Exodus
7 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Edrycha, rydw i wedi dy wneud di fel Duw i Pharo, a bydd Aaron, dy frawd dy hun, yn broffwyd iti. 2 Mae’n rhaid iti ailadrodd popeth bydda i’n ei orchymyn iti, a bydd Aaron dy frawd yn siarad â Pharo, a bydd ef yn anfon yr Israeliaid i ffwrdd o’i wlad. 3 Ar fy rhan i, bydda i’n gadael i galon Pharo droi’n ystyfnig, a bydda i’n gwneud llawer o arwyddion a gwyrthiau yng ngwlad yr Aifft. 4 Ond ni fydd Pharo yn gwrando arnoch chi, a bydda i’n gosod fy llaw ar yr Aifft ac yn dod â fy nhyrfaoedd, fy mhobl, yr Israeliaid, allan o wlad yr Aifft â barnedigaethau mawr. 5 A bydd yr Eifftiaid yn bendant yn gwybod mai fi yw Jehofa pan fydda i’n estyn fy llaw yn erbyn yr Aifft ac yn dod â’r Israeliaid allan o’u plith nhw.” 6 Dyma Moses ac Aaron yn gwneud beth roedd Jehofa wedi ei orchymyn iddyn nhw; fe wnaethon nhw yn union felly. 7 Roedd Moses yn 80 mlwydd oed ac Aaron yn 83 mlwydd oed pan siaradon nhw â Pharo.
8 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron: 9 “Os ydy Pharo yn dweud wrthoch chi, ‘Gwnewch wyrth,’ yna dyweda di wrth Aaron, ‘Cymera dy ffon a’i thaflu ar y llawr o flaen Pharo.’ Fe fydd yn troi’n neidr fawr.” 10 Felly aeth Moses ac Aaron i mewn at Pharo a gwneud yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn. Taflodd Aaron ei ffon ar y llawr o flaen Pharo a’i weision, a dyma’n troi’n neidr fawr. 11 Fodd bynnag, galwodd Pharo ar y dynion doeth a’r swynwyr, a dyma ddewiniaid yr Aifft hefyd yn gwneud yr un peth â’u hudoliaeth nhw. 12 Taflodd pob un ei ffon ar y llawr, a dyma nhw’n troi’n nadroedd mawr; ond gwnaeth ffon Aaron lyncu eu rhai nhw. 13 Er gwaethaf hynny, trodd calon Pharo yn ystyfnig, ac ni wnaeth ef wrando arnyn nhw, yn union fel roedd Jehofa wedi dweud.
14 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Mae calon Pharo wedi caledu. Mae wedi gwrthod anfon y bobl i ffwrdd. 15 Dos at Pharo yn y bore. Edrycha! Mae’n mynd allan at y dŵr! A dylet ti sefyll wrth ymyl Afon Nîl i’w gyfarfod; a chymera yn dy law y ffon a wnaeth droi’n neidr. 16 Ac mae’n rhaid iti ddweud wrtho, ‘Mae Jehofa, Duw’r Hebreaid, wedi fy anfon i atat ti, ac mae’n dweud: “Anfona fy mhobl i ffwrdd er mwyn iddyn nhw allu fy ngwasanaethu i yn yr anialwch,” ond dwyt ti ddim wedi ufuddhau hyd yn hyn. 17 Dyma beth mae Jehofa’n ei ddweud: “Dyma sut byddi di’n gwybod mai fi yw Jehofa. Rydw i am daro’r dŵr sydd yn Afon Nîl â’r ffon sydd yn fy llaw, ac fe fydd yn troi’n waed. 18 A bydd y pysgod sydd yn yr afon yn marw, a bydd yr afon yn drewi, a bydd hi’n amhosib i’r Eifftiaid yfed dŵr o’r afon.”’”
19 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dyweda wrth Aaron, ‘Cymera dy ffon ac estynna dy law dros ddyfroedd yr Aifft, dros bob afon, dros bob camlas,* dros bob cors, a thros bob cronfa ddŵr, er mwyn iddyn nhw droi’n waed.’ Bydd ’na waed drwy holl wlad yr Aifft, hyd yn oed yn y llestri pren a’r llestri carreg.” 20 Ar unwaith, dyma Moses ac Aaron yn gwneud yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn. Fe gododd y ffon a tharo’r dŵr a oedd yn Afon Nîl o flaen llygaid Pharo a’i weision, a dyma holl ddŵr yr afon yn troi’n waed. 21 A gwnaeth y pysgod a oedd yn yr afon farw, a dechreuodd yr afon ddrewi, a doedd yr Eifftiaid ddim yn gallu yfed dŵr o’r afon, ac roedd ’na waed trwy wlad yr Aifft i gyd.
22 Er hynny, gwnaeth dewiniaid yr Aifft yr un peth â’u hudoliaeth ddirgel, felly arhosodd calon Pharo yn ystyfnig, ac ni wnaeth ef wrando arnyn nhw, yn union fel roedd Jehofa wedi dweud. 23 Yna aeth Pharo yn ôl i’w dŷ, a thalodd ddim sylw i hyn chwaith. 24 Felly roedd yr Eifftiaid i gyd yn cloddio o amgylch yr afon i gael dŵr i’w yfed, oherwydd doedden nhw ddim yn gallu yfed dŵr Afon Nîl. 25 Ac aeth saith diwrnod llawn heibio ar ôl i Jehofa daro Afon Nîl.