Yn Ôl Ioan
16 “Rydw i wedi dweud y pethau hyn wrthoch chi fel na fyddwch chi’n cael eich baglu. 2 Bydd dynion yn eich torri chi allan o’r synagog. Yn wir, mae’r awr yn dod pan fydd pob un sy’n eich lladd chi yn meddwl ei fod yn gwasanaethu Duw trwy wneud hynny. 3 Ond fe fyddan nhw’n gwneud y pethau hyn gan nad ydyn nhw wedi dod i adnabod y Tad na fi. 4 Er hynny, rydw i wedi dweud y pethau hyn wrthoch chi fel y byddwch chi’n cofio fy mod i wedi eu dweud nhw wrthoch chi pan fydd yr awr yn dod iddyn nhw ddigwydd.
“Wnes i ddim dweud y pethau hyn wrthoch chi ar y dechrau, oherwydd roeddwn i gyda chi. 5 Ond nawr rydw i’n mynd at yr Un a wnaeth fy anfon i; ond eto does yr un ohonoch chi’n gofyn imi, ‘Ble rwyt ti’n mynd?’ 6 Ond gan fy mod i wedi dweud y pethau hyn wrthoch chi, mae galar wedi llenwi eich calonnau. 7 Er hynny, rydw i’n dweud y gwir wrthoch chi, mae’n fuddiol ichi fy mod i’n mynd i ffwrdd. Oherwydd os nad ydw i’n mynd i ffwrdd, ni fydd yr helpwr yn dod atoch chi; ond os ydw i’n mynd, fe fydda i’n ei anfon atoch chi. 8 A phan fydd yr un yna’n dod, bydd yn rhoi i’r byd dystiolaeth bendant ynglŷn â phechod ac ynglŷn â chyfiawnder ac ynglŷn â barn: 9 yn gyntaf ynglŷn â phechod, oherwydd dydyn nhw ddim yn ymarfer ffydd yno i; 10 yna ynglŷn â chyfiawnder, oherwydd fy mod i’n mynd at y Tad a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i mwyach; 11 yna ynglŷn â barn, oherwydd bod rheolwr y byd hwn wedi cael ei farnu.
12 “Mae gen i lawer mwy o bethau i’w dweud wrthoch chi, ond dydych chi ddim yn gallu eu deall nhw nawr. 13 Fodd bynnag, pan fydd yr un yna’n* dod, ysbryd y gwir, fe fydd yn eich arwain chi i ddeall y gwir yn llwyr, oherwydd ni fydd yn siarad ar ei liwt ei hun, ond bydd yn dweud yr hyn mae’n ei glywed, a bydd yn cyhoeddi ichi y pethau sydd i ddod. 14 Bydd yr un yna’n fy ngogoneddu i, oherwydd bydd ef yn cyhoeddi ichi’r hyn mae wedi ei glywed gen i. 15 Mae pob peth sydd gan y Tad yn eiddo i mi. Dyna pam y dywedais bydd ef yn cyhoeddi i chi yr hyn mae wedi ei glywed gen i. 16 Mewn ychydig o amser fyddwch chi ddim yn fy ngweld i mwyach, a hefyd, mewn ychydig o amser fe fyddwch chi’n fy ngweld i.”
17 Ar hynny, dywedodd rhai o’i ddisgyblion wrth ei gilydd: “Beth mae’n ei olygu drwy ddweud wrthon ni, ‘Mewn ychydig o amser fyddwch chi ddim yn fy ngweld i, a hefyd, mewn ychydig o amser fe fyddwch chi’n fy ngweld i,’ ac, ‘oherwydd fy mod i’n mynd at y Tad’?” 18 Felly roedden nhw’n dweud: “Beth mae’n ei olygu drwy ddweud, ‘ychydig o amser’? Dydyn ni ddim yn gwybod beth mae’n sôn amdano.” 19 Roedd Iesu’n gwybod eu bod nhw eisiau ei gwestiynu, felly dywedodd wrthyn nhw: “Ydych chi’n trafod hyn ymysg eich gilydd oherwydd imi ddweud: ‘Mewn ychydig o amser fyddwch chi ddim yn fy ngweld i, a hefyd, mewn ychydig o amser fe fyddwch chi’n fy ngweld i’? 20 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, fe fyddwch chi’n wylo ac yn griddfan, ond bydd y byd yn llawenhau; fe fyddwch chi’n galaru, ond bydd eich galar yn cael ei droi’n llawenydd. 21 Pan fydd dynes* yn rhoi genedigaeth, mae hi mewn poen oherwydd bod ei hawr wedi dod, ond ar ôl iddi roi genedigaeth i’r plentyn, mae hi’n anghofio am y poen oherwydd ei llawenydd o weld plentyn yn cael ei eni i mewn i’r byd. 22 Felly chithau hefyd, rydych chi nawr yn teimlo’n drist; ond fe fydda i’n eich gweld chi eto, a bydd eich calonnau’n llawenhau, ac ni fydd neb yn cymryd eich llawenydd i ffwrdd. 23 Yn y dydd hwnnw, fyddwch chi ddim yn gofyn unrhyw gwestiwn imi o gwbl. Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, os ydych chi’n gofyn i’r Tad am unrhyw beth, fe fydd yn ei roi ichi yn fy enw i. 24 Hyd yma, dydych chi ddim wedi gofyn am unrhyw beth yn fy enw i. Gofynnwch a byddwch chi’n derbyn, er mwyn i’ch llawenydd fod yn gyflawn.
25 “Rydw i wedi dweud y pethau hyn wrthoch chi drwy ddefnyddio damhegion. Mae’r awr yn dod pan fydda i ddim yn siarad â chi drwy ddefnyddio damhegion bellach, ond bydda i’n sôn yn blaen wrthoch chi am y Tad. 26 Yn y dydd hwnnw byddwch chi’n gofyn i’r Tad am rywbeth yn fy enw i; pan ydw i’n dweud hyn, dydw i ddim yn golygu bydda i’n gofyn drostoch chi. 27 Oherwydd mae’r Tad ei hun yn eich caru chi, gan eich bod chi wedi fy ngharu i ac wedi credu fy mod i wedi dod i gynrychioli Duw. 28 Fe ddes i i gynrychioli’r Tad ac rydw i wedi dod i mewn i’r byd. Nawr rydw i’n gadael y byd ac yn mynd at y Tad.”
29 Dywedodd ei ddisgyblion: “Edrycha! Nawr rwyt ti’n siarad yn blaen a dwyt ti ddim yn defnyddio damhegion. 30 Nawr rydyn ni’n gwybod dy fod ti’n gwybod popeth a does dim angen arnat ti i unrhyw un dy gwestiynu di. Dyma pam rydyn ni’n credu dy fod ti wedi dod oddi wrth Dduw.” 31 Atebodd Iesu: “Ydych chi’n credu nawr? 32 Edrychwch! Mae’r awr yn dod, yn wir mae eisoes wedi dod, pan fydd pob un ohonoch chi yn cael ei wasgaru i’w dŷ ei hun ac yn fy ngadael i ar fy mhen fy hun. Ond dydw i ddim ar fy mhen fy hun, oherwydd mae’r Tad gyda mi. 33 Rydw i wedi dweud y pethau hyn wrthoch chi fel y gallwch chi gael heddwch trwyddo i. Yn y byd fe fyddwch chi’n wynebu treialon, ond byddwch yn ddewr! Rydw i wedi concro’r byd.”