AR Y CLAWR | Y BEIBL—HANES GOROESIAD
Pam Mae’r Beibl Wedi Goroesi
Mae’r Beibl wedi goroesi. O ganlyniad, mae hi’n bosib ichi gael gafael ar gopi a’i ddarllen heddiw. A phan fyddwch chi’n dewis cyfieithiad da o’r Ysgrythurau, gallwch chi fod yn sicr eich bod chi’n darllen copi dibynadwy o’r ysgrifau gwreiddiol.a Ond pam mae’r Beibl wedi goroesi er gwaethaf pydredd naturiol, gwrthwynebiad ffyrnig, ac ymyrraeth fwriadol â’i neges, yn aml mewn ffyrdd rhyfeddol? Beth sydd mor arbennig am y llyfr hwnnw?
“Dw i’n hollol sicr bellach fod y Beibl sydd gen i yn anrheg gan Dduw”
Mae llawer o fyfyrwyr y Beibl wedi dod i’r un casgliad â’r apostol Paul, a ysgrifennodd: “Duw sydd wedi ysbrydoli’r ysgrifau sanctaidd hynny i gyd.” (2 Timotheus 3:16) Maen nhw’n credu bod y Beibl wedi goroesi oherwydd mai Gair unigryw Duw yw’r llyfr hwnnw, ac oherwydd bod Duw wedi ei amddiffyn hyd heddiw. Yn y pen draw, gwnaeth Faizal, a soniwyd amdano yn erthygl agoriadol y gyfres hon, benderfynu ymchwilio’r honiadau hynny drosto’i hun drwy astudio’r Beibl. Cafodd ei synnu gan yr hyn y daeth o hyd iddo. Ymhen dim, dysgodd nad ydy llawer o brif ddysgeidiaethau’r Byd Cred yn y Beibl. Ar ben hynny, gwnaeth pwrpas Duw ar gyfer y ddaear, fel sy’n cael ei ddatgelu yn Ei Air, gyffwrdd a’i galon.
“Dw i’n hollol sicr bellach fod y Beibl sydd gen i yn anrheg gan Dduw,” meddai. “Wedi’r cwbl, os gall Duw greu’r bydysawd, onid oes ganddo’r pŵer i roi llyfr inni a’i amddiffyn? Byddai dweud fel arall yn cyfyngu ar ei bŵer. A phwy ydw i i gyfyngu ar bŵer yr Hollalluog?”—Eseia 40:8.
a Gweler yr erthygl “How Can You Choose a Good Bible Translation?” yn rhifyn Mai 1, 2008, y Tŵr Gwylio Cyhoeddus Saesneg.