Cân 1
Priodoleddau Jehofa
Fersiwn Printiedig
1. Nefoedd a daear unwch yn gôr.
Lleisiwch yn gelfydd arianllais fawl Iôr;
Ysblander grewyd sy’n glodfawr a gwiw,
Gwaith ’r Uchaf Fod, Jehofa yw.
2. Tosturiol Dduw ein calon gyffrôdd;
Cyfiawn Frenhiniaeth a rynga ein bodd.
Disgleirwych lewyrch doethineb a hedd
Tarddu a wna o’i hawddgar wedd.
3. Anhaeddol gariad, rhodd yw’n ddiau;
Boed dyrchafedig yr enw di-fai.
Rhinweddau graslon Jehofa uniawn
Molwn, a’i fri clodfori wnawn.
(Gweler hefyd Salm 36:9; 145:6-13; Iago 1:17.