LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • T-30 tt. 1-4
  • Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Beibl?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Beibl?
  • Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Beibl?
  • Erthyglau Tebyg
  • Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Dyfodol?
    Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Dyfodol?
  • A Fydd y Meirw yn Cael Byw Eto?
    A Fydd y Meirw yn Cael Byw Eto?
  • Beth Yw Teyrnas Dduw?
    Beth yw Teyrnas Dduw?
  • A Fydd Pobl yn Dioddef am Byth?
    A Fydd Pobl yn Dioddef am Byth?
Gweld Mwy
Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Beibl?
T-30 tt. 1-4

Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Beibl?

Ydych chi’n meddwl bod y Beibl . . .

  • yn llyfr o ddoethineb dynol?

  • yn llyfr llawn chwedlau?

  • yn llyfr oddi wrth Dduw?

MAE’R BEIBL YN DWEUD:

‘Duw sydd wedi ysbrydoli’r ysgrifau sanctaidd i gyd.’—2 Timotheus 3:16, beibl.net.

MAE HYNNY’N GOLYGU

Atebion i gwestiynau mawr bywyd.—Diarhebion 2:1-5.

Cyngor da ar gyfer bywyd hapus.—Salm 119:105.

Gobaith cadarn ar gyfer y dyfodol.—Rhufeiniaid 15:4.

Dyn a dynes yn darllen y Beibl; teulu yn mwynhau cwmni’i gilydd yn yr awyr agored

OND ALLWN NI GREDU BETH MAE’R BEIBL YN EI DDWEUD?

Gallwn, am o leiaf dri rheswm:

  • Cysondeb rhyfeddol. Cafodd y Beibl ei ysgrifennu gan ryw 40 o bobl dros gyfnod o 1,600 o flynyddoedd. Ni wnaeth y rhan fwyaf o’r ysgrifenwyr erioed gwrdd â’i gilydd. Ond eto, un thema ganolog sydd yn rhedeg trwy’r holl lyfr!

  • Gonestrwydd wrth drin hanes. Doedd haneswyr y gorffennol ddim yn hoff iawn o gofnodi methiannau eu pobl. Ar y llaw arall, roedd ysgrifenwyr y Beibl yn onest wrth gofnodi eu camgymeriadau personol yn ogystal â methiannau’r genedl.—2 Cronicl 36:15, 16; Salm 51:1-4.

  • Proffwydoliaethau dibynadwy. Ryw 200 mlynedd o flaen llaw, dywedodd y Beibl y byddai hen ddinas Babilon yn cael ei dinistrio. (Eseia 13:17-22) Datgelodd yr union ffordd y byddai Babilon yn cwympo, a hyd yn oed enw’r gorchfygwr!—Eseia 45:1-3.

    Cafodd nifer fawr o broffwydoliaethau eraill hefyd eu cyflawni, a hynny i’r manylyn lleiaf. Ond mae hynny i’w ddisgwyl mewn llyfr sy’n dod oddi wrth Dduw.—2 Pedr 1:21.

CWESTIWN I FEDDWL AMDANO

Tad, mam, mab a merch

Sut gall Gair Duw wneud eich bywyd yn well?

Mae’r Beibl yn ateb y cwestiwn hwnnw yn ESEIA 48:17, 18 ac yn 2 TIMOTHEUS 3:16, 17.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu