Cân 9
Clodforwch Jehofa, Ein Duw!
(Salm 145:12)
1. Canwch fawl Iôr, Jehofa Dduw!
Boed ei enw’n fawr drwy’r holl ddae’r!
Rhybudd rhowch! Agos daeth ei ddydd.
Gwrand’wch bawb ar genadwri’r Gair:
‘Jehofa orseddodd Iesu yn ben,
Diau Brenin Brenhinoedd yw;
Etifedd gorseddfainc Dafydd yw ef—
Daw i’r ddaear fendithion gwiw!’
(CYTGAN)
Rhoddwch floedd, gorfoleddus lef!
Seiniwch glod Penarglwydd dae’r a nef!
2. Bloeddiwch gân! Lleisiwch gân o fawl!
Bendigedig yw enw’r Iôr!
Adrodd wnawn ei weithredoedd mawr
Hyd derfynau’r ddaear, tir a môr.
Trugarog a graslon, araf ei lid,
Mewn cyfyngder mae’n hawdd ei gael.
A’r dyddiau’n dwysáu at Dduw agosawn,
Heb warafun mae’n rhoi yn hael.
(CYTGAN)
Rhoddwch floedd, gorfoleddus lef!
Seiniwch glod Penarglwydd dae’r a nef!
(Gweler hefyd Salm 89:27; 105:1; Jer. 33:11.)