Exodus
25 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 2 “Dyweda wrth bobl Israel am neilltuo cyfraniad imi; dylet ti dderbyn fy nghyfraniad gan bob person sydd eisiau rhoi o wirfodd ei galon. 3 Dyma beth dylet ti ei dderbyn ganddyn nhw fel cyfraniad: aur, arian, copr, 4 edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, lliain main, blew geifr, 5 crwyn hyrddod* wedi eu lliwio’n goch, crwyn morloi, coed acasia, 6 olew ar gyfer y lampau, balm ar gyfer yr olew eneinio a’r arogldarth persawrus, 7 a gemau onics a gemau eraill i’w gosod yn yr effod ac ar y darn o wisg wedi ei brodio sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad. 8 Dylen nhw wneud lle cysegredig ar fy nghyfer i, a bydda i’n byw yn eu plith nhw. 9 Mae’n rhaid ichi wneud y tabernacl a phopeth sydd ynddo gan ddilyn yr union batrwm* rydw i’n ei ddangos ichi.
10 “Mae’n rhaid iddyn nhw wneud arch* allan o goed acasia, dau gufydd* a hanner o hyd, cufydd a hanner o led, a chufydd a hanner o uchder. 11 Yna byddi di’n ei gorchuddio ag aur pur. Mae’n rhaid iti ei gorchuddio ar y tu mewn ac ar y tu allan, a byddi di’n gwneud ymyl o aur o’i hamgylch. 12 A byddi di’n creu pedair modrwy allan o aur ar ei chyfer ac yn eu hychwanegu nhw uwchben ei phedwar troed, gyda dwy fodrwy ar un ochr a dwy fodrwy ar yr ochr arall. 13 A byddi di’n ffurfio polion allan o goed acasia ac yn eu gorchuddio ag aur. 14 Byddi di’n rhoi’r polion trwy’r modrwyau sydd ar ochrau’r Arch er mwyn ei chario. 15 Bydd y polion yn aros ym modrwyau’r Arch; ni ddylen nhw gael eu tynnu o ’na. 16 Byddi di’n rhoi’r Dystiolaeth bydda i’n ei rhoi iti yn yr Arch.
17 “Byddi di’n gwneud caead o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd a chufydd a hanner o led. 18 Dylet ti wneud dau gerwb allan o aur wedi ei guro â morthwyl, un ar bob pen y caead. 19 Un cerwb ar un ochr, a’r cerwb arall ar yr ochr arall. 20 Bydd y cerwbiaid yn estyn eu dwy adain i fyny gan gysgodi’r caead gyda’u hadenydd, a byddan nhw’n wynebu ei gilydd. Bydd wynebau’r cerwbiaid yn edrych tuag at y caead. 21 Byddi di’n rhoi’r caead ar yr Arch, a byddi di’n rhoi’r Dystiolaeth bydda i’n ei rhoi iti yn yr Arch. 22 Bydda i’n ymddangos iti ac yn siarad â ti o uwchben y caead. O ganol y ddau gerwb sydd ar arch y Dystiolaeth, bydda i’n dangos iti’r holl orchmynion y byddi di’n eu pasio ymlaen i’r Israeliaid.
23 “Byddi di hefyd yn gwneud bwrdd allan o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder. 24 Byddi di’n ei orchuddio ag aur pur ac yn gwneud ymyl aur o’i amgylch. 25 Byddi di’n gwneud rhimyn o’i amgylch sy’n lled llaw* ac yna ymyl aur i fynd o amgylch hwnnw. 26 Byddi di’n gwneud pedair modrwy aur ar ei gyfer ac yn rhoi’r modrwyau ar y pedair cornel, lle mae’r pedwar coes wedi cael eu gosod. 27 Dylai’r modrwyau gael eu gosod yn agos at y rhimyn, oherwydd bydd y polion ar gyfer cario’r bwrdd yn mynd trwyddyn nhw. 28 Byddi di’n gwneud y polion allan o goed acasia ac yn eu gorchuddio ag aur ac yn eu defnyddio i gario’r bwrdd.
29 “Byddi di hefyd yn gwneud llestri ar ei gyfer, yn ogystal â chwpanau, jygiau, a phowlenni er mwyn iddyn nhw allu tywallt* offrymau diod. Dylet ti eu gwneud nhw allan o aur pur. 30 A byddi di’n rhoi’r bara sydd wedi ei gyflwyno i Dduw* ar y bwrdd o fy mlaen i drwy’r adeg.
31 “Byddi di’n gwneud canhwyllbren allan o aur pur wedi ei guro â morthwyl. Bydd ei waelod, ei goes, ei ganghennau, ei ddail bychain,* ei flagur, a’i flodau i gyd yn un darn. 32 A bydd chwe changen yn dod allan o ochrau’r canhwyllbren, tair cangen o un ochr a thair cangen o’r ochr arall. 33 Fe fydd ’na dair deilen fechan wedi eu siapio fel blodau almon ar un grŵp o ganghennau, gyda blagur a blodau yn mynd bob yn ail, a thair deilen fechan wedi eu siapio fel blodau almon ar y grŵp arall o ganghennau, gyda blagur a blodau yn mynd bob yn ail. Dyma sut bydd y chwe changen yn edrych ar goes y canhwyllbren. 34 Ar goes y canhwyllbren fe fydd ’na bedair deilen fechan wedi eu siapio fel blodau almon, gyda blagur a blodau yn mynd bob yn ail. 35 Fe fydd ’na flaguryn o dan y ddwy gangen gyntaf sy’n dod allan o’r coes, ac fe fydd ’na flaguryn o dan y ddwy gangen nesaf, a blaguryn o dan y ddwy gangen nesaf. Dyna sut bydd y chwe changen yn edrych ar y coes. 36 Bydd y blagur a’r canghennau a’r canhwyllbren i gyd yn un darn o aur pur wedi ei guro â morthwyl. 37 Byddi di’n gwneud saith lamp ar ei gyfer, a phan fydd y lampau yn cael eu goleuo, byddan nhw’n disgleirio ar yr hyn sydd o flaen y canhwyllbren. 38 Mae’n rhaid i’r offer ar gyfer dal y wiciau* a’r llestri i ddal tân gael eu gwneud o aur pur. 39 Dylai’r canhwyllbren ynghyd â’r offer hyn gael eu gwneud allan o dalent* o aur pur. 40 Gwna’n siŵr dy fod ti’n eu gwneud nhw yn ôl y patrwm* y gwnes i ei ddangos iti ar y mynydd.