Exodus
17 Gadawodd yr holl Israeliaid anialwch Sin drwy fynd o un lle i’r llall yn ôl gorchymyn Jehofa, a gwnaethon nhw wersylla yn Reffidim. Ond doedd dim dŵr i’r bobl ei yfed.
2 Felly dechreuodd y bobl gweryla â Moses gan ddweud: “Rho ddŵr inni ei yfed.” Ond dywedodd Moses wrthyn nhw: “Pam rydych chi’n cweryla â mi? Pam rydych chi’n parhau i roi Jehofa ar brawf?” 3 Ond roedd syched mawr ar y bobl, a pharhaon nhw i gwyno yn erbyn Moses a dweud: “Pam rwyt ti wedi ein cymryd ni allan o’r Aifft i’n lladd ni a’n meibion a’n hanifeiliaid â syched?” 4 O’r diwedd galwodd Moses ar Jehofa: “Beth dylwn i ei wneud â’r bobl ’ma? Ymhen ychydig o amser byddan nhw’n fy llabyddio i!”
5 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dos di o flaen y bobl, a chymera rai o henuriaid Israel gyda ti, yn ogystal â’r ffon gwnest ti ei defnyddio i guro Afon Nîl. Cymera hi yn dy law a cherdda ymlaen. 6 Edrycha! Bydda i’n sefyll o dy flaen di ar y graig yn Horeb. Bydd rhaid iti daro’r graig ac yna bydd dŵr yn dod allan ohoni, a bydd y bobl yn ei yfed.” A dyna wnaeth Moses o flaen henuriaid Israel. 7 Felly rhoddodd yr enwau Massa* a Meriba* ar y lle hwnnw oherwydd bod yr Israeliaid wedi ffraeo â Moses yno ac am eu bod nhw wedi rhoi Jehofa ar brawf drwy ddweud: “A ydy Jehofa yn ein plith ni neu ddim?”
8 Dyma’r Amaleciaid yn dod ac yn ymladd yn erbyn Israel yn Reffidim. 9 Dywedodd Moses wrth Josua: “Dewisa ddynion ar ein cyfer ni a dos allan i ymladd yn erbyn yr Amaleciaid. Yfory bydda i’n sefyll ar ben y bryn gyda ffon y gwir Dduw yn fy llaw.” 10 Yna gwnaeth Josua yn union fel roedd Moses wedi dweud wrtho, a brwydrodd yn erbyn yr Amaleciaid. Ac aeth Moses, Aaron, a Hur i ben y bryn.
11 Cyn belled ag yr oedd Moses yn dal ei ddwylo i fyny, roedd yr Israeliaid yn llwyddo, ond y foment roedd Moses yn rhoi ei ddwylo i lawr, roedd yr Amaleciaid yn llwyddo. 12 Pan aeth dwylo Moses yn drwm, cymeron nhw garreg a’i rhoi odano, ac eisteddodd Moses arni. Yna dyma Aaron a Hur yn sefyll un ar bob ochr ac yn codi dwylo Moses, er mwyn i’w ddwylo aros yn llonydd hyd nes i’r haul fachlud. 13 Felly llwyddodd Josua i orchfygu Amalec a’i bobl â’r cleddyf.
14 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses: “Ysgrifenna hyn yn y llyfr er mwyn iddo gael ei gofio a’i ailadrodd i Josua, ‘Bydda i’n dinistrio’r Amaleciaid yn llwyr ac ni fydd neb yn eu cofio.’” 15 Felly adeiladodd Moses allor a’i henwi’n Jehofa-nissi,* 16 gan ddweud: “Oherwydd bod ei law yn erbyn gorsedd Jah, bydd Jehofa yn rhyfela yn erbyn Amalec o un genhedlaeth i’r llall.”