BYD MEWN HELYNT
1 | Gwarchod Eich Iechyd
PAM MAE’N BWYSIG
Gall argyfwng neu drychineb gael effaith negyddol ar iechyd pobl mewn llawer o wahanol ffyrdd.
Mae trafferthion yn achosi straen, ac mae straen hirdymor yn gallu gwneud pobl yn sâl.
Gall argyfyngau roi systemau gofal iechyd o dan bwysau mawr a’i gwneud hi’n anoddach i bobl gael triniaeth.
Mae trychinebau yn effeithio ar bobl yn ariannol, ac yn ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw dalu am bethau angenrheidiol fel bwyd a gofal iechyd.
Beth Dylech Chi ei Wybod?
Gall salwch difrifol a straen meddyliol effeithio ar eich gallu i wneud penderfyniadau da ynglŷn â’ch iechyd. O ganlyniad, efallai byddwch chi’n stopio edrych ar ôl eich hun a gall eich salwch waethygu.
Heb eu trin, gall problemau iechyd waethygu a hyd yn oed peryglu eich bywyd.
Os ydych chi’n cadw’n iach, byddwch chi’n gallu gwneud penderfyniadau da yng nghanol helbul.
Beth bynnag yw eich sefyllfa ariannol, mae’n bosib ichi gymryd camau i warchod eich iechyd.
Beth Gallwch Chi ei Wneud Nawr?
Mae person doeth yn ceisio ystyried y peryglon posib ac yn gwneud beth mae’n gallu i’w hosgoi nhw. Mae hyn yn wir ynglŷn â iechyd. Yn aml gall arferion hylendid da leihau’r risg o ddal haint neu finimeiddio ei effaith. Mae’n llawer gwell rhwystro’r clwyf na’i wella.
“Drwy gadw ein hunain a’n cartref yn lân, rydyn ni’n bendant yn gwario llai o arian yn mynd i’r doctor ac ar feddyginiaeth.”—Andreasa
a Newidiwyd rhai enwau yn y cylchgrawn hwn.