Cân 23 (48)
Rhowch Fawl i Jehofah
1. Rhowch fawl i Jehofah
Cans rhoddodd i chwi
Gomisiwn pregethu’r
Gwirionedd yn hy.
Yr hyn oll sydd gennych,
Pob peth o fawr werth,
Gan Dduw derbyniasoch;
Hael Roddwr o nerth.
2. Ar Dduw fo’ch golygon,
Ymwadu sydd raid.
Fel hyn adlewyrchwch
Ei olau’n ddi-baid.
Rhodiwch yn ei gwmni,
Ceisiwch ymnesáu.
Ac yn ei waith sanctaidd
Boed ichwi barhau.
3. Gwnewch â mawr lawenydd
Wasanaeth eich Duw.
Diolchwch am freintiau
Cyfundrefn mor wiw.
I enw Jehofah,
Ei Deyrnas a’i fri,
Rhowch barch ac anrhydedd
Am byth; yw ein cri.