LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp20 Rhif 1 tt. 12-13
  • Y Gwir am Deyrnas Dduw

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Y Gwir am Deyrnas Dduw
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2020
  • Erthyglau Tebyg
  • Mae Teyrnas Dduw yn Llywodraethu
    Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
  • Beth Yw Teyrnas Dduw?
    Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni?
  • Beth Yw Teyrnas Dduw?
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Beth Yw Teyrnas Dduw?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2020
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2020
wp20 Rhif 1 tt. 12-13
Y ddaear, fel y gwelir o’r gofod, a golau’r haul yn disgleirio arni

Y Gwir am Deyrnas Dduw

Dysgodd Iesu ei ddilynwyr i weddïo: “Ein Tad yn y nefoedd, sancteiddier dy enw; deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys, ar y ddaear fel yn y nef.” (Mathew 6:9, 10, BCND) Beth yw Teyrnas Dduw? Beth y mae’n ei wneud? A pham dylen ni weddïo am iddi ddod?

Iesu yw Brenin Teyrnas Dduw.

Luc 1:31-33: “Iesu ydy’r enw rwyt i’w roi iddo. Bydd yn ddyn pwysig iawn, a bydd yn cael ei alw’n Fab y Duw Goruchaf. Bydd yr Arglwydd Dduw yn ei osod i eistedd ar orsedd y Brenin Dafydd, a bydd yn teyrnasu dros bobl Jacob am byth. Fydd ei deyrnasiad byth yn dod i ben!”

Y Deyrnas oedd y prif beth y pregethodd Iesu amdano.

Mathew 9:35: “Roedd Iesu’n teithio o gwmpas yr holl drefi a’r pentrefi yn dysgu’r bobl yn eu synagogau, yn cyhoeddi’r newyddion da am deyrnasiad Duw ac yn iacháu pob afiechyd a salwch.”

Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion pa bethau a fyddai’n dangos bod y Deyrnas ar fin dod.

Mathew 24:7: “Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd newyn mewn gwahanol leoedd, a daeargrynfeydd.”

Heddiw, mae disgyblion Iesu yn pregethu ledled y byd am y Deyrnas.

Mathew 24:14: “Bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd. Bydd pob gwlad yn ei glywed, a dim ond wedyn fydd y diwedd yn dod.”

Teyrnas Dduw—Y Ffeithiau

Lleoliad. Mae Teyrnas Dduw yn llywodraeth go iawn sydd wedi ei sefydlu yn y nef gan Dduw.—DANIEL 2:44; MATHEW 4:17, BCND.

Pwrpas. Bydd Teyrnas Dduw yn troi’r ddaear yn baradwys lle bydd y ddynoliaeth gyfan yn byw mewn heddwch, ac ni fyddan nhw byth yn mynd yn sâl nac yn marw.—SALM 37:11, 29.

Rheolwyr. Gwnaeth Duw benodi Iesu yn Frenin i deyrnasu yn y nefoedd ynghyd â 144,000 o gyd-reolwyr a brynwyd o’r ddaear.—LUC 1:30-33; 12:32; DATGUDDIAD 14:1, 3.

Deiliaid. Bydd deiliaid y Deyrnas yn byw ar y ddaear ac yn dewis ildio i reolaeth Iesu ac ufuddhau i gyfreithiau’r Deyrnas.—MATHEW 7:21.

Pam Mai Iesu Yw’r Dewis Gorau i Reoli Dros y Ddynoliaeth?

Tra oedd Iesu ar y ddaear, profodd y byddai ef yn rheolwr galluog a chariadus oherwydd ei fod wedi

  • Dangos ei fod yn gofalu am y tlodion.—LUC 14:13, 14.

  • Casáu anghyfiawnder ac anonestrwydd.—MATHEW 21:12, 13.

  • Rheoli grymoedd natur.—MARC 4:39.

  • Bwydo miloedd o bobl.—MATHEW 14:19-21.

  • Tosturio wrth y rhai sâl a gwella’r rhai oedd yn dioddef.—MATHEW 8:16.

  • Atgyfodi’r meirw.—IOAN 11:43, 44.

Sut Gall Teyrnas Dduw Eich Helpu Chi Heddiw?

Gallwch gael bywyd hapusach heddiw os ydych chi’n dod yn un o ddeiliaid Teyrnas Dduw. Er enghraifft, mae deiliaid y Deyrnas yn

  • Gwneud eu “gorau glas i fyw mewn perthynas dda gyda phawb.”—HEBREAID 12:14.

  • Mwynhau heddwch ac undod yn y teulu oherwydd bod y naill gymar priod yn caru ac yn parchu’r llall.—EFFESIAID 5:22, 23, 33, BCND.

  • Hapus ac yn fodlon gan eu bod yn ymwybodol o’u hangen ysbrydol.—MATHEW 5:3, BCND.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu