Numeri
18 Yna dywedodd Jehofa wrth Aaron: “Byddi di a dy feibion a dy deulu estynedig yn atebol os bydd unrhyw un o’r rheolau ynglŷn â’r cysegr yn cael ei thorri, a byddi di a dy feibion yn atebol os bydd unrhyw un o’r rheolau ar gyfer yr offeiriaid yn cael ei thorri. 2 Hefyd, galwa am dy frodyr o lwyth Lefi, llwyth dy gyndadau, er mwyn iddyn nhw allu ymuno â ti, a gweini arnat ti a dy feibion o flaen pabell y Dystiolaeth. 3 Dylen nhw gyflawni’r dyletswyddau rwyt ti’n eu rhoi iddyn nhw, a’u cyfrifoldebau ynglŷn â’r babell gyfan, ond ddylen nhw ddim dod yn agos at offer y lle sanctaidd na’r allor, fel na fyddan nhw na chi yn marw. 4 Byddan nhw’n ymuno â ti ac yn cyflawni eu cyfrifoldebau ynglŷn â phabell y cyfarfod a holl wasanaeth y babell, ac ni ddylai unrhyw un heb awdurdod* ddod yn agos atoch chi. 5 Dylech chi gyflawni eich cyfrifoldebau ynglŷn â’r lle sanctaidd a’r allor, fel na fydd unrhyw ddicter pellach yn dod yn erbyn pobl Israel. 6 Rydw i fy hun wedi cymryd eich brodyr, y Lefiaid, o blith yr Israeliaid fel anrheg ichi. Maen nhw wedi cael eu rhoi i Jehofa i ofalu am wasanaeth pabell y cyfarfod. 7 Rwyt ti a dy feibion yn gyfrifol am eich dyletswyddau offeiriadol sy’n ymwneud â’r allor a’r hyn sydd y tu mewn i’r llen, ac mae’n rhaid ichi gyflawni’r gwasanaeth hwn. Rydw i wedi rhoi gwasanaeth yr offeiriadaeth yn rhodd ichi, a dylai unrhyw un sy’n dod yn agos heb awdurdod* gael ei roi i farwolaeth.”
8 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Aaron: “Rydw i fy hun wedi dy benodi di i fod yn gyfrifol am y cyfraniadau sydd wedi cael eu rhoi imi. Rydw i wedi rhoi rhan o’r holl bethau sanctaidd sydd wedi eu cyfrannu gan yr Israeliaid i ti ac i dy feibion. Bydd hyn yn drefn barhaol. 9 Bydd y rhan hon o’r holl offrymau mwyaf sanctaidd sy’n cael eu gwneud drwy dân yn perthyn i chi, pob offrwm maen nhw’n ei wneud, gan gynnwys yr offrymau grawn, yr offrymau dros bechod, a’r offrymau dros euogrwydd sy’n cael eu rhoi imi. Bydd hyn yn rhywbeth sanctaidd iawn i ti ac i dy feibion. 10 Dylet ti ei fwyta mewn lle sanctaidd iawn. Bydd pob gwryw yn cael bwyta ohono, a bydd yn rhywbeth sanctaidd iti. 11 Bydd hyn hefyd yn perthyn i ti: yr anrhegion maen nhw’n eu cyfrannu, yn ogystal â holl offrymau chwifio yr Israeliaid. Rydw i wedi eu rhoi nhw i ti ac i dy feibion ac i dy ferched, a bydd hyn yn drefn barhaol. Bydd pawb sy’n lân yn dy dŷ yn cael bwyta ohono.
12 “Ynglŷn â’r gorau o’r holl olew, yr holl win newydd, a’r holl rawn—hynny yw, y cynnyrch cyntaf maen nhw’n ei roi i Jehofa—rydw i’n ei roi i ti. 13 Bydd ffrwyth cyntaf popeth o’u gwlad, yr hyn y byddan nhw’n ei roi i Jehofa, yn perthyn i ti. Bydd pawb sy’n lân yn dy dŷ yn cael bwyta ohono.
14 “Dylai popeth yn Israel sydd wedi ei gysegru* i Dduw ddod yn eiddo i ti.
