Cân 20 (45)
Gweddi Diolchgarwch
(Salm 65:2)
1. Raslon Jehofah, mor deilwng o’n mawl,
Benllywydd tirion, i’n llais mae dy hawl;
Atat y down, di Wrandäwr ein cri,
Gan roi ein hunain i’th fwyn ofal di.
Dyddiol gamweddau i’th erbyn sydd drais,
Am ein pechodau maddeuant yw’n cais.
Drosom, dy Fab ei waed drudfawr a roes,
Gennyt derbyniwn wir addysg a moes.
2. Gwyn fyd y sawl a ddewisi i fyw
Yn dy gynteddau mor ddisglair a gwiw.
Dy dŷ sydd sanctaidd, fe’n tywys d’Air iawn,
Ac â’th ddaioni bodloni a wnawn.
Arswydus, cyfiawn wyt ti yn dy rym—
Tewi ddae’r helbul yn gyfiawn a llym!
Dduw iachawdwriaeth, dy Deyrnas a ddaeth:
Rhaid ei chyhoeddi i bob llwyth ac iaith.
3. Gwrando ein gweddi, gwna’n calon yn llon,
Boed i’th addoliad fod dros y ddae’r gron.
Dy Deyrnas sydd yn goronog â’th lwydd—
Ymaith farwolaeth a dagrau o’n gŵydd!
Popeth sydd aflan, dy Fab difa wna—
’Rholl greadigaeth a lwyr lawenha.
Bloeddiwn orfoledd, rhown ddiolch i ti:
‘Clod i Jehofah ein Brenin o fri!’