LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Samuel 18
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Samuel

      • Cyfeillgarwch Dafydd a Jonathan (1-4)

      • Buddugoliaethau Dafydd yn gwneud Saul yn genfigennus (5-9)

      • Saul yn trio lladd Dafydd (10-19)

      • Dafydd yn priodi Michal, merch Saul (20-30)

1 Samuel 18:1

Troednodiadau

  • *

    Neu “daeth enaid Jonathan ynghlwm wrth enaid Dafydd.”

  • *

    Neu “fel ei enaid ei hun.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Efelychu Eu Ffydd, erthygl 3

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    1/2021, tt. 21-22

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 48

1 Samuel 18:3

Troednodiadau

  • *

    Neu “fel ei enaid ei hun.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Efelychu Eu Ffydd, erthygl 3

1 Samuel 18:4

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Efelychu Eu Ffydd, erthygl 3

1 Samuel 18:5

Troednodiadau

  • *

    Neu “roedd yn ymddwyn yn ddoeth.”

1 Samuel 18:6

Troednodiadau

  • *

    Neu “menywod.”

1 Samuel 18:9

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Efelychu Eu Ffydd, erthygl 3

1 Samuel 18:14

Troednodiadau

  • *

    Neu “ymddwyn yn ddoeth.”

1 Samuel 18:30

Troednodiadau

  • *

    Neu “yn ymddwyn yn ddoethach.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Samuel 18:1-30

Cyntaf Samuel

18 Unwaith i Dafydd orffen siarad â Saul, daeth Jonathan a Dafydd yn ffrindiau agos iawn,* a dechreuodd Jonathan ei garu fel ef ei hun.* 2 O’r diwrnod hwnnw ymlaen, gwnaeth Saul gadw Dafydd gydag ef, a wnaeth ef ddim gadael iddo fynd yn ôl i dŷ ei dad. 3 A gwnaeth Jonathan a Dafydd gyfamod oherwydd roedd yn ei garu fel ef ei hun.* 4 Tynnodd Jonathan y gôt ddilewys roedd yn ei gwisgo a’i rhoi i Dafydd gyda’i wisg filwrol, ei gleddyf, ei fwa, a’i felt. 5 Dechreuodd Dafydd fynd allan i ryfela ac roedd yn llwyddiannus* ble bynnag byddai Saul yn ei anfon. Felly gwnaeth Saul ef yn gyfrifol dros y fyddin, ac roedd hyn yn plesio’r bobl i gyd a gweision Saul.

6 Pan fyddai Dafydd a’r milwyr eraill oedd gydag ef yn dod yn ôl o daro’r Philistiaid i lawr, byddai’r merched* yn dod allan o holl ddinasoedd Israel i gwrdd â’r Brenin Saul yn canu ac yn dawnsio. Bydden nhw’n llawenhau, yn chwarae tambwrinau a liwtiau, 7 ac yn dathlu gan ganu:

“Mae Saul wedi taro i lawr ei filoedd,

A Dafydd ei ddegau o filoedd.”

8 Digiodd Saul yn fawr iawn, a doedd y gân ddim yn ei blesio o gwbl, oherwydd dywedodd: “Maen nhw wedi rhoi clod i Dafydd am ladd degau o filoedd, ond rydw i ond wedi cael clod am ladd miloedd. Peth nesaf byddan nhw eisiau rhoi’r frenhiniaeth iddo!” 9 O’r diwrnod hwnnw ymlaen, roedd Saul yn wastad yn cadw golwg ar Dafydd.

10 Y diwrnod wedyn, cydiodd ysbryd drwg oddi wrth Dduw yn Saul, a dechreuodd ymddwyn yn wallgof y tu mewn i’r tŷ tra oedd Dafydd yn chwarae cerddoriaeth ar y delyn yn ôl yr arfer. Roedd gan Saul waywffon yn ei law, 11 a hyrddiodd y waywffon gan ddweud wrtho’i hun: ‘Gwna i hoelio Dafydd i’r wal!’ Ond gwnaeth Dafydd ddianc oddi wrtho ddwywaith. 12 Yna roedd Saul yn ofni Dafydd oherwydd roedd Jehofa gydag ef ond roedd wedi gadael Saul. 13 Felly anfonodd Saul Dafydd i ffwrdd a’i benodi fel pennaeth ar fil, a byddai Dafydd yn arwain y fyddin allan i frwydro. 14 Parhaodd Dafydd i lwyddo* ym mhopeth roedd yn ei wneud, ac roedd Jehofa gydag ef. 15 A phan welodd Saul ei fod yn llwyddiannus iawn roedd yn ei ofni yn fwy byth. 16 Ond roedd Israel a Jwda gyfan yn caru Dafydd am ei fod yn eu harwain nhw yn eu brwydrau.

