Exodus
24 Yna dywedodd wrth Moses: “Dos i fyny at Jehofa, ti ac Aaron, Nadab ac Abihu, a 70 o henuriaid Israel, ac ymgrymwch o bellter. 2 Dylai Moses fynd at Jehofa ar ei ben ei hun; ni ddylai’r lleill fynd ato, ac ni ddylai’r bobl fynd i fyny gydag ef.”
3 Yna aeth Moses ac adrodd wrth y bobl holl eiriau Jehofa a’r holl benderfyniadau barnwrol, a dyma’r bobl i gyd yn ateb ag un llais: “Rydyn ni’n fodlon gwneud popeth mae Jehofa wedi ei ddweud.” 4 Felly ysgrifennodd Moses holl eiriau Jehofa. Yna cododd yn gynnar yn y bore ac adeiladu allor wrth waelod y mynydd a hefyd 12 colofn a oedd yn cyfateb i 12 llwyth Israel. 5 Ar ôl hynny anfonodd Moses ddynion ifanc o Israel, a gwnaethon nhw gyflwyno offrymau llosg ac aberthu teirw fel aberthau heddwch i Jehofa. 6 Yna cymerodd Moses hanner gwaed yr aberthau a’i roi mewn powlenni, a dyma’n taenellu’r hanner arall ar yr allor. 7 Yna cymerodd lyfr y cyfamod a’i ddarllen yn uchel i’r bobl. A dywedon nhw: “Rydyn ni’n fodlon gwneud popeth mae Jehofa wedi ei ddweud, ac fe fyddwn ni’n ufudd.” 8 Felly cymerodd Moses y gwaed a’i daenellu ar y bobl a dweud: “Dyma waed y cyfamod mae Jehofa wedi ei wneud â chi yn unol â’r holl eiriau hyn.”
9 Aeth Moses ac Aaron, Nadab ac Abihu, a 70 o henuriaid Israel i fyny, 10 a dyma nhw’n gweld Duw Israel. O dan ei draed roedd ’na rywbeth tebyg i balmant o saffir, ac roedd yn bur fel y nefoedd eu hunain. 11 Ni wnaeth Duw niweidio dynion adnabyddus Israel, ac fe welson nhw weledigaeth o’r gwir Dduw tra oedden nhw’n bwyta ac yn yfed.
12 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses: “Tyrd i fyny ata i ar y mynydd ac arhosa yno. Bydda i’n rhoi’r llechau carreg iti a bydda i’n ysgrifennu’r gyfraith a’r gorchmynion arnyn nhw er mwyn hyfforddi’r bobl.” 13 Felly cododd Moses gyda’i was Josua, ac aeth Moses i fyny mynydd y gwir Dduw. 14 Ond dywedodd wrth yr henuriaid: “Arhoswch yma nes inni ddod yn ôl atoch chi. Mae gynnoch chi Aaron a Hur gyda chi. Gall unrhyw un sydd ag achos cyfreithiol fynd atyn nhw.” 15 Yna aeth Moses i fyny’r mynydd tra oedd y cwmwl yn gorchuddio’r mynydd.
16 Arhosodd gogoniant Jehofa ar Fynydd Sinai, a gwnaeth y cwmwl orchuddio’r mynydd am chwe diwrnod. Ar y seithfed diwrnod dyma’n galw ar Moses o ganol y cwmwl. 17 I’r Israeliaid a oedd yn gwylio, roedd gogoniant Jehofa yn edrych fel tân yn rhuo ar gopa’r mynydd. 18 Yna aeth Moses i mewn i’r cwmwl ac aeth i fyny’r mynydd. Ac arhosodd Moses ar y mynydd am 40 diwrnod a 40 nos.