15 “Dylai cyntaf-anedig popeth byw, y rhai y byddan nhw’n eu cyflwyno i Jehofa, yn ddyn neu’n anifail, ddod yn eiddo i ti. Ond, heb os, mae’n rhaid iti brynu yn ôl bob mab cyntaf-anedig, ac mae’n rhaid iti brynu yn ôl y cyntaf-anedig o blith yr holl anifeiliaid aflan. 16 Dylet ti ei brynu yn ôl pan fydd yn fis oed neu’n hŷn. Bydd y pris yn gyfartal â gwerth pum sicl* arian, yn ôl sicl y lle sanctaidd,* sef 20 gera.* 17 Ond ni ddylet ti brynu yn ôl y teirw cyntaf-anedig, yr ŵyn gwryw cyntaf-anedig, na’r geifr cyntaf-anedig. Maen nhw’n rhywbeth sanctaidd, a dylet ti daenellu eu gwaed ar yr allor, a gwneud i fwg godi oddi ar eu braster fel offrwm drwy dân, er mwyn gwneud arogl sy’n plesio Jehofa. 18 A bydd eu cig yn eiddo i ti. Fel brest yr offrwm chwifio, ac fel y goes dde, bydd yn perthyn i ti. 19 Ynglŷn â’r holl gyfraniadau sanctaidd y bydd yr Israeliaid yn eu rhoi i Jehofa, rydw i wedi eu rhoi nhw i ti ac i dy feibion ac i dy ferched, a bydd hyn yn drefn barhaol. Mae’n gyfamod halen* rhwng Jehofa a ti a dy ddisgynyddion.”
20 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Aaron: “Yn eu gwlad nhw, ni fydd gynnoch chi etifeddiaeth, ac ni fyddwch chi’n cael darn o dir yn eu plith. Fi yw eich rhan chi a’ch etifeddiaeth ymhlith yr Israeliaid.
21 “Nawr rydw i wedi rhoi pob degwm yn Israel i feibion Lefi fel etifeddiaeth ac fel tâl am y gwasanaeth maen nhw’n ei wneud, gwasanaeth pabell y cyfarfod. 22 Fydd pobl Israel ddim yn cael mynd at babell y cyfarfod bellach, fel arall, byddan nhw’n euog o bechu ac yn marw. 23 Y Lefiaid eu hunain a ddylai gyflawni gwasanaeth pabell y cyfarfod, a nhw fydd yn atebol am bechodau’r bobl yn erbyn y lle sanctaidd. Bydd yn ddeddf barhaol ar hyd eich holl genedlaethau na ddylai’r Lefiaid gael etifeddiaeth ymhlith yr Israeliaid. 24 Rydw i wedi rhoi’r degwm a fydd yn cael ei gyfrannu i Jehofa gan bobl Israel i’r Lefiaid fel etifeddiaeth. Dyna pam rydw i wedi dweud na fyddan nhw’n cael etifeddiaeth ymhlith yr Israeliaid.”
25 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 26 “Dylet ti ddweud wrth y Lefiaid, ‘Byddwch chi’n derbyn gan yr Israeliaid y degwm rydw i wedi ei roi ichi fel etifeddiaeth, a dylech chi roi un rhan o ddeg ohono fel cyfraniad i Jehofa. 27 A bydd yn cael ei ystyried fel eich cyfraniad chi, fel petai’n rawn o’ch llawr dyrnu eich hunain neu’n win neu’n olew rydych chi eich hunain wedi ei gynhyrchu’n helaeth. 28 Fel hyn, byddwch chithau hefyd yn rhoi cyfraniad i Jehofa o’r holl ddegymau rydych chi’n eu derbyn gan yr Israeliaid, ac o’r degymau hynny, dylech chi roi’r cyfraniad ar gyfer Jehofa i Aaron yr offeiriad. 29 Byddwch chi’n gwneud pob math o gyfraniadau i Jehofa o’r gorau oll o bob anrheg sy’n cael ei rhoi ichi fel rhywbeth sanctaidd.’
30 “Ac mae’n rhaid iti ddweud wrthyn nhw, ‘Pan fyddwch chi’n cyfrannu’r gorau o’r pethau rydych chi’n eu derbyn, yna bydd y gweddill yn perthyn i chi, y Lefiaid, fel petai’n rawn o’ch llawr dyrnu eich hunain neu’n win neu’n olew rydych chi eich hunain wedi ei gynhyrchu. 31 Cewch chi a’ch teulu ei fwyta yn unrhyw le, oherwydd dyna eich tâl am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod. 32 Fyddwch chi ddim yn euog o bechu yn hyn o beth cyn belled â’ch bod chi’n cyfrannu’r gorau ohonyn nhw, ac mae’n rhaid ichi beidio â halogi* pethau sanctaidd yr Israeliaid, neu byddwch chi’n marw.’”