LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp19 Rhif 3 t. 3
  • Y Gwir am Farwolaeth

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Y Gwir am Farwolaeth
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2019
  • Erthyglau Tebyg
  • Fideo Newydd i Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd
    Ein Gweinidogaeth—2014
  • Sut Gall y Beibl Eich Helpu?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Sut Gall y Beibl Eich Helpu?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Gwersi Agoriadol am y Beibl
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2019
wp19 Rhif 3 t. 3
Lluniau o fywyd dynes fel plentyn, yn ymarfer y piano, yn dal tusw o flodau, ar ddydd ei phriodas, gyda’i gŵr a’i mab, gyda’i gŵr yn eu henaint, yn canu’r piano, ac nawr ar ei phen ei hun

Y Gwir Am Farwolaeth

DYCHMYGWCH eich hun yn gwylio ffilm am wraig enwog, efallai cerddores rydych chi’n ei hedmygu. Mae’r ffilm yn cychwyn drwy ei dangos hi fel plentyn yn dysgu canu’r piano a’i ymarfer drosodd a throsodd. Wedyn, rydych chi’n ei gweld yn perfformio mewn cyngerdd, yn teithio’r byd, ac yn ennill enwogrwydd rhyngwladol. Mewn dim o dro, mae hi’n heneiddio, ac wrth i’r ffilm orffen, mae hi’n marw.

Stori go iawn ydy hon sy’n rhoi cipolwg ar fywyd sydd wedi dod i ben. Petai’r ffilm am gerddor, gwyddonydd, athletwr, neu rywun sy’n enwog am reswm arall, byddai’r stori fwy neu lai yr un fath. Cyflawnodd y person lawer, ond dychmygwch gymaint mwy fyddai ei lwyddiant oni bai am henaint a marwolaeth.

Er bod hyn yn drist, dyna beth sydd o flaen pob un ohonon ni. (Pregethwr 9:5) Er gwaethaf ein holl ymdrechion, rydyn ni wedi methu trechu henaint a marwolaeth. Hefyd, gallwn ni golli ein bywyd yn ddirybudd oherwydd salwch neu ddamwain. Dywed y Beibl ein bod ni’n debyg i darth y bore sy’n “ymddangos am ryw ychydig, ac yna’n diflannu!”—Iago 4:14.

Gan fod bywyd yn gallu ymddangos yn ansicr ac yn ddibwrpas, mae llawer yn mabwysiadu’r agwedd: “Gadewch i ni gael parti ac yfed; falle byddwn ni’n marw fory!” (1 Corinthiaid 15:32) Onid yw hyn yn dangos eu bod nhw wedi colli gobaith am y dyfodol? Yn hwyr neu’n hwyrach, ac yn enwedig wrth wynebu profiad poenus, byddwch chi’n gofyn, ‘Ai’r bywyd hwn yw’r cyfan sydd?’ Ble gallwch chi gael hyd i’r ateb?

Mae llawer yn troi at wyddoniaeth. Mae gwyddonwyr a meddygon wedi ein helpu i fyw’n hirach, ac mae rhai yn ceisio gwneud inni fyw’n hirach fyth. Beth bynnag fydd canlyniadau eu gwaith, bydd y cwestiynau canlynol yn dal i fodoli: Pam rydyn ni’n heneiddio ac yn marw? A gaiff ein gelyn, marwolaeth, ei threchu? Bydd yr erthyglau canlynol yn trafod hyn ac yn ateb y cwestiwn: Ai’r bywyd hwn yw’r cyfan sydd?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu