Exodus
36 “Bydd Besalel yn gweithio gydag Oholiab a phob gweithiwr medrus mae Jehofa wedi rhoi doethineb a dealltwriaeth iddo er mwyn iddo wybod sut i wneud holl waith y gwasanaeth sanctaidd yn union fel mae Jehofa wedi gorchymyn.”
2 Yna galwodd Moses ar Besalel ac Oholiab ac ar bob gweithiwr medrus roedd Jehofa wedi rhoi doethineb yn ei galon, pob un a oedd eisiau gwneud y gwaith o wirfodd calon. 3 Yna dyma Moses yn rhoi iddyn nhw bopeth roedd yr Israeliaid wedi ei gyfrannu ar gyfer gwaith y gwasanaeth sanctaidd. Ond roedd y bobl yn dal i ddod ag offrymau gwirfoddol ato bob bore.
4 Yna ar ôl iddyn nhw ddechrau’r gwaith sanctaidd, roedd yr holl weithwyr medrus yn dod, un ar ôl y llall, 5 ac roedden nhw’n dweud wrth Moses: “Mae’r bobl yn dod â llawer iawn mwy nag sydd ei angen ar gyfer y gwaith mae Jehofa wedi ei orchymyn.” 6 Felly gorchmynnodd Moses i gyhoeddiad gael ei wneud drwy’r gwersyll cyfan, gan ddweud: “Ddynion a merched,* peidiwch â dod ag unrhyw beth arall ar gyfer y cyfraniad sanctaidd.” Felly dyma’r bobl yn dal yn ôl rhag dod ag unrhyw beth arall. 7 Roedd ganddyn nhw ddigon o bethau i wneud yr holl waith, a mwy dros ben.
8 Felly dyma’r gweithwyr medrus i gyd yn gwneud y tabernacl allan o ddeg darn o ddefnydd wedi eu gwneud o liain main, edau las, gwlân porffor, a defnydd ysgarlad; gwnaeth ef* eu gwneud nhw a brodio lluniau o gerwbiaid arnyn nhw. 9 Roedd pob darn o ddefnydd yn 28 cufydd* o hyd a 4 cufydd o led. Roedd y darnau o ddefnydd i gyd yr un maint. 10 Yna, fe wnaeth gysylltu pump o’r darnau o ddefnydd at ei gilydd i wneud un darn mawr, a gwnaeth yr un peth gyda’r pump arall. 11 Ar bob darn mawr o ddefnydd, ar yr ochr lle mae’r darn o ddefnydd yn gorffen, creodd ddolenni o edau las fel y byddai’n bosib cysylltu’r ddau ddarn mawr. 12 Rhoddodd 50 dolen ar un darn mawr o ddefnydd a 50 dolen ar ymyl y darn mawr arall o ddefnydd, fel y byddai’r dolenni gyferbyn â’i gilydd lle byddan nhw’n cael eu cysylltu. 13 Yn olaf, fe greodd 50 bachyn aur a chysylltu’r darnau mawr o ddefnydd at ei gilydd â’r bachau hynny, fel bod y tabernacl yn un uned.
14 Yna fe greodd ddarnau o ddefnydd allan o flew geifr i’w rhoi dros y tabernacl. Fe wnaeth 11 darn o ddefnydd. 15 Roedd pob darn o ddefnydd yn 30 cufydd o hyd a 4 cufydd o led. Roedd yr 11 darn o ddefnydd yr un maint. 16 Yna fe wnaeth gysylltu pum darn o ddefnydd at ei gilydd i wneud un darn mawr, a gwnaeth yr un fath â’r chwe darn arall o ddefnydd. 17 Nesaf, fe wnaeth 50 dolen ar hyd ymyl un darn mawr o ddefnydd, ac fe wnaeth yr un fath ar hyd ymyl y darn mawr arall o ddefnydd fel y byddai’n bosib cysylltu’r ddau ddarn mawr. 18 Ac fe wnaeth 50 bachyn copr er mwyn rhoi’r babell at ei gilydd a’i gwneud yn un uned.
19 Fe wnaeth orchudd ar gyfer y babell allan o grwyn hyrddod* wedi eu lliwio’n goch a gorchudd o grwyn morloi i fynd dros hwnnw.
20 Yna fe wnaeth fframiau’r tabernacl allan o goed acasia a oedd yn sefyll yn syth i fyny. 21 Roedd pob ffrâm yn ddeg cufydd o uchder a chufydd a hanner o led. 22 Roedd gan bob ffrâm ddau denon* a oedd wedi eu cysylltu â’i gilydd. Dyna sut gwnaeth ef greu holl fframiau’r tabernacl. 23 Felly fe wnaeth fframiau ar gyfer ochr ddeheuol y tabernacl, 20 ffrâm, yn wynebu’r de. 24 Yna fe wnaeth 40 sylfaen arian* i fynd o dan yr 20 ffrâm, dwy sylfaen* o dan bob ffrâm ar gyfer ei dau denon. 25 Ar gyfer ochr arall y tabernacl, yr ochr ogleddol, fe wnaeth 20 ffrâm 26 a 40 sylfaen arian ar eu cyfer, dwy sylfaen* o dan bob ffrâm.
27 Ar gyfer cefn y tabernacl sy’n wynebu’r gorllewin, fe wnaeth chwe ffrâm. 28 Fe wnaeth ddwy ffrâm a oedd yn ffurfio corneli cefn y tabernacl. 29 Roedd y fframiau hyn wedi cael eu gwneud allan o ddau ddarn o bren a oedd yn mynd o’r gwaelod i’r top. Roedden nhw wedi eu cysylltu wrth ymyl y fodrwy gyntaf. Dyma beth wnaeth ef gyda’r ddwy ffrâm hyn. 30 Felly roedd ’na wyth ffrâm ynghyd â’u 16 sylfaen arian, dwy sylfaen* o dan bob ffrâm.
31 Yna ffurfiodd bolion allan o goed acasia, pump ar gyfer y fframiau ar un ochr y tabernacl, 32 pump ar gyfer y fframiau ar ochr arall y tabernacl, a phump ar gyfer y fframiau ar ochr orllewinol y tabernacl, sef y cefn. 33 Fe wnaeth bolyn canolog i redeg ar draws canol y fframiau o un pen i’r llall. 34 Gorchuddiodd y fframiau ag aur, a rhoi modrwyau aur arnyn nhw er mwyn dal y polion, a gorchuddiodd y polion ag aur.
35 Yna fe wnaeth len o edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main, a brodiodd luniau o gerwbiaid arni. 36 Yna fe wnaeth bedair colofn acasia ar ei chyfer a’u gorchuddio nhw ag aur, ynghyd â bachau aur, ac fe wnaeth doddi’r arian er mwyn creu pedair sylfaen* ar gyfer y colofnau. 37 Nesaf fe wnaeth sgrin* ar gyfer mynedfa’r babell allan o edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main wedi eu gweu gyda’i gilydd, 38 ynghyd â’i phum colofn a’u bachau. Gorchuddiodd eu topiau a’u cysylltwyr* ag aur, ond roedd eu pum sylfaen* wedi eu gwneud o gopr.