LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • my stori 34
  • Math Newydd o Fwyd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Math Newydd o Fwyd
  • Storïau o’r Beibl
  • Erthyglau Tebyg
  • Cwestiynau Ein Darllenwyr
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • Y Sarff Bres
    Storïau o’r Beibl
  • Pabell i Addoli Duw
    Storïau o’r Beibl
  • Moses yn Taro’r Graig
    Storïau o’r Beibl
Storïau o’r Beibl
my stori 34
Dynes o Israel a’i mab yn casglu manna

STORI 34

Math Newydd o Fwyd

A WYT ti’n gweld beth mae’r bobl yn ei godi oddi ar y ddaear? Mae’n debyg i farrug neu lwydrew. Mae’n wyn ac yn denau. Sut bynnag, nid barrug mohono. Mae’n rhywbeth i’w fwyta.

Am tua mis ar ôl gadael yr Aifft, fe grwydrodd yr Israeliaid drwy’r anialwch. Ychydig iawn o fwyd sy’n tyfu yn yr anialwch, a dechreuodd y bobl gwyno, gan ddweud: ‘Byddai’n well petai Jehofa wedi ein lladd ni yn yr Aifft. O leiaf roedd gennyn ni ddigon o fwyd yno.’

Felly, dywedodd Jehofa: ‘Byddaf yn gwneud i fara ddisgyn arnoch fel glaw o’r nef.’ Y bore wedyn, fe welodd yr Israeliaid fod rhywbeth gwyn wedi disgyn ar y ddaear, a gofynnon nhw: ‘Beth yw hwn?’

Dywedodd Moses: ‘Dyma’r bwyd y mae Jehofa wedi ei roi ichi.’ Rhoddodd y bobl yr enw MANNA arno. Roedd ei flas yn debyg i fara fflat gyda mêl.

‘Dylai pob un gasglu cymaint ag y mae’n gallu ei fwyta,’ meddai Moses wrth y bobl. Felly, bob bore, dyna fyddai pawb yn ei wneud. Ond wrth i’r haul gynhesu, byddai’r manna a oedd yn dal ar y ddaear yn toddi.

Dywedodd Moses: ‘Ddylai neb gadw’r manna ar gyfer y diwrnod wedyn.’ Ond ni wrandawodd rhai o’r bobl. Wyt ti’n gwybod beth ddigwyddodd? Erbyn y bore wedyn, roedd y manna hwnnw yn llawn cynrhon ac yn drewi!

Israeliaid yn casglu manna

Sut bynnag, dywedodd Jehofa y dylai’r bobl gasglu ddwywaith cymaint o fanna ar y chweched dydd o’r wythnos. Roedden nhw i gadw peth o’r manna tan y diwrnod wedyn, oherwydd fyddai Jehofa ddim yn anfon mwy ar y seithfed dydd. Ond, pan gadwyd y manna ar gyfer y seithfed dydd, doedd dim cynrhon ynddo o gwbl ac nid oedd yn drewi! Gwyrth arall oedd honno!

Trwy’r holl flynyddoedd roedd yr Israeliaid yn yr anialwch, roedd Jehofa yn rhoi’r manna iddyn nhw i’w fwyta.

Exodus 16:1-36; Numeri 11:7-9; Josua 5:10-12.

Cwestiynau ar Gyfer Astudio

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu