LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w17 Gorffennaf tt. 22-26
  • Boed Iddo Ddod â Dy Gynlluniau Di i Gyd yn Wir

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Boed Iddo Ddod â Dy Gynlluniau Di i Gyd yn Wir
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
  • Isbenawdau
  • CYNLLUNIAU DOETH
  • Y RHESWM DROS WNEUD DISGYBLION
  • LLE BYDD DY GYNLLUNIAU DI YN ARWAIN?
  • BETH YW DY GYNLLUNIAU DI?
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
w17 Gorffennaf tt. 22-26
Brawd yn gafael mewn ffurflen gais i wasanaethu’n llawn-amser yn un llaw a phamffled i fynd i’r Brif Ysgol yn y llaw arall

Boed Iddo Ddod â Dy Gynlluniau Di i Gyd yn Wir

“Ceisia ffafr yr ARGLWYDD bob amser, a bydd e’n rhoi i ti bopeth wyt ti eisiau.”—SALM 37:4

CANEUON: 135, 81

BETH YW DY FARN DI?

  • Pa gynlluniau sy’n gallu arwain at fywyd hapus?

  • Beth gelli di ei ddysgu drwy wasanaethu’n llawn-amser pan wyt ti’n ifanc?

  • Beth gall arloesi arwain tuag ato?

1. Pa benderfyniadau mae’n rhaid i bobl ifanc eu gwneud? Beth all eu helpu i beidio a phryderu’n ormodol? (Gweler y llun agoriadol.)

MAE’N siŵr y byddwch chi rai ifanc yn cytuno ei bod hi’n bwysig i gynllunio taith cyn cychwyn arni. Taith yw bywyd, a’r amser i gynllunio yw pan wyt ti’n ifanc. Wrth gwrs, nid yw cynllunio o’r fath yn hawdd. Dywedodd merch o’r enw Heather: “Mae’n codi ofn. Mae’n rhaid iti benderfynu beth rwyt ti am ei wneud gyda dy fywyd.” Os wyt ti’n teimlo’r un ffordd, cofia eiriau Jehofa: “Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Paid dychryn—fi ydy dy Dduw di! Dw i’n dy nerthu di ac yn dy helpu di.”—Esei. 41:10.

2. Sut rwyt ti’n gwybod bod Jehofa eisiau iti gynllunio ar gyfer dyfodol hapus?

2 Mae Jehofa yn dy annog i gynllunio’n ddoeth ar gyfer y dyfodol. (Preg. 12:1; Math. 6:20) Mae eisiau iti fod yn hapus. Mae hyn yn glir wrth inni weld, clywed, a blasu’r pethau mae Ef wedi eu creu. Mae Jehofa’n gofalu amdanon ni mewn ffyrdd eraill hefyd. Mae’n dysgu’r ffordd orau o fyw inni. Felly, pan fydd pobl yn gwrthod ei gyngor doeth, nid yw’n hapus. Mae’n dweud wrth y rhai hynny: “Roeddech chi’n gwneud pethau oeddwn i’n eu casáu . . . Bydd fy ngweision yn llawen, a chi’n cael eich cywilyddio. Bydd fy ngweision yn canu’n braf.” (Esei. 65:12-14) O wneud penderfyniadau doeth, rydyn ni’n moli Jehofa.—Diar. 27:11.

CYNLLUNIAU DOETH

3. Beth mae Jehofa yn annog iti ei wneud?

3 Pa gynlluniau y mae Jehofa yn dy annog di i’w gwneud? Er mwyn bod yn hapus, mae’n rhaid iti ddod i adnabod Jehofa a’i wasanaethu. Fel hyn y cawson ni’n creu gan Jehofa. (Salm 128:1; Math. 5:3) Dim ond bwyta, yfed, a chael babis y mae anifeiliaid. Ond mae Jehofa eisiau iti wneud penderfyniadau da er mwyn cael bywyd llawn ystyr. Dy Greawdwr di ydy’r “Duw sy’n rhoi cariad,” yr un a greodd pobl “ar ei ddelw ei hun.” (2 Cor. 13:11; Gen. 1:27) Bydd efelychu ein Duw cariadus yn dod â hapusrwydd. Dywed y Beibl: “Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.” (Act. 20:35) Wyt ti wedi profi’r gwirionedd sylfaenol hwn? Mae Jehofa eisiau iti gynllunio ar gyfer y dyfodol ar sail dy gariad tuag at eraill a thuag ato ef.—Darllen Mathew 22:36-39.

