Exodus
8 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dos i mewn at Pharo a dyweda wrtho, ‘Dyma beth mae Jehofa’n ei ddweud: “Anfona fy mhobl i ffwrdd er mwyn iddyn nhw allu fy ngwasanaethu i. 2 Os gwnei di barhau i wrthod eu hanfon nhw i ffwrdd, fe wna i achosi i bla o lyffantod* daro dy holl diriogaeth. 3 A bydd Afon Nîl yn llawn llyffantod,* a byddan nhw’n codi ac yn dod i mewn i dy dŷ, i mewn i dy lofft, ar dy wely, i mewn i dai dy weision ac ar dy bobl, i mewn i bob ffwrn, ac i mewn i bob powlen ar gyfer tylino. 4 Bydd y llyffantod* arnat ti, ar dy bobl, ac ar dy holl weision.”’”
5 Yn nes ymlaen dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dyweda wrth Aaron, ‘Estynna dy law a dy ffon dros bob afon, dros bob camlas Afon Nîl, a thros bob cors, a gwneud i lyffantod* godi dros wlad yr Aifft.’” 6 Felly dyma Aaron yn estyn ei law dros ddyfroedd yr Aifft, a dechreuodd y llyffantod* godi a llenwi gwlad yr Aifft. 7 Ond, gwnaeth y dewiniaid yr un peth drwy eu hudoliaeth ddirgel, a gwnaethon nhwthau hefyd achosi i lyffantod* godi dros wlad yr Aifft. 8 Yna dyma Pharo yn galw am Moses ac Aaron ac yn dweud: “Erfyniwch ar Jehofa am iddo gael gwared ar y llyffantod* oddi wrtho i a fy mhobl, oherwydd rydw i eisiau anfon y bobl i ffwrdd er mwyn iddyn nhw allu aberthu i Jehofa.” 9 Yna dywedodd Moses wrth Pharo: “Cei di’r anrhydedd o ddweud wrtho i pa bryd y dylwn i erfyn ar Dduw am iddo gael gwared ar y llyffantod* oddi wrthot ti, dy weision, dy bobl, a’r tai. Dim ond yn Afon Nîl y byddan nhw’n aros.” 10 Atebodd yntau: “Yfory.” Felly dywedodd Moses: “Fe fydd yn digwydd yn ôl dy air er mwyn iti wybod does ’na neb arall fel Jehofa ein Duw. 11 Bydd y llyffantod* yn dy adael di, dy bobl, dy weision, a’r tai. Dim ond yn Afon Nîl y byddan nhw’n aros.”
12 Felly aeth Moses ac Aaron allan oddi wrth Pharo, a dyma Moses yn ymbil ar Jehofa ynglŷn â’r llyffantod* roedd Ef wedi eu hanfon. 13 Yna gwnaeth Jehofa fel roedd Moses wedi gofyn, a dechreuodd y llyffantod* farw yn y tai, yn y cyrtiau, ac yn y caeau. 14 Roedd y bobl yn eu pentyrru nhw ym mhobman, ac roedd y wlad yn dechrau drewi. 15 Pan welodd Pharo fod y pla wedi gorffen, dyma’n caledu ei galon ac yn gwrthod gwrando arnyn nhw, yn union fel roedd Jehofa wedi dweud.
16 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dyweda wrth Aaron, ‘Estynna dy ffon a tharo llwch y ddaear, ac mae’n rhaid iddo droi’n wybed drwy wlad yr Aifft i gyd.’” 17 A gwnaethon nhw hyn. Estynnodd Aaron ei law a’i ffon a tharo llwch y ddaear, ac roedd ’na wybed ym mhobman, ar y bobl ac ar yr anifeiliaid. Trodd holl lwch y ddaear yn wybed drwy holl wlad yr Aifft. 18 Ceisiodd y dewiniaid wneud yr un peth a galw gwybed drwy eu hudoliaeth ddirgel, ond roedden nhw’n methu. Roedd y gwybed ym mhobman. 19 Felly dywedodd y dewiniaid wrth Pharo: “Bys Duw sy’n gwneud hyn!” Ond arhosodd calon Pharo yn ystyfnig, ac ni wnaeth wrando arnyn nhw, yn union fel roedd Jehofa wedi dweud.
20 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Coda’n gynnar yn y bore a saf o flaen Pharo. Edrycha! Mae’n mynd allan at y dŵr! Ac mae’n rhaid iti ddweud wrtho, ‘Dyma beth mae Jehofa wedi ei ddweud: “Anfona fy mhobl i ffwrdd er mwyn iddyn nhw allu fy ngwasanaethu i. 21 Ond os nad wyt ti’n anfon fy mhobl i ffwrdd, bydda i’n anfon pryfed sy’n brathu a byddan nhw arnat ti, dy weision, a dy bobl, a byddan nhw yn dy dai; a bydd tai’r Aifft yn llawn pryfed sy’n brathu, a byddan nhw hyd yn oed yn gorchuddio’r tir lle maen nhw’n* sefyll. 22 Ar y diwrnod hwnnw, bydda i’n sicr yn neilltuo ardal Gosen, lle mae fy mhobl i yn byw. Ni fydd unrhyw bryfed yno, ac oherwydd hyn, byddi di’n gwybod fy mod i, Jehofa, yma yn y wlad. 23 A bydda i’n gwahaniaethu rhwng fy mhobl i a dy bobl di. Yfory bydd yr arwydd hwn yn digwydd.”’”
24 A dyna a wnaeth Jehofa, a daeth heidiau enfawr o bryfed sy’n brathu i mewn i dŷ Pharo a thai ei weision a holl wlad yr Aifft. Cafodd y wlad ei difetha gan y pryfed. 25 O’r diwedd, dyma Pharo yn galw am Moses ac Aaron ac yn dweud: “Ewch, aberthwch i’ch Duw yn y wlad.” 26 Ond dywedodd Moses: “Dydy hi ddim yn briodol i wneud hynny, oherwydd mae’r pethau bydden ni’n eu haberthu i Jehofa ein Duw yn ffiaidd i’r Eifftiaid. Petasen ni’n offrymu aberth sy’n ffiaidd i’r Eifftiaid o flaen eu llygaid nhw, oni fydden nhw’n ein llabyddio ni? 27 Awn ni ar daith dri-diwrnod i mewn i’r anialwch, ac yno gwnawn ni aberthu i Jehofa ein Duw, yn union fel mae ef wedi dweud wrthon ni.”
28 Nawr dywedodd Pharo: “Fe wna i eich anfon chi i ffwrdd i aberthu i Jehofa eich Duw yn yr anialwch. Ond, peidiwch â mynd mor bell i ffwrdd. Erfyniwch drosto i.” 29 Yna dywedodd Moses: “Nawr rydw i’n mynd i ffwrdd oddi wrthot ti, ac fe wna i erfyn ar Jehofa, a bydd y pryfed sy’n brathu yn gadael Pharo, ei weision, a’i bobl yfory. Ond mae’n rhaid i Pharo stopio chwarae gemau gyda ni drwy wrthod anfon y bobl i ffwrdd er mwyn iddyn nhw aberthu i Jehofa.” 30 Yna aeth Moses allan oddi wrth Pharo ac erfyn ar Jehofa. 31 Felly fe wnaeth Jehofa beth roedd Moses wedi ei ddweud, a dyma’r pryfed sy’n brathu yn gadael Pharo, ei weision, a’i bobl. Doedd dim un ar ôl. 32 Ond, fe wnaeth Pharo galedu ei galon unwaith eto ac ni wnaeth ef anfon y bobl i ffwrdd.