Mae Jehofah yn Ein Hyfforddi Ni ar Gyfer y Gwaith o Bregethu
1. Pan fydd Jehofah yn rhoi gwaith i rywun, beth hefyd y mae yn ei roi?
1 Pan fydd Jehofah yn rhoi gwaith i rywun, y mae hefyd yn rhoi’r help sydd ei angen er mwyn cwblhau’r gwaith hwnnw. Er enghraifft, pan ddywedodd Jehofah wrth Noa am adeiladu’r arch, fe wnaeth hefyd egluro sut i fynd ati, oherwydd doedd Noa erioed wedi gwneud gwaith fel hynny o’r blaen. (Gen. 6:14-16) Pan gafodd y bugail gostyngedig Moses y gwaith o fynd at henuriaid Israel ac at Pharo, addawodd Jehofah: “Rhof help iti i lefaru, a’th ddysgu beth i’w ddweud.” (Ex. 4:12) Yn yr un modd, mae Jehofah yn ein hyfforddi ni ar gyfer y gwaith o bregethu’r newyddion da. Mae’n gwneud hyn trwy gyfrwng Ysgol y Weinidogaeth a’r Cyfarfod Gwasanaeth. Sut gallwn ni elwa ar yr hyfforddiant hwn?
2. Sut gallwn ni elwa ar Ysgol y Weinidogaeth?
2 Ysgol y Weinidogaeth: Edrychwch dros y deunydd ar gyfer pob cyfarfod o flaen llaw. Yna, wrth weld sut mae’r myfyrwyr eraill yn cyflwyno’r wybodaeth, byddwch yn hogi eich sgiliau dysgu. (Diar. 27:17) Dewch â’r llyfr Ministry School i’r cyfarfod i’w ddefnyddio fel gweithlyfr. Wrth i arolygwr yr ysgol gyfeirio ato ar ôl pob anerchiad, tanlinellwch y pwyntiau rydych chi am eu defnyddio, ac ysgrifennwch nodiadau ar ymyl y tudalennau. Wrth gwrs, y ffordd orau i elwa ar yr ysgol yw cymryd rhan. Ydych chi wedi ymaelodi? Pan gewch chi aseiniad, paratowch yn dda a rhowch unrhyw gyngor rydych chi’n ei gael ar waith. Defnyddiwch yr hyn rydych chi wedi ei ddysgu yn y weinidogaeth.
3. Sut gallwn ni elwa ar y Cyfarfod Gwasanaeth?
3 Y Cyfarfod Gwasanaeth: Bydd yn haws inni gofio’r awgrymiadau a geir yn y cyfarfod hwn os ydyn ni’n darllen y wybodaeth o flaen llaw a pharatoi sylwadau. Os ydyn ni’n cadw ein sylwadau’n fyr, bydd mwy yn cael cyfle i gymryd rhan. Rhowch sylw manwl i’r arddangosiadau, a defnyddiwch unrhyw syniadau a fydd yn gwella eich gweinidogaeth. Cadwch gopïau o erthyglau allweddol a geir yn Ein Gweinidogaeth er mwyn cyfeirio atyn nhw yn y dyfodol.
4. Pam dylen ni wneud yn fawr o’n hyfforddiant theocrataidd?
4 Fel y gwaith a roddwyd i Noa a Moses, mae ein gwaith ni o bregethu’r newyddion da drwy’r byd i gyd yn dipyn o her. (Math. 24:14) Medrwn ni lwyddo os ydyn ni’n dibynnu ar Jehofah ac yn gwneud yn fawr o’r hyfforddiant y mae yn ei roi inni.—Salm 25:4.