4, 5. Pam roedd Iesu’n hapus?

4 Gosododd Iesu esiampl berffaith i chi rai ifanc. Pan oedd yn fachgen, mae’n siŵr ei fod wedi chwarae ac wedi cael hwyl. Fel mae Gair Duw yn ei ddweud, mae “amser i chwerthin . . . ac amser i ddawnsio.” (Preg. 3:4) Gwnaeth Iesu agosáu at Jehofa drwy astudio’r Ysgrythurau. Pan oedd yn 12 oed, roedd yr athrawon yn y deml “yn rhyfeddu gymaint roedd yn ei ddeall.”—Luc 2:42, 46, 47.

5 Pan oedd Iesu’n oedolyn, roedd gwneud ewyllus Duw yn ei wneud yn hapus. Er enghraifft, roedd Duw eisiau iddo “gyhoeddi newyddion da i bobl dlawd” a helpu pobl “sy’n ddall i gael eu golwg yn ôl.” (Luc 4:18) Mae Salm 40:8 yn disgrifio teimladau Iesu: “Mae dy ddysgeidiaeth di yn rheoli fy mywyd i.” Roedd Iesu’n mwynhau dysgu eraill am ei Dad. (Darllen Luc 10:21.) Ar un achlysur, ar ôl siarad â dynes am wir addoliad, dyweddodd Iesu i’w ddisgyblion: “Gwneud beth mae Duw’n ddweud ydy fy mwyd i . . . a gorffen y gwaith mae wedi ei roi i mi.” (Ioan 4:31-34) Roedd Iesu’n hapus oherwydd iddo ddangos cariad tuag at Dduw a thuag at eraill. O wneud yr un peth, byddi di’n hapus.

6. Pam mae’n dda i siarad ag eraill am dy gynlluniau?

6 Mae llawer o Gristnogion yn hapus oherwydd eu bod nhw wedi dechrau arloesi pan oedden nhw’n ifanc. Beth am siarad â nhw am dy gynlluniau? “Mae cynlluniau’n mynd ar chwâl heb ymgynghori, ond yn llwyddo pan fydd llawer yn rhoi cyngor.” (Diar. 15:22) Mae’n debyg y bydd y brodyr a’r chwiorydd hyn yn dweud bod arloesi yn dysgu sgiliau a fydd yn dy helpu di drwy gydol dy fywyd. Yn y nefoedd, dysgodd Iesu lawer o bethau gan ei Dad. Wedyn, yn ystod ei weinidogaeth ar y ddaear, parhaodd i ddysgu. Roedd yn llawen wrth iddo bregethu’r newyddion da i eraill ac wrth iddo aros yn ffyddlon o dan amgylchiadau anodd. (Darllen Eseia 50:4; Heb. 5:8; 12:2) Gad inni weld pam mae’r gwasanaeth llawn-amser yn gallu dy wneud di’n hapus.

Y RHESWM DROS WNEUD DISGYBLION

7. Pam mae llawer o rai ifanc yn hoffi gwneud disgyblion?

7 Dywedodd Iesu: “Ewch i wneud pobl . . . yn ddisgyblion i mi . . . a dysgwch nhw.” (Math. 28:19, 20) O wneud y gwaith hwn yn yrfa, byddi di’n byw bywyd ystyrlon sy’n anrhydeddu Jehofa. Bydd hyn yn gofyn iti dreulio amser er mwyn dysgu crefft. Gwnaeth brawd o’r enw Timothy, a ddechreuodd arloesi pan oedd yn ei arddegau, ddweud: “Rydw i’n hoffi gwasanaethu Jehofa’n llawn-amser oherwydd dyna sut rydw i’n dangos fy nghariad tuag ato. I ddechrau, doeddwn ni ddim yn gallu dechrau’r un astudiaeth Feiblaidd, ond yn nes ymlaen, symudais i diriogaeth arall, ac o fewn mis dechreuais nifer o astudiaethau. Dechreuodd un myfyriwr ddod i Neuadd y Deyrnas. Ar ôl mynychu’r Ysgol Feiblaidd ar Gyfer Brodyr Sengla am ddeufis, derbyniais aseiniad newydd sydd wedi galluogi imi ddechrau pedair astudiaeth Feiblaidd. Rydw i’n hoff iawn o ddysgu pobl a gweld dylanwad yr ysbryd glân arnyn nhw.”—1 Thes. 2:19.

8. Beth mae rhai o bobl ifanc wedi ei wneud er mwyn pregethu i fwy o bobl?

8 Mae rhai pobl ifanc wedi dysgu iaith arall. Er enghraifft, mae Jacob o Ogledd America yn dweud: “Pan oeddwn ni’n saith oed, roedd llawer o fy nghyd-ddisgyblion yn dod o Fietnam. Roeddwn i eisiau siarad â nhw am Jehofa, felly ar ôl ychydig, penderfynais ddysgu’r iaith. Dechreuais ddysgu drwy gymharu rhifynnau Saesneg a Fietnameg o’r Tŵr Gwylio. Fe wnes i hefyd wneud ffrindiau mewn cynulleidfa Fietnameg gyfagos. Pan oeddwn i’n 18 oed, dechreuais arloesi. Wedyn, mynychais yr Ysgol Feiblaidd ar Gyfer Brodyr Sengl. Fe wnaeth hyn fy helpu gyda fy aseiniad presennol, gan mai fi yw’r unig henuriad sydd yn y grŵp Fietnameg. Mae llawer o bobl o Fietnam wedi eu syfrdanu gan fy mod i wedi dysgu eu hiaith. Maen nhw’n fy ngwahodd i mewn, ac yn aml, rwy’n gallu astudio’r Beibl gyda nhw. Mae rhai wedi cael eu bedyddio.”—Cymharer Act. 2:7, 8.

9. Beth mae’r weinidogaeth yn ein dysgu?

9 Mae’r gwaith o wneud disgyblion yn rhoi addysg arbennig inni. Er enghraifft, rwyt ti’n dysgu arferion gwaith da, sut i gyfathrebu’n dda, a sut i fod yn hyderus ac yn garedig. (Diar. 21:5; 2 Tim. 2:24) Ond mae’r weinidogaeth yn dod â llawenydd iti oherwydd dy fod ti’n dysgu sut i brofi dy ddaliadau drwy ddefnyddio’r Ysgrythurau. Rwyt ti hefyd yn dysgu sut i weithio’n agos â Jehofa.—1 Cor. 3:9.

10. Sut mae’n bosibl iti gael llawenydd hyd yn oed mewn tiriogaeth anodd?

10 Hyd yn oed os nad yw llawer eisiau astudio’r Beibl yn dy diriogaeth, mae hi’n dal yn bosibl iti fwynhau’r weinidogaeth. Er mwyn gwneud disgyblion, mae’r gynulleidfa gyfan yn gweithio fel tîm. Er mai dim ond un brawd neu un chwaer sy’n dod o hyd i berson a fydd yn dod yn ddisgybl, rydyn ni gyd yn hapus oherwydd ein bod ni i gyd wedi helpu yn y gwaith pregethu. Er enghraifft, dywedodd Brandon, a wnaeth arloesi am naw mlynedd mewn ardal lle doedd fawr ddim o bobl yn astudio’r Beibl: “Rydw i’n hoff iawn o bregethu’r newyddion da oherwydd dyna beth wnaeth Jehofa ofyn inni ei wneud. Dechreuais arloesi yn fuan ar ôl gadael yr ysgol. Rydw i’n mwynhau calonogi’r rhai ifanc yn ein cynulleidfa a gweld eu cynnydd ysbrydol. Ar ôl mynychu’r Ysgol Feiblaidd ar Gyfer Brodyr Sengl, derbyniais aseiniad arloesi newydd. Dydw i erioed wedi darganfod rhywun yn y diriogaeth sydd wedi astudio hyd at fedydd, ond mae arloeswyr eraill wedi gwneud hynny. Rydw i mor falch y gwnes i gynllunio i helpu yn y gwaith o wneud disgyblion.”—Preg. 11:6.

LLE BYDD DY GYNLLUNIAU DI YN ARWAIN?

11. Pa ffordd arall o wasanaethu Jehofa mae nifer o bobl ifanc wedi ei mwynhau?

11 Mae yna lawer o gyfleoedd i wasanaethu Jehofa. Er enghraifft, mae llawer o bobl ifanc yn helpu gyda’r gwaith adeiladu. Mae angen adeiladu cannoedd o Neuaddau newydd. Mae’r gwaith adeiladu hwn yn anrhydeddu Jehofa, ac mae’n gallu dy wneud di’n hapus. Gelli di hefyd gael llawenydd drwy weithio gyda dy frodyr a dy chwiorydd. Hefyd, gelli di ddysgu llawer o bethau, fel sut i weithio’n galed a chydweithio â dy arolygwyr.

Lluniau o brofiadau person ifanc yn gwasanaethu’n llawn-amser

Mae gwasanaethu’n llawn-amser yn dod â llawer o fendithion (Gweler paragraffau 11-13)

12. Sut gall arloesi arwain at gyfleoedd eraill?

12 Dywedodd brawd o’r enw Kevin: “Ers imi fod yn hogyn bach, rwyf wedi bod eisiau gwasanaethu Jehofa’n llawn-amser. O’r diwedd, dechreuais arloesi’n 19 oed. Er mwyn fy nghynnal fy hun, gweithiais yn rhan-amser i frawd a oedd yn adeiladwr. Dysgais sut i osod toeau, ffenestri, a drysau. Wedyn, treuliais ddwy flynedd yn helpu pobl i ailadeiladu tai a Neuaddau’r Deyrnas ar ôl i gorwynt daro. Pan glywais am yr anghenion adeiladu yn Ne Affrica, rhoddais gais i mewn a chefais wahoddiad. Yma yn Affrica, rwy’n symud o un prosiect adeiladu i’r nesaf bob ychydig o wythnosau. Mae fy ngrŵp adeiladu fel teulu imi. Rydyn ni’n byw gyda’n gilydd, yn astudio’r Beibl gyda’n gilydd, ac yn gweithio gyda’n gilydd. Hefyd rwy’n mwynhau pregethu gyda’r brodyr lleol. Mae’r cynlluniau a wnes i pan oeddwn ni’n ifanc wedi fy ngwneud yn hapus mewn ffyrdd nad oeddwn ni’n eu disgwyl.”

13. Pam mae llawer o rai ifanc yn hapus i wasanaethu Jehofa ym Methel?

13 Bellach, mae llawer a oedd yn arloesi yn gwasanaethu ym Methel. Mae hyn yn ffordd hapus o fyw oherwydd dy fod ti’n gwneud popeth ar gyfer Jehofa. Mae’r teulu Bethel yn helpu i ddosbarthu Beiblau a chyhoeddiadau sy’n helpu pobl i ddysgu am y gwirionedd. Dywedodd brawd o’r enw Dustin: “Ers imi fod yn naw oed, fy nod oedd gwasanaethu’n llawn-amser, a dechreuais arloesi ar ôl gadael ysgol. Ar ôl blwyddyn a hanner, cefais wahoddiad i weithio yn y Bethel, lle dysgais sut i weithio gwasg argraffu a sut i raglennu cyfrifiaduron. Ym Methel, rydw i’n mwynhau clywed am y cynnydd sy’n digwydd yn y gwaith pregethu ledled y byd. Rydw i’n mwynhau gwasanaethu yma oherwydd fy mod i’n helpu pobl i agosáu at Jehofa.”

BETH YW DY GYNLLUNIAU DI?

14. Beth gelli di ei wneud nawr er mwyn paratoi ar gyfer arloesi?

14 Sut gelli di baratoi ar gyfer arloesi? Er mwyn gwasanaethu Jehofa, mae’n rhaid datblygu rhinweddau Cristnogol. Astudia Air Duw yn rheolaidd, myfyria arno, a cheisia fynegi dy ffydd yn y cyfarfodydd. Tra wyt ti yn yr ysgol, mae’n bosibl iti wella dy allu i siarad ag eraill am y newyddion da. Dysga sut i ddangos diddordeb mewn eraill trwy ofyn am eu barn ac yna gwranda ar eu hatebion. Hefyd, mae’n bosibl iti ofyn i wneud pethau yn y gynulleidfa, fel helpu i lanhau a thrwsio’r Neuadd. Mae Jehofa’n hapus i ddefnyddio’r rhai sy’n ostyngedig ac sy’n barod i helpu. (Darllen Salm 110:3; Act. 6:1-3) Gwnaeth yr apostol Paul wahodd Timotheus i wasanaethu fel cenhadwr oherwydd “dim ond pethau da oedd gan Gristnogion Lystra ac Iconium i’w dweud am Timotheus.”—Act. 16:1-5.

15. Sut gelli di baratoi ar gyfer ennill bywoliaeth?

15 Mae angen swydd ar y rhan fwyaf o arloeswyr. (Act. 18:2, 3) Efallai y gelli di gynllunio i gymryd cwrs byr yn yr ysgol a fydd yn dy helpu di i gael gwaith rhan-amser. Siarada gydag arolygwr y gylchdaith ac arloeswyr eraill ynglŷn â dy gynlluniau, a gofynna iddyn nhw am awgrymiadau. Yna, fel dywed y Beibl, “rho bopeth wnei di yn nwylo’r ARGLWYDD, a bydd dy gynlluniau’n llwyddo.”—Diar. 16:3; 20:18.

16. Sut gall gwasanaeth llawn-amser dy baratoi di i ddelio â chyfrifoldebau eraill yn y dyfodol?

16 Mae Jehofa eisiau iti “gael gafael” ar ddyfodol hapus. (Darllen 1 Timotheus 6:18, 19.) Mae’r gwasanaeth llawn-amser yn dy helpu di i aeddfedu’n ysbrydol wrth iti weithio â gwasanaethwyr llawn-amser eraill. Hefyd, mae llawer wedi dweud bod gwasanaethu’n llawn-amser pan oedden nhw’n ifanc wedi eu helpu nhw yn eu priodas. Yn aml, mae’r rhai sy’n arloesi cyn priodi yn parhau i arloesi gyda’i gilydd.—Rhuf. 16:3, 4.

17, 18. Sut gelli di gynllunio ar gyfer y dyfodol?

17 Dywed Salm 20:4 am Jehofa: “Boed iddo roi i ti beth wyt ti eisiau, a dod â dy gynlluniau di i gyd yn wir.” Wrth iti gynllunio am y dyfodol, meddylia am yr hyn rwyt ti wir eisiau ei wneud gyda dy fywyd. Meddylia am yr hyn y mae Jehofa yn ei wneud heddiw a sut gelli di gael rhan yn ei waith. Wedyn, gwna beth sy’n ei blesio.

18 Defnyddia dy fywyd i wasanaethu Jehofa’n llawn, a byddi di’n hapus wrth iti ei anrhydeddu. “Ceisia ffafr yr ARGLWYDD bob amser, a bydd e’n rhoi i ti bopeth wyt ti eisiau.”—Salm 37:4.

a Newidiwyd yr enw i Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu