Cân 13
Gweddi Diolchgarwch
(Salm 95:2)
1. Raslon Jehofa, dyrchafwn dy foliant:
Canwn dy glod ein Penarglwydd a’n Duw.
Wrandäwr gweddi, clyw ymbil diffuant
Tyrfa ffyddlonaf o blith dynolryw.
Mynych ffaeleddau i’r brig deuant beunydd;
Maddau, erfyniwn, ein gwendid a’n cam.
Gwaed drudfawr Crist brynodd inni’n dragywydd
Fyd lle gweinyddir cyfiawnder di-nam.
2. Gwyn fyd y rhai atat Iôn gânt ddynesu,
Ceisiant dy hawddgar gynteddau, O Jah.
Cyfraith ddilychwin ddiddyma ddrygioni,
Glynu a wnawn wrth yr uniawn a’r da.
Perthyn it Dduw mae gogoniant ac urddas;
Nerth a ddarperi in sefyll ein tir.
Duw iachawdwriaeth, cyfarchwn dy Deyrnas—
Arf Theocratiaeth, sylfaenwaith y gwir.
3. Daear, coronog a fydd â’th ddaioni,
Hedd a gorfoledd a leinw y wlad.
Deddfau cyfiawnder fydd iddi’n sylfeini,
Cadarn deyrnasiad dy Fab rydd lesâd.
Gwaeledd ni welwn, na thristwch, nac angau;
Cread clodfori wna fendigaid Lyw.
Iddo rhown ddiolch â chân buddugoliaeth:
“Mawr yw Jehofa ein Brenin clodwiw!”
(Gweler hefyd Salm 65:2, 4, 11; Phil. 4:6.)