CÂN 161
Dy Ewyllys Di Sy’n Fy Mhlesio I
(Salm 40:8)
1. Ar ôl bedydd yn yr Iorddonen
Roedd ei feddwl ’llawn d’eiriau di.
Dy ewyllys oedd tân ei galon,
Llachar oedd ei awydd cry’.
Fe wrthododd bob un temtasiwn,
Yn dy enw daeth dy Fab.
Rhoddodd bopeth, pob ymdrech bosib.
Dilyn camau Iesu wnaf.
(CYTGAN)
D’ewyllys di sy’ ’mhlesio i.
Plîs gwna fi’n ffyddlon, gwna fi’n gry’.
Llawenydd mawr, llawenydd pur,
Yw cael cerdded yn y gwir.
D’ewyllys di sy’ ’mhlesio i.
Mae gen i obaith disglair, clir.
Dy gariad di sy’n wir i mi.
Dod â chlod i ti fy Nhad
Yw ’mhleser i.
2. O dy nabod di, O Jehofa,
Gwir hapusrwydd yw’r rhodd gen ti.
Fy mraint i yw siarad amdanat,
Sefyll dros dy enw di.
Gyda chwmni dy bobl ffyddlon
Fe gyhoeddwn newydd da
Am ysblander, mawredd dy Deyrnas.
Plîs bendithia ni, O Jah!
(CYTGAN)
D’ewyllys di sy’ ’mhlesio i.
Plîs gwna fi’n ffyddlon, gwna fi’n gry’.
Llawenydd mawr, llawenydd pur,
Yw cael cerdded yn y gwir.
D’ewyllys di sy’ ’mhlesio i.
Mae gen i obaith disglair, clir.
Dy gariad di sy’n wir i mi.
Dod â chlod i ti fy Nhad
Yw ’mhleser i.
Am bwrpas hyfryd wir!
(Gweler hefyd Salm 40:3, 10.)