LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Samuel 6
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Samuel

      • Dod â’r Arch i Jerwsalem (1-23)

        • Ussa yn gafael yn yr Arch ac yn cael ei ladd (6-8)

        • Michal yn dirmygu Dafydd (16, 20-23)

2 Samuel 6:2

Troednodiadau

  • *

    Neu efallai, “rhwng.”

2 Samuel 6:5

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “offerynnau pren meryw.”

2 Samuel 6:8

Troednodiadau

  • *

    Neu “ypsetio.”

  • *

    Sy’n golygu “Ffrwydrad yn Erbyn Ussa.”

2 Samuel 6:13

Troednodiadau

  • *

    Neu “gorymdeithio.”

2 Samuel 6:19

Troednodiadau

  • *

    Neu “menyw.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Samuel 6:1-23

Ail Samuel

6 Unwaith eto casglodd Dafydd filwyr gorau Israel at ei gilydd, 30,000 o ddynion. 2 Yna aeth Dafydd a’r holl ddynion oedd gydag ef i Baale-jwda i ddod ag Arch y gwir Dduw i fyny o fan ’na. Roedd pobl yn mynd o flaen yr Arch i alw ar enw Jehofa y lluoedd, sy’n eistedd ar ei orsedd uwchben* y cerwbiaid. 3 Ond, rhoddon nhw Arch y gwir Dduw ar wagen newydd i’w chludo o dŷ Abinadab oedd ar y bryn; ac roedd Ussa ac Ahïo, meibion Abinadab, yn arwain y wagen newydd.

4 Felly dyma nhw’n cludo Arch y gwir Dduw o dŷ Abinadab ar y bryn, ac roedd Ahïo yn cerdded o flaen yr Arch. 5 Roedd Dafydd a holl dŷ Israel yn dathlu o flaen Jehofa gyda phob math o offerynnau pren,* telynau, offerynnau llinynnol eraill, tambwrinau, sistrymau, a symbalau. 6 Ond pan ddaethon nhw at lawr dyrnu Nacon, dyma’r wagen bron yn troi drosodd oherwydd y gwartheg. Felly, estynnodd Ussa ei law a gafael yn Arch y gwir Dduw. 7 Gyda hynny, gwylltiodd Jehofa ag Ussa, a dyma’r gwir Dduw yn ei daro i lawr yn y fan a’r lle am ei fod wedi meiddio gwneud y fath beth, a bu farw yno wrth ymyl Arch y gwir Dduw. 8 Ond dyma Dafydd yn digio* oherwydd roedd llid Jehofa wedi ffrwydro yn erbyn Ussa; ac mae’r lle hwnnw wedi cael ei alw’n Peres-ussa* hyd heddiw. 9 Daeth Dafydd yn ofnus o Jehofa ar y diwrnod hwnnw, a dywedodd Dafydd: “Sut gallai Arch Jehofa ddod ata i?” 10 Doedd Dafydd ddim yn fodlon dod ag Arch Jehofa i le roedd ef yn byw yn Ninas Dafydd. Yn hytrach, gwnaeth Dafydd drefnu iddi gael ei chymryd i dŷ Obed-edom y Gethiad.

11 Arhosodd Arch Jehofa yn nhŷ Obed-edom y Gethiad am dri mis, ac roedd Jehofa yn parhau i fendithio Obed-edom a’i dŷ cyfan. 12 Cafodd y Brenin Dafydd wybod: “Mae Jehofa wedi bendithio tŷ Obed-edom a phopeth sy’n perthyn iddo oherwydd Arch y gwir Dduw.” Felly aeth Dafydd ar ei ffordd yn llawen i ddod ag Arch y gwir Dduw o dŷ Obed-edom i fyny i Ddinas Dafydd. 13 Pan oedd y rhai oedd yn cario Arch Jehofa wedi martsio* chwe cham, gwnaeth ef aberthu tarw ac anifail tew.

14 Roedd Dafydd yn dawnsio â’i holl egni o flaen Jehofa, ac roedd yn gwisgo effod liain. 15 Roedd Dafydd a thŷ Israel i gyd yn dod ag Arch Jehofa i fyny gan weiddi’n llawen a chanu’r corn. 16 Ond pan ddaeth Arch Jehofa i mewn i Ddinas Dafydd, roedd merch Saul, Michal, yn edrych allan drwy’r ffenest, a gwelodd hi’r Brenin Dafydd yn neidio ac yn dawnsio o flaen Jehofa; a dechreuodd hi ei ddirmygu yn ei chalon. 17 Felly daethon nhw ag Arch Jehofa i mewn a’i gosod yn ei lle y tu mewn i’r babell roedd Dafydd wedi ei chodi iddi. Yna dyma Dafydd yn cyflwyno offrymau llosg ac aberthau heddwch o flaen Jehofa. 18 Ar ôl i Dafydd orffen cyflwyno’r offrymau llosg a’r aberthau heddwch, bendithiodd y bobl yn enw Jehofa y lluoedd. 19 Ar ben hynny, dyma ef yn rhoi torth o fara siâp cylch, cacen ddatys, a chacen resins i’r bobl i gyd, i bob dyn a dynes* yn Israel gyfan. Ac yna aeth pawb adref.

20 Pan aeth Dafydd yn ôl i fendithio ei deulu ei hun, daeth merch Saul, Michal, allan i’w gyfarfod. Dywedodd hi: “Mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yn dawnsio yn hanner noeth o flaen morynion ei weision, fel rhyw ffŵl!” 21 Gyda hynny dywedodd Dafydd wrth Michal: “Roeddwn i’n dathlu o flaen Jehofa, yr un wnaeth fy newis i yn hytrach na dy dad a’i deulu cyfan, ac a wnaeth fy mhenodi i yn arweinydd dros Israel, pobl Jehofa. Felly fe wna i ddathlu o flaen Jehofa, 22 a bydda i’n gwneud i fi fy hun ymddangos yn llai pwysig byth, ac yn fy ngwneud fy hun yn isel hyd yn oed yn fy ngolwg fy hun. Ond bydd y morynion y gwnest ti sôn amdanyn nhw yn fy ngogoneddu i.” 23 Felly ni chafodd merch Saul, Michal, blant hyd y diwrnod gwnaeth hi farw.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu