LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp19 Rhif 2 t. 3
  • Pan Fo Bywyd yn Eich Llethu

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pan Fo Bywyd yn Eich Llethu
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2019
  • Erthyglau Tebyg
  • Pan Wyt Ti’n Teimlo Nad Ydy Bywyd yn Werth ei Fyw
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
  • Pan Fo Anwylyn yn Marw
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2019
  • Pan Fo Trychineb yn Taro
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2019
  • Mae Bywyd yn Werth ei Fyw!
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2019
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2019
wp19 Rhif 2 t. 3
Dynes ifanc yn wylo yn y gweithle

Pan Fo Bywyd yn Eich Llethu

GALL bywyd fod yn bleser pur—pan mae popeth yn mynd yn dda. Ond beth os yw eich amgylchiadau yn gwneud ichi deimlo bod bywyd yn ormod?

Er enghraifft, esboniodd Sally,a o’r Unol Daleithiau, a gollodd y rhan fwyaf o’i phethau materol mewn corwynt: “Doeddwn i ddim yn gwybod os oeddwn i’n gallu dioddef llawer mwy. O’n i’n aml yn teimlo fy mod i wedi dod i ben fy nhennyn.”

Neu beth os bydd anwylyn yn marw? Dywedodd Janice, o Awstralia: “Pan fu farw fy nau fab, oedd hi fel petai fy mywyd wedi torri’n deilchion ac oedd rhaid imi gasglu’r darnau a’u rhoi nhw’n ôl at ei gilydd. Erfyniais ar Dduw: ‘Plîs, alla’ i ddim goddef mwy o boen! Jest gad imi fynd i gysgu. Dw i ddim eisiau deffro eto.’”

Ar y llaw arall, torrwyd calon Daniel pan fuodd ei wraig yn anffyddlon. Esboniodd: “Pan gyffesodd fy ngwraig ei hanffyddlondeb, o’n i’n teimlo fel petai cyllell wedi trywanu fy nghalon. Teimlais boen gorfforol yn fy nhrywanu dro ar ôl tro—ac aeth hynny ymlaen am fisoedd.”

Bydd y rhifyn hwn o’r Tŵr Gwylio yn trafod pam mae bywyd yn werth ei fyw hyd yn oed pan fo

  • Trychineb yn taro

  • Anwylyn yn marw

  • Cymar yn anffyddlon

  • Salwch difrifol arnoch

  • Bywyd yn mynd yn rhy anodd

Felly, yn gyntaf, sut gallwn ni ymdopi pan fo trychineb naturiol yn taro?

a Newidiwyd rhai enwau yn y gyfres hon o erthyglau.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu