LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp19 Rhif 2 tt. 4-5
  • Pan Fo Trychineb yn Taro

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pan Fo Trychineb yn Taro
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2019
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • MAE GWYBOD GWIRIONEDD Y BEIBL YN GWNEUD BYWYD YN WERTH EI FYW
  • Wyt Ti Wedi Paratoi?
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2020
  • Rho Dy Holl Bryderon i Jehofa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • Sut i Ymdopi â Phryder
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Dynion Sydd â Phryder—Sut Gall y Beibl Helpu?
    Pynciau Eraill
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2019
wp19 Rhif 2 tt. 4-5
Dau ddyn yn eistedd ymysg adfeilion adeilad a chwalwyd

Pan Fo Trychineb yn Taro

“Anobeithio’n llwyr wnaethon ni ar y cychwyn. Cafodd ein heiddo i gyd ei ddinistrio gan dirlithriad a llifogydd.”—Andrew, Sierra Leone.

“Ar ôl y corwynt, aethon ni’n ôl i’n cartref. Doedd dim byd ar ôl. Cawson ni fraw. Syrthiodd fy merch ar ei gliniau a beichio crio.”—David, Ynysoedd y Wyryf.

OS YDYCH chi erioed wedi goroesi trychineb, efallai y byddwch yn deall beth mae goroeswyr eraill wedi ei brofi: y sioc, y gwadu, y dryswch, y pryder, a’r hunllefau. Wedi eu llethu gan faich blinder ac anobaith, does gan lawer o oroeswyr mo’r awydd i ddod at eu hunain.

Os yw’ch bywyd chi wedi cael ei ddifetha gan drychineb, gallwch chithau hefyd deimlo eich bod chi wedi dod i ben eich tennyn. Mae’n bosib eich bod yn teimlo nad yw bywyd yn werth ei fyw. Ond, mae’r Beibl yn egluro bod eich bywyd yn werth ei fyw a bod ’na sail gadarn dros gredu mewn dyfodol gwell.

MAE GWYBOD GWIRIONEDD Y BEIBL YN GWNEUD BYWYD YN WERTH EI FYW

Yn ôl Pregethwr 7:8: “Mae gorffen rhywbeth yn well na’i ddechrau.” Ar y cychwyn pan ydych chi’n dechrau dod atoch eich hun, gall bywyd ymddangos yn anobeithiol. Ond wrth ichi ddal ati yn amyneddgar i gael eich traed danoch, gall pethau wella.

Mae’r Beibl yn proffwydo amser pan “fydd sŵn crio a sgrechian ddim i’w glywed . . . byth eto.” (Eseia 65:19) Fe ddaw hyn yn wir pan gaiff y ddaear ei throi’n baradwys o dan Deyrnas Dduw. (Salm 37:11, 29) Bydd trychinebau yn y gorffennol pell. Bydd unrhyw loes calon neu atgofion poenus sy’n llechu yn cael eu dileu am byth, am fod Duw yn addo: “Bydd pethau’r gorffennol wedi eu hanghofio; fyddan nhw ddim yn croesi’r meddwl.”—Eseia 65:17.

Ystyriwch hyn: Mae’r Creawdwr wedi trefnu “dyfodol llawn gobaith i chi”—bywyd heddychlon o dan deyrnasiad perffaith Duw. (Jeremeia 29:11) A fydd gwybod y gwirionedd hwn yn gwneud eich bywyd yn werth ei fyw? Dywedodd Sally, a ddyfynnwyd ar ddechrau’r erthygl, “Mae atgoffa eich hun o’r pethau hyfryd y bydd Teyrnas Dduw yn eu gwneud droson ni yn y dyfodol yn gallu eich helpu i anghofio poen y gorffennol a chanolbwyntio ar ymdopi heddiw.”

Beth am ddysgu mwy am beth fydd Teyrnas Dduw yn ei wneud cyn bo hir dros ddynolryw? Gall gwneud hyn eich sicrhau chi fod bywyd yn werth ei fyw nawr er gwaethaf yr hyn rydych chi wedi ei ddioddef. Wrth edrych ymlaen yn frwd at ddyfodol heb unrhyw drychineb, gall y cyngor ymarferol sydd yn y Beibl eich helpu chi i ymdopi â chanlyniadau trychineb. Ystyriwch ychydig o enghreifftiau.

Adnodau o’r Beibl a All Helpu

Ceisiwch gael digon o orffwys.

“‘Mae un llond llaw gyda gorffwys yn well na dau lond llaw o ganlyniad i orweithio.’ Ydy, mae fel ceisio rheoli’r gwynt!”—Pregethwr 4:6.

Mae ymchwil yn dangos y gall diffyg cwsg da ar ôl profiad ysgytwol wneud symptomau trawma yn waeth, a’i gwneud hi’n anoddach i reoli eich teimladau. Felly, mae’n ddoeth cael digon o gwsg.

Bwriwch eich bol.

“Mae pryder yn gallu llethu rhywun, ond mae gair caredig yn codi calon.”—Diarhebion 12:25.

Siaradwch ag aelod o’r teulu neu gyfaill agos. Yn ogystal â bod yn glust i wrando, gall aelodau’r teulu neu gyfeillion agos roi anogaeth a help ymarferol.a

Edrychwch ymlaen at ddyddiau gwell.

“Dŷn ni’n edrych ymlaen at y nefoedd newydd a’r ddaear newydd mae Duw wedi’i haddo, lle bydd popeth mewn perthynas iawn gydag e.”—2 Pedr 3:13.

a Weithiau bydd angen triniaeth feddygol ar rywun sydd dan straen hirdymor neu sydd â phryder difrifol.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu