LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Samuel 9
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Samuel

      • Cariad ffyddlon Dafydd tuag at Meffiboseth (1-13)

2 Samuel 9:7

Troednodiadau

  • *

    Neu “dy dad-cu.”

2 Samuel 9:11

Troednodiadau

  • *

    Neu efallai, “fy mwrdd i.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Samuel 9:1-13

Ail Samuel

9 Yna dywedodd Dafydd: “Oes ’na unrhyw un ar ôl o dŷ Saul y galla i ddangos cariad ffyddlon tuag ato er mwyn Jonathan?” 2 Nawr roedd ’na was yn nhŷ Saul o’r enw Siba. Felly dyma nhw’n ei alw at Dafydd, a gofynnodd y brenin iddo: “Ai Siba wyt ti?” Ac atebodd: “Ie fy arglwydd, dyma fi.” 3 Aeth y brenin ymlaen i ddweud: “Oes ’na unrhyw un ar ôl yn nhŷ Saul y galla i ddangos cariad ffyddlon Duw tuag ato?” Atebodd Siba: “Mae un o feibion Jonathan yn dal yn fyw; mae’n gloff yn ei draed.” 4 Gofynnodd y brenin iddo: “Lle mae ef?” Atebodd Siba: “Yn nhŷ Machir fab Ammiel yn Lo-debar.”

5 Ar unwaith dyma’r Brenin Dafydd yn anfon rhywun i’w nôl o dŷ Machir fab Ammiel yn Lo-debar. 6 Pan ddaeth Meffiboseth, mab Jonathan, mab Saul i mewn at Dafydd, ymgrymodd ar unwaith â’i wyneb i’r llawr. Yna dywedodd Dafydd: “Meffiboseth!” ac atebodd: “Dyma fi, dy was.” 7 Dywedodd Dafydd wrtho: “Paid ag ofni, oherwydd bydda i’n sicr yn dangos cariad ffyddlon tuag atat ti er mwyn dy dad Jonathan, a bydda i’n rhoi holl dir dy daid* Saul yn ôl iti, a byddi di’n wastad yn bwyta wrth fy mwrdd.”

8 Gyda hynny ymgrymodd Meffiboseth a dweud: “Pwy ydw i, dy was, iti roi sylw i gi marw fel fi?” 9 Wedyn anfonodd y brenin am Siba, gwas Saul, a dywedodd wrtho: “Rydw i’n rhoi popeth oedd yn perthyn i Saul a’i deulu i ŵyr dy feistr. 10 Byddi di’n trin y tir drosto—ti a dy feibion a dy weision—a byddi di’n casglu ei gynnyrch i roi bwyd i bawb sy’n perthyn i ŵyr dy feistr. Ond bydd Meffiboseth, ŵyr dy feistr, yn wastad yn bwyta wrth fy mwrdd i.”

Nawr roedd gan Siba 15 o feibion ac 20 o weision. 11 Yna dywedodd Siba wrth y brenin: “Bydda i, dy was, yn gwneud popeth mae fy arglwydd y brenin yn gorchymyn imi ei wneud.” Felly roedd Meffiboseth yn bwyta wrth fwrdd Dafydd* fel un o feibion y brenin. 12 Nawr roedd gan Meffiboseth fab ifanc o’r enw Mica; a daeth pawb oedd yn byw yn nhŷ Siba yn weision i Meffiboseth. 13 Ac roedd Meffiboseth yn byw yn Jerwsalem, oherwydd roedd ef yn wastad yn bwyta wrth fwrdd y brenin; ac roedd yn gloff yn ei draed.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu