Fideo Newydd i Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd
Mae fideo byr ar jw.org gyda’r teitl Pam Astudio’r Beibl? yn cyrraedd cynulleidfa eang. Mae’r fideo wedi ei gynllunio i annog pobl i dderbyn y cyfle i astudio’r Beibl gyda ni am ddim. Gellir dod o hyd iddo drwy bwyso “Gofynnwch am Astudiaeth Feiblaidd” ar waelod y dudalen hafan, neu drwy sganio’r cod QR (ymateb cyflym) ar gefn un o’r traethodynnau newydd. Dyma rai awgrymiadau ar sut y gallwch wneud defnydd da o’r fideo.
Wrth alw yn ôl ar rywun, gallwch ddweud: “Allai ddangos fideo byr ichi sy’n egluro sut y gallwch gael atebion i’ch cwestiynau am y Beibl?” Petai’n cytuno, dangoswch y fideo iddo, un ai ar eich dyfais symudol neu ar ei gyfrifiadur ef.
Petawn ni’n tystiolaethu’n anffurfiol neu’n gyhoeddus ac yn rhoi ein traethodynnau newydd i bobl, anogwch nhw i sganio’r cod QR gyda’u dyfeisiau symudol. Mewn llawer o ieithoedd mae’r cod QR yn eich arwain chi yn syth at y fideo. Felly, weithiau mae’n bosibl chwarae’r fideo yn y fan a’r lle drwy ddefnyddio eich dyfais symudol chi.
Dywedwch wrth eich cyd-weithwyr, ffrindiau ysgol, perthnasau, ac eraill am y fideo, a chynigiwch i’w ddangos iddyn nhw. Neu, ebostiwch y ddolen, a gwahodd nhw i wylio’r fideo yn eu hamser eu hunain.
Drwy wneud defnydd da o’r adnodd newydd hwn, efallai gallwn astudio’r Beibl gyda mwy o bobl, a’u helpu nhw i gael bywyd tragwyddol.—Act. 13:48.