RHAN 3
O’r Waredigaeth o’r Aifft hyd at Frenin Cyntaf Israel
Arweiniodd Moses yr Israeliaid allan o’u caethiwed yn yr Aifft hyd at Fynydd Sinai, ac yno y rhoddodd Duw gyfreithiau iddyn nhw. Yn nes ymlaen, anfonodd Moses 12 ysbïwr i weld sut fath o wlad oedd Canaan. Ond daeth 10 ohonyn nhw yn eu holau gydag adroddiad gwael. Roedd pobl Israel am droi’n ôl i’r Aifft. Yn gosb am eu diffyg ffydd, roedden nhw’n gorfod crwydro yn yr anialwch am 40 mlynedd.
Yn y diwedd, cafodd Josua ei ddewis i arwain y bobl i mewn i wlad Canaan. I’w helpu nhw i feddiannu’r wlad, fe wnaeth Jehofa nifer o wyrthiau. Achosodd i ddyfroedd yr Iorddonen beidio â llifo. Fe wnaeth i furiau Jericho syrthio, ac i’r haul sefyll yn stond am ddiwrnod cyfan. Ymhen chwe blynedd, roedden nhw wedi cipio’r wlad oddi ar bobl Canaan.
Am 356 o flynyddoedd, roedd barnwyr yn rheoli’r wlad. Josua oedd yr un cyntaf ond byddwn ni hefyd yn dysgu am Barac, Gideon, Jefftha, Samson, a Samuel. Byddwn ni’n darllen am wragedd fel Rahab, Debora, Jael, Ruth, Naomi, a Delila. Mae RHAN 3 yn adrodd hanes 396 o flynyddoedd.