17 Yn nes ymlaen, dywedodd Saul wrth Dafydd: “Dyma fy merch hynaf Merab. Gwna i ei rhoi hi i ti yn wraig. Ond dylet ti ddal ati i fy ngwasanaethu i fel milwr dewr ac ymladd yn rhyfeloedd Jehofa.” Oherwydd roedd Saul wedi dweud wrtho’i hun: ‘Fydd dim rhaid i mi ladd Dafydd. Bydd y Philistiaid yn gwneud hynny.’ 18 I hynny, dywedodd Dafydd wrth Saul: “Pwy ydw i a phwy yw teulu fy nhad yn Israel, imi ddod yn fab-yng-nghyfraith i’r brenin?” 19 Ond pan ddaeth yr amser i roi Merab, merch Saul, i Dafydd, roedd hi eisoes wedi cael ei rhoi i Adriel o Mehola.

20 Nawr roedd merch Saul, Michal, wedi syrthio mewn cariad â Dafydd, a chlywodd Saul am hyn ac roedd yn ei blesio. 21 Felly dywedodd Saul: “Mae hyn yn gyfle da i ddal Dafydd. Os bydda i’n rhoi fy merch iddo yn wraig bydda i’n gallu sicrhau ei fod yn marw wrth law y Philistiaid.” Yna dywedodd Saul wrth Dafydd am yr ail waith: “Heddiw byddi di’n dod yn fab-yng-nghyfraith imi.” 22 Hefyd gorchmynnodd Saul i’w weision: “Siaradwch â Dafydd yn ddistaw bach a dweud, ‘Edrycha! Rwyt ti wedi plesio’r brenin, ac mae ei weision i gyd yn dy hoffi di. Felly nawr, prioda ferch y brenin.’” 23 Pan ddywedodd gweision Saul y pethau hyn wrth Dafydd, dywedodd Dafydd: “Ydych chi’n meddwl ei bod hi’n beth bach imi briodi merch y brenin pan dydw i ddim yn ddyn pwysig na chyfoethog?” 24 Dyma weision Saul yn adrodd wrtho beth ddywedodd Dafydd.

25 I hynny dywedodd Saul: “Dyma beth dylech chi ei ddweud wrth Dafydd, ‘Dydy’r brenin ddim eisiau unrhyw dâl ar gyfer y briodferch heblaw am 100 o flaengrwyn y Philistiaid, er mwyn iddo ddial ar ei elynion.’” Oherwydd roedd Saul yn cynllwynio i ladd Dafydd drwy law y Philistiaid. 26 Felly gwnaeth ei weision adrodd y geiriau hyn wrth Dafydd, ac roedd Dafydd yn falch ei fod yn gallu dod yn fab-yng-nghyfraith i’r brenin. Cyn i’r amser ddod, 27 aeth Dafydd gyda’i ddynion a tharo i lawr 200 o ddynion y Philistiaid, a daeth Dafydd â 200 o’u blaengrwyn at y brenin er mwyn cael priodi ei ferch. Felly rhoddodd Saul ei ferch Michal iddo yn wraig. 28 Sylweddolodd Saul fod Jehofa gyda Dafydd a bod ei ferch Michal yn ei garu. 29 Oherwydd hyn, roedd Saul yn ofni Dafydd yn fwy byth, a daeth Dafydd yn elyn i Saul am weddill ei fywyd.

30 Byddai tywysogion y Philistiaid yn mynd allan i frwydro, ond bob tro roedden nhw’n mynd allan roedd Dafydd yn fwy llwyddiannus* na holl weision Saul; a daeth yn enwog iawn.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu