Rhaglen Wythnos Medi 26
WYTHNOS YN CYCHWYN MEDI 26
Cân 64 a Gweddi
□ Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa:
we t. 11 ¶2–t. 13 ¶2, blwch ar t. 12 (25 mun.)
□ Ysgol y Weinidogaeth:
Darlleniad o’r Beibl: Salm 142-150 (10 mun.)
Rhif 1: Salm 144:1–145:4 (hyd at 4 mun.)
Rhif 2: Wnaeth Teyrnas Dduw Ddechrau Teyrnasu yn y Ganrif Gyntaf?—rs-E t. 232 ¶4-6 (5 mun.)
Rhif 3: Pam Dylen Ni Beidio â “Rhoi Lle i Ffafriaeth”?—Iag. 2:1-4 (5 mun.)
□ Cyfarfod Gwasanaeth:
10 mun: Cyhoeddiadau. Trafodwch “Un Ffordd o Ddefnyddio’r Llyfryn Neges y Beibl.” Gan ddefnyddio’r cyflwyniad enghreifftiol ar dudalen 4, dangoswch sut y gellir dechrau astudiaeth ddydd Sadwrn Hydref 1. Anogwch bawb i gymryd rhan.
10 mun: Blwch Cwestiynau. Trafodaeth. Dylid cynnwys sylwadau ar rifyn Mawrth 2005 Our Kingdom Ministry, tudalen 4.
15 mun: Paratoi i Gynnig y Cylchgronau ym Mis Hydref. Trafodaeth. Defnyddiwch un neu ddau funud i dynnu sylw at erthyglau fydd yn apelio at bobl yn eich tiriogaeth. Wedyn ystyriwch sut y gallwn ni gyflwyno dau neu dri o’r erthyglau hyn. Gofynnwch i’r gynulleidfa awgrymu cwestiynau fydd yn ennyn diddordeb, ac yna gofynnwch am adnodau addas i’w darllen. Mae’r Awake! Hydref yn rhifyn arbennig, felly gofynnwch am sylwadau ar y math o bobl sy’n debyg o fwynhau y rhifyn hwn, a sut gallwn ni ei ddosbarthu’n eang. Dangoswch sut y gellir cynnig pob rhifyn.
Cân 68 a Gweddi