddiwedd y 430 o flynyddoedd, ar yr union ddiwrnod hwn, aeth holl dyrfaoedd Jehofa allan o wlad yr Aifft. 42 Byddan nhw’n dathlu’r ffaith fod Jehofa wedi dod â nhw allan o wlad yr Aifft ar y noson hon bob blwyddyn. Dylai’r noson hon gael ei chadw i Jehofa gan holl bobl Israel a’u disgynyddion.
43 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron, “Dyma ddeddf y Pasg: Ni ddylai unrhyw estronwr fwyta ohono. 44 Ond os oes gan rywun gaethwas sydd wedi cael ei brynu ag arian, dylai ef gael ei enwaedu. Dim ond wedyn bydd y caethwas yn cael bwyta ohono. 45 Dydy mewnfudwyr a gweithwyr sy’n derbyn cyflog ddim yn cael bwyta ohono. 46 Dylai’r oen gael ei fwyta mewn un tŷ. Ddylech chi ddim cymryd unrhyw ran o’r cig allan o’r tŷ, na thorri unrhyw un o’i esgyrn. 47 Mae’n rhaid i holl gynulleidfa Israel ddathlu’r Pasg. 48 Os oes ’na rywun estron yn byw gyda chi ac mae ef eisiau dathlu’r Pasg i Jehofa, mae’n rhaid i bob gwryw yn ei deulu gael ei enwaedu. Yna bydd yn cael dathlu’r Pasg, a bydd fel un o bobl y wlad. Ond ni fydd unrhyw ddyn sydd heb gael ei enwaedu yn cael bwyta ohono. 49 Fe fydd ’na un ddeddf ar gyfer yr Israeliaid a’r estroniaid sy’n byw yn eich plith.”
50 Felly dyma’r holl Israeliaid yn gwneud yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses ac Aaron. Gwnaethon nhw yn union felly. 51 Ar y diwrnod hwnnw, daeth Jehofa â’r Israeliaid, ynghyd â’u tyrfaoedd, allan o wlad yr Aifft.