Exodus
18 Nawr dyma Jethro, offeiriad Midian, tad-yng-nghyfraith Moses, yn clywed am bopeth roedd Duw wedi ei wneud dros Moses a thros ei bobl Israel, ac am sut roedd Jehofa wedi cymryd Israel allan o’r Aifft. 2 Roedd Jethro wedi edrych ar ôl Sippora, gwraig Moses, ar ôl iddi gael ei hanfon yn ôl ato, 3 ynghyd â’i dau fab hi. Enw un o’i meibion oedd Gersom,* gan fod Moses wedi dweud, “Rydw i’n estronwr mewn gwlad estron,” 4 ac enw’r llall oedd Elieser,* gan ei fod wedi dweud, “Duw fy nhad yw fy helpwr, yr un a wnaeth fy achub rhag cleddyf Pharo.”
5 Felly aeth Jethro, ynghyd â meibion Moses a’i wraig, i mewn i’r anialwch, i le roedd Moses yn gwersylla wrth fynydd y gwir Dduw. 6 Yna anfonodd neges at Moses: “Rydw i, dy dad-yng-nghyfraith Jethro, yn dod atat ti gyda dy wraig a’i meibion hi.” 7 Ar unwaith aeth Moses allan i gyfarfod ei dad-yng-nghyfraith, a dyma’n plygu i lawr ac yn ei gusanu. Ar ôl cyfarch ei gilydd, aethon nhw i mewn i’r babell.
8 Adroddodd Moses yr hanes wrth ei dad-yng-nghyfraith am yr holl bethau roedd Jehofa wedi eu gwneud i Pharo a’r Aifft ar ran Israel, am yr holl dreialon roedden nhw wedi eu hwynebu ar hyd y ffordd, ac am sut roedd Jehofa wedi eu hachub nhw. 9 Gwnaeth Jethro lawenhau dros yr holl bethau da roedd Jehofa wedi eu gwneud ar ran Israel drwy eu hachub nhw o’r Aifft. 10 Yna dywedodd Jethro: “Clod i Jehofa, a wnaeth eich achub chi rhag yr Aifft a rhag Pharo, ac a wnaeth achub y bobl o law’r Eifftiaid. 11 Nawr rydw i’n gwybod bod Jehofa yn fwy grymus na’r holl dduwiau eraill, oherwydd fe wnaeth amddiffyn ei bobl rhag eu gelynion balch.” 12 Yna daeth Jethro ag offrwm llosg ac aberthau i Dduw, a daeth Aaron a holl henuriaid Israel i fwyta pryd o fwyd gyda thad-yng-nghyfraith Moses o flaen y gwir Dduw.
13 Y diwrnod wedyn, eisteddodd Moses i lawr yn ôl ei arfer i farnu’r bobl, ac roedd y bobl yn sefyll o flaen Moses o’r bore tan y nos. 14 Pan welodd tad-yng-nghyfraith Moses bopeth roedd yn ei wneud ar ran y bobl, dywedodd: “Beth rwyt ti’n ei wneud ar ran y bobl? Pam rwyt ti’n eistedd yma ar dy ben dy hun gyda’r holl bobl yn sefyll o dy flaen di o’r bore tan y nos?” 15 Dywedodd Moses wrth ei dad-yng-nghyfraith: “Oherwydd mae’r bobl yn parhau i ddod ata i er mwyn gofyn am arweiniad gan Dduw. 16 Pan mae problem yn codi rhwng dau berson, maen nhw’n dod ata i ac mae’n rhaid imi farnu rhwng un person a’r llall, ac rydw i’n dweud wrthyn nhw am benderfyniadau’r gwir Dduw a’i ddeddfau.”
17 Dywedodd tad-yng-nghyfraith Moses wrtho: “Dydy beth rwyt ti’n ei wneud ddim yn beth da. 18 Byddi di yn bendant yn blino’n lân, ti a’r bobl hyn sydd gyda ti, oherwydd bod hyn yn ormod o faich iti a dwyt ti ddim yn gallu ei gario ar dy ben dy hun. 19 Nawr gwranda arna i. Fe wna i roi cyngor iti, a bydd Duw gyda ti. Rwyt ti’n cynrychioli’r bobl o flaen y gwir Dduw, ac mae’n rhaid iti ddod â’u problemau o flaen y gwir Dduw. 20 Dylet ti eu rhybuddio nhw am y rheolau a’r deddfau a dweud wrthyn nhw am sut dylen nhw fyw ac am y gwaith dylen nhw ei wneud. 21 Ond dylet ti ddewis dynion galluog sy’n ofni Duw o blith y bobl, dynion dibynadwy sy’n casáu elw anonest, a’u penodi nhw fel penaethiaid ar filoedd, penaethiaid ar gannoedd, penaethiaid ar bumdegau, a phenaethiaid ar ddegau. 22 Dylen nhw farnu’r bobl pan fydd problemau’n codi, gan wneud penderfyniad dros bob achos syml, ond dylen nhw ddod â phob achos anodd o dy flaen di. Gwna bethau’n haws i ti dy hun drwy adael iddyn nhw rannu’r baich. 23 Os byddi di’n gwneud hyn, ac os mai ewyllys Duw ydy hyn, byddi di’n gallu delio â’r straen, a bydd pawb yn mynd adref yn fodlon.”
24 Gwrandawodd Moses ar ei dad-yng-nghyfraith yn syth a gwnaeth popeth fel roedd ef wedi dweud. 25 Dewisodd Moses ddynion galluog o blith holl bobl Israel a’u penodi nhw’n benaethiaid ar y bobl, yn benaethiaid ar filoedd, yn benaethiaid ar gannoedd, yn benaethiaid ar bumdegau, ac yn benaethiaid ar ddegau. 26 Felly, gwnaethon nhw farnu’r bobl pan gododd problemau. Roedden nhw’n mynd ag achosion anodd o flaen Moses, ond roedden nhw’n barnu pob achos syml drostyn nhw eu hunain. 27 Ar ôl hynny, ffarweliodd Moses â’i dad-yng-nghyfraith, ac aeth Jethro yn ôl i’w wlad ei hun.