Exodus
34 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Mae’n rhaid iti gerfio iti dy hun ddwy lech garreg sydd fel y rhai cyntaf, a bydda i’n ysgrifennu ar y llechau yr un geiriau a wnaeth ymddangos ar y llechau cyntaf, y rhai gwnest ti eu malu’n deilchion. 2 Bydda’n barod am y bore, oherwydd byddi di’n mynd i fyny Mynydd Sinai ac yn sefyll o fy mlaen i yno ar ben y mynydd. 3 Ond ni all neb ddod i fyny gyda ti, ac ni ddylai neb arall fod ar y mynydd o gwbl. Ni ddylai hyd yn oed y defaid na’r gwartheg bori o flaen y mynydd hwnnw.”
4 Felly dyma Moses yn cerfio dwy lech garreg fel y rhai cyntaf ac yn codi’n gynnar yn y bore a mynd i ben Mynydd Sinai, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn iddo, a chymerodd y ddwy lech garreg yn ei ddwylo. 5 Yna daeth Jehofa i lawr yn y cwmwl a sefyll wrth ymyl Moses ar y mynydd a chyhoeddi enw Jehofa. 6 Roedd Jehofa yn pasio o’i flaen ac yn cyhoeddi: “Jehofa, Jehofa, Duw trugarog a thosturiol, sy’n araf i ddigio ac sy’n llawn cariad ffyddlon ac sy’n wastad yn dweud y gwir,* 7 sy’n dangos cariad ffyddlon tuag at filoedd, gan faddau camgymeriadau a throseddau a phechodau, ond ni fydd ar unrhyw gyfri yn gadael y rhai euog heb eu cosbi, gan ddod â chosb am gamgymeriadau tadau ar feibion ac ar wyrion, ar y drydedd genhedlaeth ac ar y bedwaredd genhedlaeth.”
8 Brysiodd Moses i blygu i lawr yn isel ar y llawr ac ymgrymu. 9 Yna dywedodd: “Nawr, os ydw i wedi dy blesio, O Jehofa, yna plîs, Jehofa, bydd gyda ni, er ein bod ni’n bobl bengaled, a maddeua inni am ein camgymeriadau a’n pechodau, a’n derbyn ni fel dy bobl.” 10 Atebodd yntau: “Dyma fi’n gwneud cyfamod: O flaen dy holl bobl, bydda i’n gwneud pethau rhyfeddol sydd erioed wedi cael eu gwneud o’r blaen drwy’r holl ddaear nac ymhlith y cenhedloedd, a bydd yr holl bobl rwyt ti’n byw yn eu plith nhw yn gweld gwaith Jehofa, oherwydd rydw i am wneud rhywbeth syfrdanol ar eich cyfer chi.
11 “Talwch sylw i beth rydw i’n ei orchymyn ichi heddiw. Rydw i am yrru allan o’ch blaenau chi yr Amoriaid, y Canaaneaid, yr Hethiaid, y Peresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid. 12 Gwyliwch nad ydych chi’n gwneud cyfamod â’r rhai sy’n byw yn y wlad rydych chi’n mynd iddi, neu fel arall byddwch chi’n baglu. 13 Ond dylech chi ddinistrio eu hallorau, malu eu colofnau cysegredig, a thorri i lawr eu polion cysegredig. 14 Ni ddylech chi blygu i lawr i unrhyw dduw arall, oherwydd mae Jehofa yn adnabyddus am fynnu eich bod chi’n ei addoli ef yn unig.* Yn wir, mae ef yn Dduw sy’n mynnu eich bod chi’n ei addoli ef yn unig. 15 Gwyliwch nad ydych chi’n gwneud cyfamod â’r bobl sy’n byw yn y wlad, oherwydd pan fyddan nhw’n eu puteinio eu hunain drwy addoli eu duwiau ac yn aberthu i’w duwiau, bydd rhywun yn eich gwahodd chi a byddwch chi’n bwyta o’u haberthau. 16 Yna byddwch chi’n sicr yn cymryd rhai o’u merched nhw ar gyfer eich meibion, a bydd eu merched yn eu puteinio eu hunain drwy addoli eu duwiau ac yn achosi i’ch meibion eu puteinio eu hunain drwy addoli eu duwiau.
17 “Peidiwch â gwneud duwiau allan o fetel wedi ei doddi.
18 “Dylech chi ddathlu Gŵyl y Bara Croyw. Byddwch chi’n bwyta bara croyw am saith diwrnod ar yr adeg apwyntiedig ym mis Abib, yn union fel rydw i wedi gorchymyn ichi, oherwydd ar yr adeg honno daethoch chi allan o’r Aifft.
19 “Mae pob gwryw cyntaf-anedig yn perthyn i mi, gan gynnwys cyntaf-anedig eich holl anifeiliaid, naill ai’r tarw cyntaf neu’r hwrdd* cyntaf. 20 Dylech chi brynu asyn cyntaf-anedig yn ôl gan ddefnyddio dafad. Ond os nad ydych chi’n ei brynu’n ôl, yna mae’n rhaid ichi dorri ei wddf. Dylech chi brynu pob mab cyntaf-anedig yn ôl. Ni ddylai unrhyw un ddod o fy mlaen i yn waglaw.
21 “Dylech chi weithio am chwe diwrnod, ond ar y seithfed diwrnod byddwch chi’n gorffwys. Hyd yn oed os ydy hi’n amser i aredig neu i gasglu’r cnydau, byddwch chi’n gorffwys.
22 “A byddwch chi’n dathlu Gŵyl yr Wythnosau gyda ffrwyth cyntaf y cynhaeaf gwenith, a Gŵyl Casglu’r Cynhaeaf* ar ddiwedd y flwyddyn.
23 “Dair gwaith y flwyddyn, bydd rhaid i’ch holl ddynion ddod o flaen y gwir Arglwydd, Jehofa, Duw Israel. 24 Oherwydd bydda i’n gyrru’r cenhedloedd i ffwrdd o’ch blaenau chi, a bydda i’n ehangu eich tiriogaeth, ac ni fydd neb yn dymuno cael eich tir tra eich bod chi’n mynd i fyny i ymddangos o flaen Jehofa eich Duw dair gwaith y flwyddyn.
25 “Pan fyddwch chi’n offrymu aberth imi, ni ddylech chi offrymu ei waed ynghyd â bara sydd a burum ynddo. Ni ddylai aberth gŵyl y Pasg gael ei gadw dros nos tan y bore.
26 “Dylech chi ddod â’r gorau o ffrwyth cyntaf eich pridd i dŷ Jehofa eich Duw.
“Ni ddylech chi ferwi gafr ifanc yn llaeth ei mam.”
27 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: “Dylet ti ysgrifennu’r geiriau hyn, oherwydd rydw i’n gwneud cyfamod â ti ac ag Israel yn unol â’r geiriau hyn.” 28 Ac arhosodd yno gyda Jehofa am 40 diwrnod a 40 nos. Ni wnaeth fwyta bara nac yfed dŵr. Ac ysgrifennodd Ef eiriau’r cyfamod ar y llechau, hynny yw, y Deg Gorchymyn.*
29 Yna daeth Moses i lawr o Fynydd Sinai, ac roedd dwy lech y Dystiolaeth yn ei ddwylo. Pan ddaeth i lawr o’r mynydd, doedd Moses ddim yn gwybod bod croen ei wyneb yn disgleirio am ei fod wedi bod yn siarad â Duw. 30 Pan wnaeth Aaron a’r holl Israeliaid weld Moses, sylwon nhw fod croen ei wyneb yn disgleirio ac roedd ganddyn nhw ofn mynd yn agos ato.
31 Ond galwodd Moses arnyn nhw, felly dyma Aaron a holl benaethiaid y gynulleidfa yn mynd ato, a siaradodd Moses â nhw. 32 Ar ôl hynny aeth yr holl Israeliaid yn agos ato, a dyma’n rhoi iddyn nhw’r holl orchmynion roedd Jehofa wedi eu rhoi iddo ar Fynydd Sinai. 33 O hynny ymlaen, pan fyddai Moses yn gorffen siarad â nhw, byddai’n gorchuddio ei wyneb. 34 Ond pan fyddai Moses yn mynd i mewn o flaen Jehofa i siarad ag ef, byddai’n cymryd y gorchudd i ffwrdd nes iddo fynd allan eto. Yna fe aeth allan a datgelu i’r Israeliaid y gorchmynion roedd wedi eu derbyn. 35 A gwelodd yr Israeliaid fod croen wyneb Moses yn disgleirio; yna rhoddodd Moses y gorchudd yn ôl dros ei wyneb nes iddo fynd i mewn i siarad â Duw.